Ewch i’r prif gynnwys

Cymdeithas Myfyrwyr

Dewch yn aelod o Gymdeithas Myfyrwyr Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

SAWSA logo

Ein gwerthoedd craidd

Llesiant

Mae llesiant yn allweddol i addysg dylunio a gallwn gefnogi eich iechyd a llesiant fel myfyrwyr dylunio. Rydym yn deall dwysedd gweithio mewn stiwdio ac yn cynnal gweithgareddau sy'n hyrwyddo amgylchedd di-straen yn yr Ysgol. Eleni byddwn yn cynnal sesiynau llesiant bob mis sy'n ffordd wych o gymryd egwyl o ofynion bywyd yn y stiwdio.

Gwasanaeth

Mae'r Gymdeithas yn annog creadigrwydd a dysgu mewn ymateb i'r pryderon byd-eang presennol. Gyda darlithoedd gan ddylunwyr ac arbenigwyr yn y maes, rydym yn ymwybodol o ddatblygiadau creadigol. Rydym yn mwynhau ymgysylltu gyda nifer o agweddau dylunio drwy weithgareddau sy'n cynnwys:

  • cyfres o ddarlithoedd amrywiol gan benseiri a gyrfaoedd eraill sy'n seiliedig ar ddylunio;
  • dosbarthiadau creadigol, gan gynnwys gwaith cerfluniol a darlunio bywyd er mwyn defnyddio ac arbrofi â thechnegau newydd;
  • cyfres o ffilmiau bywiog sy'n codi ymwybyddiaeth am ddiwylliant pensaernïol a'r byd dylunio

Cynghrair

Mae digwyddiadau'r Gymdeithas yn dod â chymuned yr Ysgol ynghyd mewn gweithgareddau cymdeithasol fel ein dathliadau am y gaeaf a'r haf pob blwyddyn. Rydym am fod yn bresennol yng nghymunedau dylunio yn lleol a'n rhyngwladol. Ein nod yw ymgyfarwyddo myfyrwyr gydag elfennau academaidd a chreadigol y cwrs, yn ogystal â chreu cymuned o ffrindiau iddynt weithio a threulio amser gyda nhw. Rydym yn darparu cyfleoedd rhyngweithio gydag olynwyr yn y maes gan ein bod yn credu bod meithrin perthnasau proffesiynol yn hanfodol ar gyfer gyrfa yn y byd dylunio.

Sut i ddod yn aelod

Rhaid i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf a'r ail brynu 'Lifetime Guild' o UNdeb y Myfyrwyr, a myfyrwyr y drydedd flwyddyn neu fyfyrwyr PhD i ddewis '1-Year Guild' er mwyn ymaelodi am flwyddyn yn unig.

Mae aelodaeth ar gael ar gyfer myfyrwyr yr ail, drydedd a phumed blwyddyn ac i fyfyrwyr PhD. Mewngofnodwch a dewiswch eich aelodaeth.

Ymuno a'r Gymdeithas