Ewch i’r prif gynnwys

Pensaernïaeth: Ymarfer Proffesiynol (PgDip)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Dysgu cyfunol llawn amser

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
DPP
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Yn y rhaglen hon, bydd myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth drylwyr o agweddau cyfreithiol ac economaidd ymarfer pensaernïol a chaffael ym maes adeiladu yn ogystal â meithrin medrau y bydd eu hangen ar bensaer i weithredu’n effeithiol.

academic-school

Ysgol bensaernïaeth flaenllaw

Astudio yn un o ysgolion pensaernïaeth gorau'r deyrnas.

star

Arbenigedd ymchwil clodfawr

Yn seiliedig ar arbenigedd ymchwil clodfawr yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru dan arweiniad yr Athro Sarah Lupton; arbenigydd adnabyddus ac awdur llyfrau ar bynciau arbenigol sy’n berthnasol i’r cwrs.

briefcase

Astudio wrth i chi weithio

Astudiwch wrth i chi weithio mewn practis; fe addysgir y cwrs hwn drwy ddysgu cyfunol gan ddefnyddio ystod eang o ddulliau cyflawni arloesol.

certificate

Amrywiaeth o ddulliau asesu

Ystod eang o ddulliau asesu, gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, fideos a gweminarau. Does dim arholiadau.

people

Carfan astudio fach

Manteisiwch ar garfan astudio fach, gweithio mewn grŵp, ac adolygu cymheiriaid.

calendar

Blwyddyn amser llawn

Ar gael fel cymhwyster blwyddyn llawn amser.

Yn y rhaglen Ddiploma hon, bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o'r agweddau cyfreithiol ac economaidd ar arfer pensaernïol a chaffael gwaith adeiladu, a'r sgiliau perthnasol sy'n angenrheidiol ar gyfer ymarfer yn effeithiol wrth ddechrau ar yrfa ym maes pensaernïaeth.

Bwriedir i fyfyrwyr ymgymryd â'r rhaglen tra byddant yn gweithio’n llawn amser mewn practis pensaernïol neu sefydliad cysylltiedig yn y diwydiant adeiladu. Fe'i haddysgir trwy ddulliau dysgu cyfunol gan ddefnyddio'r rhyngrwyd (gweler 'sut byddaf yn cael fy addysgu' isod). Llwybr cyflym yw’r fersiwn llawn amser, sy’n eich galluogi i gwblhau’r rhaglen ymhen naw mis.

Y Bwrdd Cofrestru Penseiri sy’n pennu’r Diploma mewn perthynas ag ymuno â’r gofrestr o benseiri, ac mae’n cael ei gadarnhau gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) sy’n gyfwerth ag Arholiad RIBA mewn Ymarfer Proffesiynol (rhan 3). Mae'r cwrs wedi derbyn canmoliaeth gan dri Bwrdd Ymweld RIBA yn olynol gan gynnwys y diweddaraf ym mis Gorffennaf 2021, pan gafodd ei ganmol am 'ei synthesis o drylwyredd ac ymarfer academaidd'.

Achrediadau

Ross Hartland
Roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n sefydlu cwmni yn hwyr neu’n hwyrach gan fod gen i agwedd fentrus tuag at bensaernïaeth, a’r peth pwysicaf i mi oedd penderfynu pryd y byddai’n ddoeth rhoi cynnig arni. Yn hynny o beth, rwy’n ddiolchgar iawn i gwrs Rhan 3 Ysgol Pensaernïaeth Cymru a’r rhai sy’n ei arwain, yr Athro Sarah Lupton a Manos Stellakis, am fod eu cwricwlwm yn mynd y tu hwnt i’r hyn mae disgwyl i fyfyriwr ei wneud yn Rhan 3 ac yn rhoi gwybodaeth berthnasol a defnyddiol iawn sydd wedi meithrin ynof yr hyder i weithio ar fy liwt fy hun.
Ross Hartland Initiate Architecture

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Ein nod yw gwneud y byd yn lle gwell gyda phensaernïaeth sy'n sensitif i'w gyd-destun, yn gynaliadwy a phrydferth.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4430
  • MarkerRhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NB

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos bod gennych y cymwysterau a ragnodir gan y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) yn Rhan 1 a Rhan 2.  Os yw eich tystysgrif neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau interim neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Tystiolaeth eich bod wedi cwblhau o leiaf 12 mis o brofiad proffesiynol yn cydymffurfio â gofynion ARB. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.
  4. Datganiad personol sy'n cynnwys eich rhesymau dros astudio'r rhaglen hon ac unrhyw brofiad gyda materion sy'n ymwneud ag agweddau cyfreithiol ac economaidd ar ymarfer pensaernïol a chaffael adeiladu yn eich astudiaethau blaenorol neu yrfa broffesiynol.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Dyma raglen dysgu cyfunol amser llawn a addysgir dros flwyddyn, gyda chyfanswm o 120 credyd. Tri modiwl gwerth 20 credyd, ac un modiwl gwerth 60 credyd sy’n ffurfio’r cwrs hwn.

Fel arfer, cyflawnir y rhaglen hon pan fyddwch chi mewn lleoliad gwaith perthnasol, a bydd llawer o’r profiad proffesiynol yn cyfrannu at ddysgu.  Mae gofyn i chi ddod o hyd i’ch lleoliad gwaith eich hun, a hynny fel arfer cyn i’r cwrs ddechrau, er enghraifft mewn practis pensaer, neu gyda chwmni diwydiant adeiladu cymeradwy. Dylai’r gwaith fod o ansawdd digon uchel, ac yn uniongyrchol berthnasol i faes pwnc y cwrs, yn darparu deunydd y gellir seilio’r gwaith cwrs arno, ac yn cyfrannu at gaffael sgiliau penodol yn y ddisgyblaeth.

Bydd y rhaglen hon yn cynnwys oddeutu 60-75 o ddigwyddiadau byw ar-lein. Bydd angen i chi hefyd gyflawni astudiaeth breifat yn rheolaidd er mwyn cwblhau elfennau amrywiol y gwaith cwrs.

Fel canllaw bras, i fyfyriwr amser llawn, dylai o leiaf dri diwrnod yr wythnos o brofiad gwaith gyfrannu’n uniongyrchol at y profiad dysgu, a dylid dynodi o leiaf 16 awr yr wythnos ar gyfer amser astudio (byddai’r cyfnodau hyn yn cael eu haneru i fyfyrwyr rhan-amser).

Rydym yn argymell eich bod yn trafod yr ymrwymiad gyda’ch cyflogwyr, gan gynnwys gwneud trefniadau i fynychu digwyddiadau ar-lein ac amser i ffwrdd ar gyfer astudiaeth bellach yn ôl yr angen. Yn ddibynnol ar eich gwaith a’ch ymrwymiadau personol, dylech ystyried a fyddai’r rhaglen ran-amser yn fwy priodol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Byddwch yn cwblhau pob modiwl o fewn blwyddyn academaidd. Y modiwlau hyn fydd: Cyd-destun y Diwydiant, Gwasanaethau Proffesiynol a Chontractau Adeiladu, sydd oll yn werth 20 credyd, ac Ymarfer Proffesiynol, sy’n werth 60 credyd

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cyd-destun y DiwydiantART20720 credydau
Contractau AdeiladuART20820 credydau
Gwasanaethau proffesiynolART20920 credydau
Ymarfer ProffesiynolART21060 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy ystod eang o ddulliau dysgu o bell. Os yw’n ymarferol, ar ôl ymgynghori gyda’r garfan, mae’n bosib y bydd rhai digwyddiadau ar y safle’n cael eu trefnu ar gyfer 2021, ond ar y pwynt hwn nid oes disgwyl y bydd y rhain yn hirach na deuddydd.

Bydd deunyddiau’r cwrs ar gael ar ffurf nodiadau cwrs manwl, wicis, a chyflwyniadau fideo a recordiwyd ymlaen llaw. Cynhelir digwyddiadau rheolaidd wedi’u ffrydio’n fyw, gan gynnwys gweminarau a gweithdai ar-lein gan arbenigwyr blaenllaw, yn ogystal â blog sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddigwyddiadau’r cwrs a datblygiadau yn y diwydiant sy’n berthnasol i’r cwrs.

Bydd cyswllt rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Bydd gan bob modiwl ddeuddydd o ddigwyddiadau ar-lein, gydag o leiaf un weminar amser cinio, sy’n golygu y bydd un digwyddiad ar-lein bob tair wythnos o leiaf. Ategir hyn gan fyrddau trafod ynghylch pynciau penodol, adborth ysgrifenedig rheolaidd am eich gwaith, a thiwtorialau ar-lein i unigolion a grwpiau.  Byddwch yn cael eich annog i gadw dyddiadur myfyriol am eich profiad proffesiynol, a fydd yn llywio’r aseiniadau a’r tiwtorialau. Cynllunnir pob digwyddiad i’ch annog i rannu’r profiadau a’r ddealltwriaeth a geir wrth ymarfer. Bydd recordiadau o ddeunydd ar gael ar-lein drwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, sef Dysgu Canolog.

Oherwydd natur y cwrs hwn, chi sy’n gyfrifol am ddarllen e-byst a anfonir gan diwtoriaid modiwlau neu gyhoeddiadau a wneir drwy Dysgu Canolog yn rheolaidd.

Sut y caf fy asesu?

Byddwch yn cael eich asesu drwy ystod o waith cwrs, gan gynnwys aseiniadau strwythuredig, astudiaethau achos, adroddiadau a thraethodau (gweler disgrifiadau modiwl i gael rhagor o fanylion), ynghyd â chyfweliad proffesiynol. Nid oes profion dosbarth nac arholiadau ysgrifenedig.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol pan fyddwch yn ymrestru. Mae’r tiwtor personol yno i’ch cefnogi chi yn ystod eich astudiaethau, i’ch helpu i fyfyrio ar eich perfformiad ar y cwrs ac i’ch cynghori ar dechnegau astudio, dewis modiwlau a chynllunio gyrfa (ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol). Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd drwy Collaborate (pecyn ar-lein y Brifysgol ar gyfer seminarau rhithwir, a chyfarfodydd grŵp neu un i un) gyda’ch tiwtor personol, er mwyn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn.

Fel arfer, byddwch yn cael o leiaf dri thiwtorial unigol, gan ddefnyddio Collaborate (gweler uchod)

Bydd cynnwys pob modiwl yn cael ei rannu ar Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, lle gallwch gael mynediad at fforymau trafod a dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, gan gynnwys recordiadau o ddarlithoedd a dolenni at ddeunydd perthnasol.

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth ar-lein sy’n hygyrch i’n myfyrwyr dysgu o bell, fel cwnsela a llesiant, cynghorwyr ariannol a gyrfaoedd, y swyddfa ryngwladol ac Undeb y Myfyrwyr.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r deilliannau dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio beth y byddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall beth a ddisgwylir gennych chi a bydd staff academaidd yn canolbwyntio ar beth yn union maen nhw am i chi ei gyflawni ym mhob Modiwl.

Gellir gweld y deilliannau dysgu ar gyfer y rhaglen hon isod:

Gwybodaeth a dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, byddwch yn gallu:

  • Dangos dealltwriaeth systematig a manwl o'r dulliau a ddefnyddir i reoleiddio datblygiad, y diwydiant adeiladu a darpariaeth gwasanaethau pensaernïol o fewn y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt iddi;
  • Gwerthuso a chymharu systemau caffael yn feirniadol, gan gynnwys trefniadau cydweithredol, gan asesu eu goblygiadau i rôl y penseiri, i waith rheoli a dosbarthu risg, ac i ddulliau o ymdrin â hawliadau a datrys anghydfodau;
  • Dangos dealltwriaeth systemig a thrylwyr o’r dulliau o gaffael gwasanaethau pensaernïol, defnydd o delerau penodi priodol, ystyr a graddau atebolrwydd proffesiynol, a gofynion yswiriant Indemniad Proffesiynol;
  • Gwerthuso’n feirniadol weithdrefnau ar gyfer rheoli cwmnïau pensaernïol, y broses ddylunio, a darpariaeth o wasanaethau pensaernïol ar bob cam o brosiect;
  • Amlinellu egwyddorion rheoli prosiectau a sicrhau ansawdd a thrafod enghreifftiau o sut y gellir cymhwyso'r systemau hyn yn ymarferol;
  • Esbonio’r dulliau allweddol o reoli'r broses ddylunio, gan gynnwys integreiddio gwaith holl aelodau'r tîm.

Sgiliau deallusol:

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, byddwch yn gallu:

  • Nodi a gwerthuso ffynonellau gwybodaeth yn feirniadol (gan gynnwys gwaith ymchwil cyfredol) sy'n ymwneud â'r diwydiant adeiladu yn y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt iddi, er mwyn pennu eu hawdurdod a'u dibynadwyedd;
  • Dehongli effaith unigol a chyfunol telerau allweddol (datganedig a goblygedig) mewn gwasanaethau proffesiynol a chontractau adeiladu ar rwymedigaethau, hawliau, a’r lefel risg a ragdybir i’r rhai sy’n rhan ohonynt, gan gynnwys dyletswyddau i drydydd partïon;
  • Myfyrio ar waith rheoli prosiect ac arfer go iawn a'i werthuso'n feirniadol;
  • Dadansoddi sefyllfaoedd cymhleth, ac arfer beirniadaeth annibynnol wrth werthuso a dod i benderfyniadau’n ymwneud â’r sefyllfaoedd hynny; egluro’r rhesymeg y tu ôl i’r gwerthusiad hwn yn glir ac yn rhesymegol.

Sgiliau ymarferol proffesiynol:

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, byddwch yn gallu:

  • Cynnal dadansoddiad cynhwysfawr o’r galluogwyr a’r cyfyngiadau (gan gynnwys rhai sefydliadol, cyfreithiol ac economaidd) sy'n berthnasol i ddichonoldeb prosiect datblygu arfaethedig;
  • Egluro a dilyn y Codau Ymddygiad a Safonau Perfformiad yn ymwneud â’r proffesiwn pensaernïaeth;
  • Asesu’r gwasanaethau pensaernïol angenrheidiol ar gyfer prosiect, a chynnig, gyda chyfiawnhad, drefniadau caffael, telerau penodi, a threfniadau ffioedd priodol, gan esbonio sut y byddai'r ffioedd hynny'n cael eu cyflwyno a'u trafod;
  • Cynnig gweithdrefnau rheoli prosiect ac arfer effeithiol, gan gynnwys ar gyfer gwaith rheoli adnoddau ffisegol, ariannol a dynol, ar gyfer cyfathrebu, ac ar gyfer datblygu a marchnata busnes;
  • Cymharu a gwerthuso’n feirniadol weithdrefnau ar gyfer tendro (ar wahanol lefelau o ddatblygu dyluniadau), ac ar gyfer negodi ar ôl tendro a chynllunio prosiectau;
  • Gweinyddu contract adeiladu ar raddfa fach i ganolig, a chyfrannu at weinyddu contract adeiladu mawr a chymhleth;
  • Gwneud penderfyniadau gwybodus wrth wynebu problemau cymhleth mewn arfer pensaernïol, gan gynnwys asesu hawliadau, egluro rhesymeg y tu ôl i’r gwerthusiad hwn yn glir ac yn rhesymegol, a chyfathrebu’r canfyddiadau i weddill tîm y prosiect.
  • Cydlynu a rheoli gwaith tîm y prosiect ar gyfer prosiect bach, a chyfrannu at reoli prosiect mwy o fewn tîm rhyngddisgyblaethol;
  • Cyfathrebu’n effeithiol â'r cleient a thîm y prosiect, gan gynnwys rheoli'r mathau o ddogfennau a ddefnyddir a llif gwybodaeth rhwng aelodau'r tîm.

Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol:

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, byddwch yn gallu:

  • Cynllunio eich datblygiad proffesiynol parhaus dros gyfnod penodol, gan gynnwys caffael gwybodaeth a sgiliau newydd, a gwerthuso a gafodd y nodau hyn eu cyflawni;
  • Defnyddio crebwyll a chyfrifoldeb personol wrth reoli tasgau ar lefel broffesiynol, gan gynnwys rheoli amser, cofnodi, cynllunio ac adolygu, gan ddangos y gallu i weithredu mewn modd cydweithredol;
  • Cynllunio a chynnal astudiaeth o bwnc perthnasol, cyfiawnhau a chyfathrebu’r canlyniadau’n glir ac mewn ffordd a fyddai’n hygyrch i gleient, i weithwyr proffesiynol ac i ymchwilwyr eraill, gan ddefnyddio ystod o fformatau a chyfryngau, gan gynnwys traethodau, adroddiadau, a chyflwyniadau ar-lein.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £3,500 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £6,450 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Bydd y Brifysgol yn talu unrhyw gostau ychwanegol sy’n hanfodol er mwyn i chi gwblhau’r rhaglen.  Am y rheswm hwn, byddwch yn cael dyraniad ariannol bach yn ôl yr angen.  Bydd y manylion yn cael eu darparu gan Arweinydd eich Rhaglen drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Chi fydd yn gyfrifol am eich costau teithio a llety ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir ar y safle.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Beth y dylai’r myfyriwr ei ddarparu:

Bydd angen mynediad at gyfrifiadur sydd â meddalwedd prosesu geiriau yn ogystal â mynediad at y rhyngrwyd er mwyn astudio ar y cwrs dysgu o bell hwn. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio gliniadur, y gallwch deithio gydag ef pan fyddwch yn dod i'r Ysgol i gael hyfforddiant. Argymhellir hefyd bod gennych USB neu yriant caled i storio eich gwaith. Mae'n hanfodol eich bod yn gwneud copi wrth gefn o'r holl waith yn rheolaidd.

Fel arfer, bydd gofyn i chi fod mewn swydd cyn i chi ymrestru ar y cwrs, a’ch bod hefyd yn gallu ariannu costau teithio a llety ar gyfer y cyrsiau byr y byddwch yn eu mynychu yn yr Ysgol.

Mae’n bosib y byddwch hefyd am brynu rhai o’r testunau allweddol ar gyfer y cwrs. Er bod y testunau gofynnol ar gael ar-lein o lyfrgell yr Ysgol, a llawer ohonynt mewn fformat electronig y gellir ei lwytho i lawr, mae bod yn berchen ar gopi personol o weithiau allweddol yn gallu bod yn fanteisiol er mwyn cael mynediad atynt fel y dymunwch.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Ar ddechrau'r rhaglen, byddech fel arfer eisoes mewn swydd. Serch hynny, mae’r cwrs wedi’i gynllunio i wella eich datblygiad proffesiynol ac i gynorthwyo datblygiad gyrfaol.

Mae ein henw da gyda’r math hwn o gwrs proffesiynol yn ardderchog. Roedd pob myfyriwr a raddiodd o’r sesiwn flaenorol mewn gwaith erbyn eu seremoni raddio yn yr haf.

Drwy gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn gallu cofrestru gydag ARB ac yna ymarfer fel pensaer yn y Deyrnas Unedig. Mae graddedigion wedi mynd yn eu blaenau i weithio gyda phenseiri, cwmnïau amlddisgyblaethol o ymgynghorwyr, datblygwyr a chontractwyr, ac mewn sawl achos, wedi sefydlu eu cwmnïau eu hunain

Gwaith maes

Nid oes angen unrhyw waith maes ar gyfer y cwrs hwn, er y bydd rhai o'r aseiniadau'n gofyn am ddadansoddiad beirniadol o brosiectau a dulliau rheoli ymarfer a geir mewn cyflogaeth.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Pensaernïaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.