Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ôl-raddedig

PhD students on a picnic

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi cyfle i chi weithio ac astudio ochr yn ochr ag academyddion sydd wedi'u cydnabod yn rhyngwladol.

Mae ein rhaglenni MPhil a PhD yn gysylltiedig ag enw da sefydledig yr Ysgol ym mhob agwedd ar gynaliadwyedd, trefoli, hanes pensaernïol a dulliau ymchwil a arweinir gan ddylunio ac yn cynnig cyfle i chi weithio'n agos gydag academyddion sy'n gweithio yn y maes astudio rydych chi wedi’i ddewis.

Mae ein cymuned ymchwil ôl-raddedig yn cynnwys tua 70 o fyfyrwyr ymchwil. Mae'r myfyrwyr hyn i gyd ar wahanol gamau yn eu hastudiaethau M.Phil / PhD ac yn astudio amrywiaeth eang o bynciau a chwestiynau sy'n ymwneud â'r amgylchedd adeiledig.  Gellir gweld detholiad o brosiectau sy'n cynrychioli’r gwaith ar y gweill ac i roi rhagflas o ddiddordebau a gweithgareddau ymchwil yr Ysgol ar dudalennau M.Phil / PhD ein gwefan arddangosfa’r haf Arddangosfa Ysgol Pensaerniaeth Cymru.

Grwpiau Ymchwil ac Ysgolheictod

Mae ein Grwpiau Ymchwil ac Ysgolheictod cynhwysol yn cynnal ac yn cefnogi ein diwylliant ymchwil ac yn helpu i fentora a meithrin ein myfyrwyr ymchwil ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Fel myfyriwr ymchwil, bydd gennych fynediad i'n holl Grwpiau Ymchwil ac Ysgolheictod i chi allu ymwneud yn llwyr â’ch maes pwnc a meithrin cydweithredu ag ymchwilwyr eraill. Mae chwe grŵp ymchwil ar gael:

Rhestrir y cyfarwyddwyr a myfyrwyr PhD presennol ar bob tudalen RSG o dan 'Pobl.'

Gyrfaoedd

Mae ymchwil yn elfen allweddol o weithgareddau ein Hysgol. Mae’n arwain at wybodaeth newydd ynddo’i hun, ond mae hefyd yn llywio addysgu ac yn effeithio ar y byd y tu hwnt i’r byd academaidd. Mae gradd ymchwil yn cadarnhau bod ei deiliad wedi meithrin arbenigedd wrth ddatblygu a defnyddio dulliau ymchwil priodol ac wrth lunio casgliadau o'u canlyniadau. Mae hefyd yn hyfforddiant gwych i’r rhai hynny sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn ymchwil, addysg uwch, y diwydiant neu ymgynghoriaeth broffesiynol.

Y cyrsiau MPhil a PhD sydd ar gael

Mae PhD amser llawn yn dair blynedd (neu bum mlynedd yn rhan-amser) ac mae MPhil amser llawn yn flwyddyn (neu ddwy flynedd yn rhan-amser).

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ymchwil ôl-raddedig, cysylltwch: architectureadmissions@cardiff.ac.uk.