Ewch i’r prif gynnwys

Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Nod ein cwrs yw datblygu gwybodaeth ac arbenigedd ynghylch dylunio amgylcheddau iach a chyfforddus mewn adeiladau ac o'u cwmpas, beth bynnag fo'r hinsawdd, gan roi sylw priodol i faterion cynaliadwyedd.

academic-school

Ysgol bensaernïaeth flaenllaw

Astudio yn un o ysgolion pensaernïaeth gorau'r deyrnas.

star

Wedi'i achredu gan CIBSE

Wedi ei hachredu gan Sefydliad Siartredig Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu (CIBSE) ac mae’n bodloni’r gofynion academaidd ar gyfer y cofrestriad proffesiynol CEng.

notepad

Amrywiaeth o opsiynau astudio

Ar gael fel cwrs amser llawn, rhan-amser a dysgu o bell.

building

Cwrs wedi'i sefydlu

Cwrs sefydledig, sy’n rhoi sylfaen ymarferol i weithwyr proffesiynol yr amgylchedd adeiledig ym mhwnc dylunio amgylcheddol ers 1993.

globe

Arbenigedd ymchwil o fri rhyngwladol

Yn seiliedig ar yr arbenigedd ymchwil o fri rhyngwladol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, mae gennym brofiad ers tro mewn dylunio, monitro ar ymgynghori ar adeiladau cynaliadwy megis Tŷ carbon bositif SOLCER.

certificate

Ysgoloriaethau a ariennir

Mae ysgoloriaethau ar gyfer y cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr sy’n cael eu dewis ar sail gystadleuol.

Cardiff Capital Region logo

Mae gwaith adeiladu, gweithredu a thriniaeth diwedd oes adeiladau yn aml yn defnyddio llawer o adnoddau. Maent yn mynnu ynni, trydan a dŵr, wrth gynhyrchu gwastraff tirlenwi, allyriadau CO2 a llygredd arall. Gydag ymwybyddiaeth gynyddol o adnoddau byd-eang sy'n prinhau a phwysigrwydd materion cynaliadwyedd, mae galw cynyddol am weithwyr proffesiynol sy'n gallu mynd i'r afael â phroblemau amgylcheddol yn yr amgylchedd adeiledig a'u datrys. 

Nod ein cwrs MSc Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol yw meithrin gwybodaeth ac arbenigedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch dylunio amgylcheddau iach a chyfforddus mewn adeiladau ac o'u cwmpas, gan ymateb i’r hinsawdd a rhoi sylw priodol i faterion cynaliadwyedd. 

Mae dewisiadau dysgu amser llawn, rhan-amser a dysgu o bell (sy'n arbennig o addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes) yn cael eu cynnig ar gyfer y cwrs hwn. 

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Ein nod yw gwneud y byd yn lle gwell gyda phensaernïaeth sy'n sensitif i'w gyd-destun, yn gynaliadwy a phrydferth.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4430
  • MarkerRhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NB

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis pensaernïaeth, peirianneg gwasanaethau adeiladu, technoleg adeiladu, neu astudiaethau amgylcheddol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Datganiad personol sy'n cynnwys eich rhesymau dros astudio'r rhaglen hon ac unrhyw brofiad gyda materion sy'n ymwneud â dylunio amgylcheddau cynaliadwy, cyfforddus ac iach yn eich astudiaethau blaenorol neu yrfa broffesiynol.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Cyflwynir ein MSc Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol mewn dau gam. Mae Cam 1 (dwy ran o dair) yn cynnwys modiwlau a addysgir a modiwlau prosiect gwerth cyfanswm o 120 credyd.  Y traean olaf yw eich traethawd hir (Cam 2). 

Fel myfyriwr amser llawn, byddwch yn gwneud y ddau gam mewn blwyddyn.  

Yng Ngham 1, byddwch yn ymgymryd â phum modiwl a addysgir a thri modiwl prosiect cyn dechrau gweithio ar eich traethawd hir yng Ngham 2. Bydd pob modiwl yn rhoi sylw i ddylunio amgylcheddol o ongl wahanol, gan ganolbwyntio ar themâu penodol, fel gwresogi, goleuo a chynaliadwyedd. Drwy gydol y cwrs, byddwn yn mynd i’r afael ag arferion da mewn perthynas â dylunio amgylcheddol adeiladau mewn hinsoddau ledled y byd. Byddwn yn archwilio: 

  • Materion cyfredol sy'n wynebu cynllunwyr adeiladau amgylcheddol, a sut gallai newid yn yr hinsawdd effeithio ar y proffesiwn.
  • Safonau amgylcheddol – eu darogan, eu mesur a deddfwriaeth.
  • Ffyrdd o gyflawni safonau uchel o ran perfformiad amgylcheddol, gan gynnwys cysur ac iechyd defnyddwyr, gan ddefnyddio adeiladwaith, gwasanaethau mecanyddol a phrosesau cynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy yn briodol.
  • Materion cynaliadwyedd ehangach y dylai cynllunwyr amgylcheddol fod yn ymwybodol ohonynt er mwyn ymarfer mewn ffordd gynaliadwy.

Mae’r modiwlau a addysgir ar y cwrs hwn yn rhoi sylfaen ym maes dylunio amgylcheddol a gwyddor bensaernïol yng nghyd-destun datblygu cynaliadwy a pherfformiad amgylcheddol adeiladau. 

Mae’r modiwlau prosiect yn canolbwyntio ar themâu penodol wrth ddylunio adeiladu, megis yr amgylchedd hinsoddol, amgylchedd mewnol yr adeilad a strategaethau dylunio goddefol. Yn y modiwlau hyn, byddwch yn cael y cyfle i gymhwyso’r syniadau dylunio hyn a addysgir i sefyllfaoedd byd go iawn. 

Ar ôl cwblhau'r modiwlau, byddwch yn paratoi traethawd hir, lle byddwch yn dadansoddi pwnc dylunio amgylcheddol sydd o ddiddordeb i chi yn fanylach.  

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Os ydych yn fyfyriwr amser llawn, byddwch yn ymgymryd â phob modiwl ac yn cwblhau eich traethawd hir mewn un flwyddyn galendr

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Bydd y dulliau addysgu y byddwn yn eu defnyddio yn amrywio o un modiwl i’r llall, fel y bo'n briodol, yn dibynnu ar y pwnc a'r dull asesu. Rydyn ni’n addysgu gan ddefnyddio cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, ymweliadau astudio, gwaith prosiect, a thiwtorialau grŵp. 

Mewn darlithoedd a gweithdai, ein nod yw defnyddio cymorth clyweledol, arddangosiadau wedi'u hanimeiddio, ac ymarferion rhyngweithiol yn briodol i gynorthwyo dysgu a datblygu sgiliau sy’n benodol i bwnc. 

Byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunyddiau addysgu perthnasol drwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, sef Dysgu Canolog. Drwy Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar recordiadau o ddarlithoedd ac arddangosiadau i gefnogi eich astudiaethau. 

Sut y caf fy asesu?

Asesir modiwlau a addysgir ac sy'n seiliedig ar brosiectau mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, yn dibynnu ar gynnwys y modiwl a’r deilliannau dysgu (a geir yn y disgrifiadau o’r modiwlau). Rydym yn defnyddio profion dosbarth, asesiadau gwaith cwrs (fel asesiadau ysgrifenedig a phortffolio), neu gyfuniad o'r rhain, i asesu eich cynnydd ar y modiwl.

Dim ond eich traethawd hir gaiff ei asesu yn y cam traethawd hir. Mae'r traethawd hir yn adroddiad ysgrifenedig ar ddarn o waith ymchwil rydych wedi'i wneud mewn maes pwnc y cytunwyd arno o dan oruchwyliaeth. 

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae tiwtor personol yn cael ei neilltuo i bob un o'n myfyrwyr pan fyddan nhw’n cofrestru ar y cwrs. Mae tiwtor personol yno i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau, a gall roi cyngor i chi ar faterion academaidd a phersonol a all fod yn effeithio ar eich astudiaethau. Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd gyda’ch tiwtor personol er mwyn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn.

Bydd gennych fynediad i'n llyfrgell bwrpasol ar gyfer pensaernïaeth, yn ogystal â deunyddiau yn llyfrgelloedd eraill Prifysgol Caerdydd.

Os bydd angen, mae apwyntiadau cwnsela a lles ar-lein ar gael.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud. 

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon isod:

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

Gwybod a deall:         

  • Arfarnu rôl gweithwyr proffesiynol yr amgylchedd adeiledig wrth gefnogi cynaliadwyedd cyfannol ar ystod o raddfeydd datblygu
  • Archwilio’r paramedrau hinsoddol ac ymddygiadol allweddol sy’n dylanwadu ar gysur y meddianwyr, ansawdd yr aer, a pherfformiad ynni/carbon yr amgylchedd adeiledig
  • Crynhoi sut mae adeiladau'n defnyddio ynni ac yn gollwng carbon ac egluro sut y gellir lleihau hyn wrth gynnal cysur dynol yn yr amgylchedd adeiledig

Sgiliau deallusol:        

  • Syntheseiddio data cymhleth i hwyluso gwneud penderfyniadau
  • Dylunio, gwerthuso a datblygu atebion creadigol i broblemau cymhleth yng nghyd-destun yr amgylchedd adeiledig

Sgiliau ymarferol proffesiynol:           

  • Ymchwilio i broblemau byd go iawn cymhleth mewn perthynas â'r amgylchedd adeiledig a chynaliadwyedd cyfannol
  • Beirniadu gwybodaeth bresennol a chyfiawnhau penderfyniadau a wneir wrth greu datrysiad dylunio

Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol:    

  • Creu ac amddiffyn syniadau, egwyddorion a damcaniaethau cymhleth
  • Dewis a chyfiawnhau dulliau priodol ar gyfer datrys problemau
Teaching space at Friary House
We have dedicated modern teaching spaces for our MSc Environmental Design of Buildings at Friary House..

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,450 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Mae’r ffioedd yn cwmpasu'r holl ffioedd dysgu, costau hanfodol y cwrs, cofrestru ac arholiadau. Mae'r Ysgol yn talu cost popeth sy'n rhan hanfodol o'r rhaglen. Bydd hyn yn cael ei nodi'n glir yng ngwybodaeth y rhaglen.  Bydd unrhyw ymweliadau dewisol / teithiau maes yn golygu costau ychwanegol – caiff hyn ei gyfleu’n glir i fyfyrwyr ymlaen llaw.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Byddwn yn darparu unrhyw offer sy'n hanfodol i'r cwrs.  Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn dod â gliniadur sy'n gallu rhedeg meddalwedd Design Builder.  Gallai USB neu yriant caled, deunydd ysgrifennu cyffredinol a rhywfaint o offer llunio sylfaenol fod o ddefnydd hefyd.

Lle bo hynny'n briodol, rydym yn darparu trwyddedau myfyrwyr neu fynediad i'r feddalwedd efelychu arbenigol a ddefnyddiwn ar gyfer y cwrs, ond ar hyn o bryd gallwn ond warantu bod y rhain yn gweithio ar gyfrifiaduron gyda system weithredu Windows.

Yn ystod y cwrs, bydd gennych fynediad i'r Llyfrgell Bensaernïaeth arbenigol, a llyfrgelloedd eraill y Brifysgol, a mannau astudio ar draws y campws. Yn yr Ysgol, gallwch ddefnyddio ein hystafelloedd cyfrifiadura a chyfleusterau eraill sy'n cynnwys plotwyr fformat mawr, torrwr laser digidol, a gweithdy sydd yn helaeth ei offer.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae myfyrwyr ar y cwrs hwn yn aml yn mynd yn ôl i'w proffesiwn gwreiddiol gyda'r fantais o ennill arbenigedd newydd mewn dylunio amgylcheddol a chynaliadwy. Ar ôl cwblhau'r cwrs, mae rhai o'n myfyrwyr sydd â digon o brofiad blaenorol yn eu gyrfa wedi mynd yn eu blaenau i gael eu penodi ar gyfer rolau blaenllaw yn eu proffesiynau perthnasol.

Mae'r rhaglen wedi helpu nifer fawr o weithwyr proffesiynol i ddilyn gyrfa mewn ystod eang o sectorau megis (ymhlith rhai eraill):

  • Gwaith pensaernïol neu beirianneg, gydag arbenigedd mewn dylunio amgylcheddol
  • Ymgynghori (dadansoddiad amgylcheddol o adeiladau a gwerthuso perfformiad adeiladau)
  • Academia (addysgu a/neu ymchwil)
  • Polisi (yn y DU a thramor)

Nodwch nad yw’r cwrs hwn yn addas i’r rhai sydd am astudio Pensaernïaeth Tirwedd.

I won a Chevening scholarship award to study at Cardiff University. The academic and non-academic education, and the research experience I gained at Cardiff University have made a significant contribution to my dream of contributing to my country’s development. I am now a practising Architect leading a Myanmar design firm working on various projects with emphasis on environmental performance. I am currently a vice chair of the Green building committee of Myanmar Building Engineering Institute which is a leading non-Government organisation pushing things forward to advocate green buildings in Myanmar. I am now actively working on setting up a green building policy in Myanmar in collaboration with international experts.
Chaw Kalyar, MSc Environmental Design of Buildings

Gwaith maes

Yn ystod y cwrs, rydym yn mynd ar ystod o deithiau astudio. Trefnir ymweliadau tywys o gwmpas adeiladau sy'n dangos sut mae’r syniadau a addysgir ar y cwrs yn cael eu cymhwyso.  Yn y gorffennol, mae'r rhain wedi cynnwys ymweld â Thŷ SOLCER (Cymru), sy’n adeilad carbon bositif, ac adeiladau sy’n defnyddio dulliau arloesol o gyflawni effeithlonrwydd ynni yn Sbaen ac yn Zurich. 

Navarra field trip
Students on a recent sustainable architecture study trip to Navarra, Spain..

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Pensaernïaeth, Peirianneg bensaernïol , Peirianneg sifil , Gwyddor amgylcheddol


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.