Ewch i’r prif gynnwys

Catalysis yn Sefydliad Catalysis Caerdydd

Mae’r Ysgol Cemeg wedi datblygu cryfder penodol mewn Catalysis Heterogenaidd a Gwyddoniaeth Arwynebau, gyda sefydliad ymchwil pwrpasol i’r maes cyffrous hwn o astudiaeth. Fel rhan o’r rhaglen Cemeg (PhD/MPhil), gall myfyrwyr gynnal eu hymchwil yn y sefydliad hwn.

Mae catalysis wrth wraidd sawl proses gemegol, drwy’r labordy ymchwil academaidd i systemau byw neu adweithyddion diwydiannol mawr. Drwy ddefnyddio catalysis yn ofalus ac yn ddeallus gellir gwneud nifer o brosesau yn gyflymach, yn lanach ac yn fwy cynaliadwy.

Mae ein gwaith ymchwil yn Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) yn mynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n wynebu gwyddoniaeth ar hyn o bryd:

  1. darparu dŵr glân drwy reoli a dinistrio llygryddion
  2. amddiffyn yr awyrgylch
  3. defnyddio adnoddau presennol yn fwy effeithlon
  4. datblygu tanwyddau carbon isel a sero carbon
  5. galluogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant i sicrhau y bydd yr atebion catalytig yr ydym yn eu darganfod neu eu dyfeisio yn cael eu mwyhau a’u datblygu i dechnolegau masnachol.

Nodweddion unigryw

  • Ni yw’r grwpio ymchwil mwyaf mewn catalysis yn y DU
  • Mae ein gweithgareddau ymchwil yn cwmpasu’r rhan fwyaf o feysydd catalysis
  • Rydym yn un o aelodau gwreiddiol Canolfan Catalysis y DU.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Dr Ben Ward

Administrative contact

Mae cryfderau ymchwil penodol yn cynnwys:

  • Catalysis aur
  • Catalysis amgylcheddol
  • Ffotocatalysis
  • Biocatalysis
  • Electrocatalysis
  • Darganfod catalydd
  • Synthesis catalydd
  • Mecanweithiau adwaith catalytig
  • Theori a modelu.

Cyfadran Nodedig

Mae Yr Athro Hutchings, FRS, Cyfarwyddwr CCI, yn un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw ym maes catalysis heterogenaidd, gydag enw da yn fyd-eang am dorri tir newydd drwy ddefnyddio nano-ronynnau aur mewn ffyrdd arloesol. Mae wedi derbyn dau o’r gwobrau mwyaf mawreddog ym maes gwyddoniaeth - y Thompson Reuters Citation Laureate a Medal Davy y Gymdeithas Frenhinol.

Prosiectau

Bob blwyddyn mae’r Ysgol Cemeg yn croesawu ymgeiswyr sydd wedi sicrhau arian gan noddwyr allanol, neu sy'n ariannu eu hunain.

Mae gennym restr helaeth o brosiectau sydd ar gael. Gellir cael manylion am bob prosiect drwy gysylltu â’r aelod o staff academaidd yn uniongyrchol.  Nodwch y prosiect(au) yr hoffech gael eu hystyried ar eu cyfer ar eich ffurflen gais.

Yn y lle cyntaf dylech gyflwyno CV a Llythyr Eglurhaol i oruchwyliwr y prosiect yn nodi manylion y prosiect yr hoffech gael eich ystyried amdano.

Yna dylid cyflwyno ceisiadau ffurfiol drwy Wasanaeth Ceisiadau Ar-lein Prifysgol Caerdydd. Yn yr adran cynnig ymchwil yn eich cais, nodwch deitl y prosiect a goruchwylwyr y prosiect hwn a chopïo disgrifiad y prosiect.

Wrth ateb y cwestiwn ‘Sut ydych chi’n bwriadu ariannu eich astudiaethau?’, nodwch y manylion ac uwchlwytho unrhyw ddogfennau sy’n darparu’r dystiolaeth (er enghraifft: llythyr cadarnhau ysgoloriaeth).

Mae’r rhagolygon gyrfa ar gyfer graddedigion y rhaglen hon yn wych. Mae graddedigion diweddar wedi mynd ymlaen i weithio i nifer o gwmnïau rhyngwladol adnabyddus gan gynnwys Jaguar Land Rover a Johnson Matthey.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Cemeg.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig