Ewch i’r prif gynnwys

Dylunio Pensaernïol (MA)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae’r rhaglen hon ar gyfer ôl-raddedigion sy’n chwilio am gwrs blaengar ac ysgogol sy’n rhoi pwyslais ar ddylunio ac yn ystyried amryw agweddau dylunio ac ymchwilio a’r ffordd maen nhw’n ymwneud â’i gilydd.

academic-school

Ysgol bensaernïaeth flaenllaw

Astudio yn un o ysgolion pensaernïaeth gorau'r deyrnas.

globe

Yn enwog yn rhyngwladol

Dysgu oddi wrth ymarferwyr ac ymchwilwyr o fri rhyngwladol sydd wedi ennill gwobrau ac a arweinir gan ddylunio.

notepad

Yn seiliedig ar ymarfer

Perffaith ar gyfer myfyrwyr sy'n anelu at ddull gweithredol o ddysgu sy'n seiliedig ar ymarfer.

star

Modiwlau dewisol arloesol

Dewiswch o ystod o fodiwlau dewisol i gefnogi'ch dysgu mewn meysydd sydd o ddiddordeb i chi a datblygu sgiliau pwysig mewn ymchwil sy'n seiliedig ar ddylunio.

cursor

Sylw ar wefan y Meistri Pensaernïaeth Orau

Wedi'i gynnwys ar wefan BAM ochr yn ochr â chyrsiau MA rhagorol eraill mewn Dylunio Pensaernïol ledled y byd.

Mae’r MA amser llawn hwn mewn Dylunio Pensaernïol yn para blwyddyn ac mae ar gyfer ôl-raddedigion sy’n chwilio am gwrs cymhleth, blaengar ac ysgogol sy’n ystyried amryw agweddau dylunio ac ymchwilio a’r ffordd maen nhw’n ymwneud â’i gilydd. Trwy astudio cwrs MA Dylunio Pensaernïol, gall myfyrwyr feithrin y sgiliau angenrheidiol i allu meddwl am ymchwil dylunio a’i ymarfer mewn ffordd soffistigedig.

Mae’n rhannu llawer o elfennau dylunio ein rhaglen MArch (Meistr mewn Pensaernïaeth / Rhan 2 RIBA), ond yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran y dewisiadau astudio, gan eich galluogi i ymgysylltu â diddordebau ein staff ymchwil.

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar dechnegau a dulliau ymchwil sy’n deillio o ddylunio i’ch helpu i ddysgu a chynnal ymchwil. Byddwch yn datblygu eich sgiliau dylunio presennol drwy ganolbwyntio ar sut gallai syniadau dylunio fynd i'r afael â heriau byd-eang cyfredol. Mae’r dull hwn yn cynnig fforwm dwys a bywiog ar gyfer archwilio a thrafod materion sy’n ymwneud â dylunio. Dyma pam mae pwyslais ar ddefnyddio dylunio yn ffordd o gynnal ymchwil. Mae ymchwilio drwy ddylunio yn weithgaredd creadigol lle ceir cysylltiad clos rhwng y broses o ddylunio â’r weithred o ymchwilio, er mwyn iddyn nhw gyfrannu at y naill a’r llall. Byddwch yn archwilio problemau drwy wneud a phrofi cynigion dylunio, gan gyflwyno a datblygu gwybodaeth sefydledig yn ôl yr angen. Drwy waith prosiect, byddwch yn defnyddio gwybodaeth o lawer o ddisgyblaethau.

Bydd myfyrwyr yn cael dewis mireinio eu syniadau am ddylunio mewn amryw bynciau yn ystod helaeth yr Ysgol ar gyfer ymchwil ac astudio.

Byddwch chi’n gweithio mewn grwpiau bach o'r enw ""Unedau Dylunio"" o dan adain Arweinydd Uned, a fydd yn diwtor profiadol mewn ymchwil a dylunio pensaernïol. Byddwch chi’n gweithio'n annibynnol i lunio ffordd o astudio yn ôl egwyddorion ymchwil a dylunio, hefyd. I wneud hynny, bydd rhaid pwyso a mesur tystiolaeth gan feddwl mewn modd creadigol, arbrofol ac ailadroddol. Bydd pwyslais ar ddarganfod unigol a myfyrio personol yn broses ddysgu. Mae disgrifiad o’r Unedau Dylunio ar gael yn Llawlyfr MA Dylunio Pensaernïol.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Ein nod yw gwneud y byd yn lle gwell gyda phensaernïaeth sy'n sensitif i'w gyd-destun, yn gynaliadwy a phrydferth.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4430
  • MarkerRhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NB

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis pensaernïaeth, pensaernïaeth tirwedd, dylunio mewnol, dylunio trefol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Portffolio o waith prosiect academaidd a/neu broffesiynol. Dylai eich portffolio fod yn uchafswm o wyth (8) tudalen a darparu tystiolaeth o feddwl dychmygus a chysyniadol, sensitifrwydd gofodol, datrysiad technegol, a chyfathrebu clir o wybodaeth a syniadau.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais gan gynnwys eich portffolio ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae’r rhaglen hon ar gael fel cwrs amser llawn dros flwyddyn. Byddwch wedi'ch lleoli yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru drwy gydol y rhaglen. Mae elfen a addysgir y rhaglen hon wedi'i strwythuro o amgylch modiwl dylunio gwerth 60 credyd, lle byddwch yn defnyddio technegau ymchwil drwy ddylunio i edrych ar fater sydd o ddiddordeb sy'n ymwneud ag un o'r Unedau Dylunio. Bydd hyn fel arfer yn rhedeg rhwng mis Hydref a mis Ebrill a bydd yn dod i ben gyda chyflwyniad Portffolio dylunio a chyflwyniad terfynol o flaen panel o adolygwyr. Bydd eich gwaith yn y stiwdio ddylunio yn cael ei ategu gan fodiwl gwerth 30 credyd sy’n ceisio dadansoddi cynsail pensaernïol, a dewis o ran modiwlau astudio dewisol.

Byddwch fel arfer yn dechrau gweithio ar draethawd hir y rhaglen ym mis Mai ac yn ei gwblhau dros yr haf. Mae'r traethawd hir yn benllanw eich ymchwil dylunio drwy gydol y rhaglen. Mae'r traethawd hir fel arfer yn cynnwys prosiect dylunio wedi'i ddogfennu, ynghyd â sylwebaeth feirniadol 6,000 gair. Darperir cymorth ar gyfer datblygu'r sgiliau ymchwil angenrheidiol drwy ddylunio yn ystod elfennau a addysgir y rhaglen.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Yn ystod eich blwyddyn ar y rhaglen, byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu agenda ymchwil ym maes dylunio, gan ddiffinio a sefydlu eich safbwynt eich hun mewn dylunio pensaernïol. Caiff y pynciau o dan sylw eu strwythuro mewn stiwdios thematig fel arfer, neu Unedau Dylunio o dan arweiniad tiwtoriaid dylunio sydd ag arbenigedd a diddordeb mewn meysydd penodol o ymchwil a/neu ymarfer. Mae'r themâu'n aml yn gysylltiedig â meysydd arbenigedd ymchwil yn yr Ysgol ac maent fel arfer mewn cysylltiad agos â rhanddeiliaid go iawn a chyd-destunau go iawn.

Byddwch yn cynnal dadansoddiad o gynsail bensaernïol o fewn amgylchedd y stiwdio ac yn dewis gwerth 30 credyd o fodiwlau dewisol. Dewisir y rhain o blith rhestr o bynciau sy’n seiliedig ar ddiddordebau ymchwil staff yr ysgol. Adolygir y rhestr hon yn flynyddol. Gallwch ddewis unrhyw gyfuniad o fodiwlau 10 ac 20 credyd ar gyfer eich dewis.

Ar gyfer eich traethawd hir byddwch yn gweithio'n annibynnol gan ddefnyddio'r sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y rhaglen a addysgir i ddatblygu dadl ymchwil feirniadol drwy ddylunio.  Bydd hyn yn golygu cwblhau prosiect traethawd ymchwil dylunio. Bydd disgwyl i chi ategu hyn gyda sylwebaeth ysgrifenedig feirniadol 5,000-6,000 o eiriau.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o'ch amser yn yr Ysgol yn y stiwdio ddylunio. Mae ein dull addysgeg allweddol yn y stiwdio ddylunio yn gyfuniad o ystod amrywiol o dechnegau addysgu, fel gweithdai ymchwil dylunio, seminarau dylunio Unedau a thiwtorialau un-i-un. Cefnogir y rhain gan ddarlithoedd seiliedig ar Gyrsiau ac Unedau ac aseiniadau grŵp.

Rydyn ni’n cynnig ystod o leoedd gwaith, gweithdai a chyfleusterau dylunio gyda chymorth cyfrifiadur i gefnogi hyn. Y stiwdio yw'r lleoliad ar gyfer addysgu dylunio, sesiynau tiwtorial gwneud modelau, gweithdai a thrafodaeth. Fe'i defnyddir hefyd ar gyfer arddangosfeydd, adolygiadau ac adolygiadau ""beirniadol"" - lle mae myfyrwyr yn arddangos eu gwaith er mwyn i staff, cydfyfyrwyr a beirniaid gwadd eu trafod a’u hasesu’n feirniadol. Mae gweithio'n ffurfiol ac yn anffurfiol gyda'ch cydfyfyrwyr yn y stiwdio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer adolygiadau a thrafodaethau gwerthfawr gan gymheiriaid am eich gwaith.

Fe'ch addysgir gan staff academaidd parhaol a thiwtoriaid o gwmnïau blaenllaw'r DU, gan ddarparu cymysgedd cyffrous o ddulliau a phrofiadau ymchwil dylunio. Ni yw’r ysgol pensaernïaeth fwyaf blaenllaw yng Nghymru, ac mae gennym gysylltiadau da â Llywodraeth Cymru, cyrff y diwydiant adeiladu a chwmnïau proffesiynol lleol, ac mae gennym hefyd gysylltiadau Ewropeaidd a rhyngwladol cryf.

Mae'r Ysgol yn annog dysgu effeithiol a arweinir gan fyfyrwyr, p'un ai trwy ddadansoddi safleoedd, gwaith ymchwil mewn llyfrgell neu ""ymarfer myfyriol"";.

Bydd eich astudiaethau hefyd yn cynnwys gweithdai, darlithoedd a seminarau fel rhan o fodiwlau dewisol, ac fel cymorth ar gyfer y modiwl dylunio. Mae addysgu hefyd yn cynnwys darparu deunyddiau dysgu ar-lein, fel briffiau, llyfryddiaethau, darlleniadau a chynseiliau, fel sy'n briodol i'r modiwl. Ein nod yw defnyddio cymorth clyweledol yn briodol i gynorthwyo dysgu a datblygu sgiliau penodol i’r pwnc. Byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunyddiau addysgu perthnasol drwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog.

Mae elfen traethawd hir y rhaglen yn cael ei chynnal drwy'r broses ddylunio, gan barhau yn dilyn eich prosiect dylunio a addysgir a gwblhawyd yn rhan gyntaf y cwrs. Rydyn ni’n eich cynghori i barhau i gwrdd â thiwtor eich uned ddylunio bob wythnos tan fis Mehefin. Dilynir hyn fel arfer gan gyfnod o fyfyrio ac ysgrifennu (astudiaethau hunangyfeiriedig) lle byddwch yn gweithio'n annibynnol o dan arweiniad tiwtor eich Uned ac o dan oruchwyliaeth Arweinydd y Rhaglen ac aelodau eraill o'r staff academaidd.

Sut y caf fy asesu?

Mae prosiectau dylunio ac ymarferion cysylltiedig yn cael eu hasesu'n barhaus, yn aml drwy waith arddangos ac adolygu a lle rhoddir adborth. Ar ddiwedd y flwyddyn, bydd portffolio o’r holl waith dylunio yn cael ei gyflwyno i banel o adolygwyr ar sail arholiad ffurfiol. Mae gwybodaeth fanwl am y modiwlau ar gael o dan yr adran ""Strwythur"".

Mae modiwlau dewisol fel arfer yn cael eu hasesu yn ôl arholiad ysgrifenedig a gwaith cwrs a gyflwynir yn ystod y semester. Darllenwch ddisgrifiadau'r modiwlau ar gyfer y modiwlau rydych wedi’u dewis i gael gwybod mwy am y ffyrdd maen nhw’n cael eu hasesu.

Mae'r meini prawf ar gyfer gwneud asesiadau wedi'u cynnwys yn Llawlyfr Addysgu'r Ysgol, mewn dogfennau am y prosiect a’r gwaith cwrs, ac maen nhw’n cael eu hegluro pan fydd gwahanol fodiwlau a phrosiectau dylunio’n cael eu cyflwyno.

Sut y caf fy nghefnogi?

Cewch lawer o amser cyswllt â staff a byddwch yn derbyn adborth rheolaidd ar eich cynnydd drwy gydol y cwrs yn eich tiwtorialau wythnosol. Arweinydd y Rhaglen sy'n gyfrifol am oruchwylio cynnydd myfyrwyr. Bydd gennych hefyd diwtor personol y gallwch drafod (yn gyfrinachol) unrhyw bryderon a allai effeithio ar eich cynnydd. Cynhelir adolygiadau cynnydd rheolaidd drwy gydol y flwyddyn gyda thîm y flwyddyn, ac mae polisi drws agored yn bodoli ledled yr Ysgol.

Mae'r Ysgol yn darparu cyfleoedd i chi ddiffinio a myfyrio ar eich anghenion dysgu unigol. Yn gyffredinol, mae hyn ar ffurf dyddiadur myfyriol sy'n digwydd fwyfwy y dyddiau hyn ar-lein.

Mae'r llyfrgell bensaernïol yn yr un adeilad â'r Ysgol sy’n golygu bod adnoddau a chefnogaeth ar gael yno’n hwylus. Mae deunyddiau electronig cyrsiau hefyd yn cael eu cadw ar rwydwaith y Brifysgol yn gyffredinol.

Mae modiwlau yn y rhaglen yn defnyddio amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, yn helaeth. Yma, gallwch gael mynediad i fforymau trafod a dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, gan gynnwys recordiadau o ddarlithoedd, a dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau hefyd i fyfyrwyr gan gynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Mae adborth ffurfiol ar waith cwrs fel arfer yn cael ei roi gan ddefnyddio ffurflen adborth safonol ac mae’n cael ei roi ar lafar yn aml hefyd.

Byddwch fel arfer yn derbyn eich adborth gan Arweinydd y Modiwl ac Arweinwyr yr Uned. Os oes gennych gwestiynau am eich adborth, mae arweinwyr modiwlau fel arfer yn hapus i roi cyngor ac arweiniad i chi ar eich cynnydd.

.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall beth a ddisgwylir gennych chi a bydd staff academaidd yn canolbwyntio ar beth yn union maen nhw am i chi ei gyflawni ym mhob Modiwl.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, dylech allu:

  • Deall yn feirniadol sut mae gwybodaeth yn cael ei datblygu drwy ymchwil o dan arweiniad dylunio, i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig a dylunio clir, rhesymegol a gwreiddiol sy'n ymwneud â diwylliant pensaernïol, theori a dylunio.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, dylech allu:

  • Mynd ar drywydd agenda ymchwil dylunio personol yng nghyd-destun portffolio ymchwil yr Ysgol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, dylech allu:

  • Cynhyrchu cynigion dylunio cymhleth sy'n dangos dealltwriaeth o faterion pensaernïol cyfredol, gwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth am bynciau a, lle bo'n briodol, y gallu i brofi damcaniaethau a thybiaethau newydd.
  • Gwerthuso deunyddiau, prosesau a thechnegau sy'n berthnasol i ddyluniadau pensaernïol cymhleth ac adeiladu, ac integreiddio'r rhain yn gynigion dylunio ymarferol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, dylech allu:

  • Dangos sgiliau datrys problemau, barn broffesiynol, a'r gallu i gymryd y cam cyntaf a gwneud penderfyniadau priodol mewn amgylchiadau cymhleth ac anrhagweladwy.
  • Nodi anghenion dysgu unigol a deall y cyfrifoldeb personol sydd ei angen i baratoi ar gyfer gwaith o fewn y proffesiwn pensaernïol.
  • Gwerthuso a chymhwyso ystod gynhwysfawr o gyfryngau gweledol, llafar ac ysgrifenedig i brofi, dadansoddi, arfarnu ac esbonio cynigion dylunio yn feirniadol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,450 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Bydd y Brifysgol yn talu unrhyw gostau ychwanegol sy'n hanfodol i chi basio'r rhaglen. Am y rheswm hwn byddwch yn cael dyraniad ariannol bach yn ôl y gofyn. Bydd manylion hyn yn cael eu darparu gan Arweinydd eich Rhaglen drwy gydol y flwyddyn academaidd.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Gofynnir i chi ddod ag offer arlunio sylfaenol. Argymhellir yn gryf eich bod yn buddsoddi mewn gliniadur gyda meddalwedd priodol. Mae llawer o'r feddalwedd a ddefnyddir fel arfer ar gael drwy gytundebau addysgol am ddim neu am gost is.

Bydd yr Ysgol yn darparu unrhyw offer arall sydd ei angen. Cewch gyfle i weithio yn stiwdios dylunio'r Ysgol, cael mynediad i gyfres o gyfrifiaduron sy'n rhedeg y feddalwedd angenrheidiol a defnyddio plotwyr fformat mawr, torrwr laser digidol a gweithdy sydd â digon o gyfarpar.

Byddwn yn darparu unrhyw offer sy'n hanfodol i'r cwrs. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn dod â gliniadur gyda meddalwedd priodol (e.e. prosesu geiriau), USB neu yriant caled, deunydd ysgrifennu cyffredinol a rhywfaint o offer llunio sylfaenol.

Rydym yn darparu trwyddedau i fyfyrwyr ar gyfer y rhan fwyaf o'r feddalwedd arbenigol a ddefnyddiwn ar y cwrs. Fodd bynnag, ar hyn o bryd dim ond ar gyfrifiaduron gyda system weithredu Windows y gallwn warantu y bydd y rhain yn gweithio.

Yn ystod y cwrs, bydd gennych fynediad i'r Llyfrgell Bensaernïaeth arbenigol, a llyfrgelloedd eraill y Brifysgol, a mannau astudio ar draws y campws. Yn yr Ysgol, gallwch weithio yn ein stiwdios dylunio, defnyddio ein hystafelloedd cyfrifiadura a chyfleusterau eraill sy'n cynnwys plotwyr fformat mawr, torrwr laser digidol, a gweithdy sydd yn helaeth ei offer.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Er y bydd llawer o'n graddedigion yn dewis ymgymryd â gyrfa mewn pensaernïaeth neu broffesiynau amgylchedd adeiledig eraill, mae rhaglen MA AD hefyd yn cynnig llawer o sgiliau trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd ar draws ystod eang o broffesiynau.  Mae'r pwyslais ar ymchwil dylunio beirniadol a dysgu sy'n seiliedig ar brosiectau yn cael ei groesawu gan gyflogwyr gan ei fod yn rhoi sgiliau i raddedigion o ran meddwl yn greadigol, trefnu cysyniadol, myfyrio beirniadol ac arwain wrth wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth.

Gwaith maes

During the course we go on a range of study trips in the UK, Europe, or further afield. On these trips we will organise guided visits to urban areas, public spaces and buildings that demonstrate how principles taught in the programme are applied in innovative ways. You will also have the opportunity to meet local stakeholders, architects and built environment professionals who collaborate with the School. In previous years, students have travelled and developed their projects in Barcelona, Palermo, Athens, Venice, Rome and the Ruhr Valley, amongst other places.

 

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Pensaernïaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.