Dylunio Trefol (MA)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Mae’r cwrs hwn, a redir ar y cyd ag Ysgol Bensaernïaeth Cymru, yn galluogi myfyrwyr i ddysgu gan ddefnyddio dylunio, theori, ac arferion dylunio datblygu a rheoli, a fydd yn llywio'r prosesau dylunio trefol.
Cydnabyddiaeth broffesiynol
Wedi’i hachredu gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).
Addysgu stiwdio-dylunio
Cyfle i ddatblygu cynigion beirniadol, creadigol ac ymarferol ar gyfer safleoedd go iawn, gan fynd i'r afael â materion dylunio cyfoes a threfoli pwysig.
Uchel ei pharch
Cyflwynir gan ddwy Ysgol sydd ymhlith y 50 Ysgol orau yn y byd.
Dan arweiniad arbenigwyr
Byddwch yn dysgu oddi wrth, ac yn ymgysylltu â, staff academaidd sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, yn ogystal ag ymarferwyr blaenllaw.
Mae ein cwrs MA Dylunio Trefol yn cael ei gyd-gyflwyno gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru a’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio. Nod y rhaglen hon yw galluogi ymarferwyr ac ysgolheigion i drawsnewid maes dylunio trefol drwy feddwl beirniadol ac ymarfer creadigol.
Mae dylunio trefol yn drawsddisgyblaethol, yn pontio meysydd proffesiynol fel pensaernïaeth, pensaernïaeth tirwedd, cynllunio trefol a pholisi cyhoeddus, a hefyd disgyblaethau fel gwleidyddiaeth, economeg, cymdeithaseg ac astudiaethau diwylliannol. Mae'r rhaglen yn cwmpasu'r trawsddisgyblaeth hon yn llawn drwy'r theori, yr hyfforddiant ymchwil a’r addysgu dylunio y mae'n eu cynnig.
Byddwch yn dysgu gan staff academaidd o'r ddwy ysgol, sy'n hynod fedrus ac sy'n gweithio’n lleol yng Nghaerdydd, yn genedlaethol yn y DU, ac yn rhyngwladol ar draws y byd. Yng nghyd-destun y stiwdios dylunio, byddwch hefyd yn gallu elwa ar fewnbwn ac arbenigedd ymarferwyr blaenllaw.
Prif fyrdwn yr addysgu yn y stiwdio fydd llunio cynigion craff, creadigol ac ymarferol ar gyfer safleoedd go iawn, gan drin a thrafod rhai materion cyfoes o bwys ynghylch dylunio a bywyd trefol.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Ysgol Pensaernïaeth Cymru
Ein nod yw gwneud y byd yn lle gwell gyda phensaernïaeth sy'n sensitif i'w gyd-destun, yn gynaliadwy a phrydferth.
Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio a mynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd, datblygiad ac amgylcheddol sy'n effeithio ar ble a sut yr ydym ni'n byw.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:2 honours degree in a relevant subject area such as architecture, environmental design, human geography, landscape architecture, landscape design, urban design, and urban planning, or an equivalent international degree
- a university-recognised equivalent academic qualification
- or relevant professional experience evidenced by a reference. The reference must be provided by your employer to evidence that you currently work in an area relevant to the programme. This should be signed, dated and less than six months old at the time you submit your application.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 with 6.0 in all subskills, or an accepted equivalent.
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Gradd amser llawn a blwyddyn o hyd yw hon.
Mae'r cwrs wedi'i strwythuro i ddarparu cyfres o dri modiwl a addysgir drwy ddarlithoedd a thri modiwl dylunio yn y stiwdio, ac yna traethawd hir ar ffurf prosiect dylunio sy'n seiliedig ar ymchwil. Mae'r tri modiwl a addysgir drwy ddarlithoedd yn rhedeg ochr yn ochr â phrosiectau dylunio yn y stiwdio sy'n eich galluogi i gysylltu theori ac ymarfer yn barhaus.
Eich prosiect dylunio sy'n seiliedig ar ymchwil yw penllanw eich astudiaethau. Bydd gofyn i chi ddatblygu cynigion sy'n ymwneud â safle a ddewiswyd, gan ddangos dealltwriaeth o bob agwedd ar luniau dylunio trefol a sylwebaeth ysgrifenedig, fyfyriol.
Bydd gennych 2-3 diwrnod o amser cyswllt bob wythnos, gan weithio rhwng y stiwdio ddylunio a darlithoedd/seminarau eich modiwl.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Urban Design Thinkers | CPT771 | 20 credydau |
Urban Design Foundation | CPT852 | 10 credydau |
Autumn Studio | CPT910 | 30 credydau |
Spring Studio | CPT911 | 30 credydau |
Urban Development Debates | CPT924 | 20 credydau |
Urban Design Research Methods | CPT927 | 10 credydau |
Urban Design Dissertation | CPT928 | 60 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Cewch eich addysgu mewn stiwdios newydd, golau yng nghanol y ddinas. Bydd gennych hefyd fynediad i'r cyfleusterau modelu a gweithdai diweddaraf yn yr Ysgol Pensaernïaeth.
Mae'r MA hwn yn cael ei addysgu drwy ddarlithoedd, gweithdai a stiwdios dylunio, gan ddarlithwyr sydd i gyd yn arbenigwyr yn eu meysydd - mewn daearyddiaeth, cynllunio trefol, bywyd trefol, dylunio trefol a phensaernïaeth. Mae'r tiwtoriaid dylunio hefyd yn cynnwys ymarferwyr blaenllaw sy'n gwneud eu profiad o ymarfer arloesol yn rhan ganolog o’r gwaith yn y stiwdio ddylunio.
Prif fyrdwn yr addysgu yn y stiwdio fydd llunio cynigion craff, creadigol ac ymarferol ar gyfer safleoedd go iawn, gan drin a thrafod rhai materion cyfoes o bwys ynghylch dylunio a bywyd trefol.
Sut y caf fy asesu?
Mae modiwlau nad ydyn nhw’n ymwneud â dylunio yn darparu'r sylfeini ar gyfer datblygu dealltwriaeth o ddylunio trefol. Asesir y rhain drwy’r dulliau canlynol:
- Traethodau
- Adroddiadau
- Cyflwyniadau
Mae'r rhan fwyaf o’r rhain yn darparu cyfleoedd ar gyfer asesiad crynodol. Fodd bynnag, mae tiwtorialau, a nifer o draethodau yn darparu'r cyfleoedd ar gyfer asesu ffurfiannol.
Cynhelir asesiad crynodol ar ddiwedd pob modiwl. Mae elfennau asesu ffurfiannol yn cynnwys adolygiadau dylunio, un neu ddau fesul modiwl dylunio fel arfer, ac mae tiwtorialau wythnosol hefyd yn rhoi cyfle ar gyfer hyn.
Mae mathau eraill o asesu yn cynnwys:
- Lluniadau
- Llyfrau braslunio
- Arholiadau Viva Voce ar y traethawd hir
- Adroddiadau
Sut y caf fy nghefnogi?
Byddwch yn cael sesiynau tiwtorial ac arweiniad un-i-un bob wythnos gyda'ch tiwtor dylunio dynodedig, a bydd arweinwyr modiwlau hefyd ar gael i roi cyngor i chi. Defnyddir tiwtorialau grŵp ac unigol yn helaeth hefyd ar gyfer y modiwlau nad ydyn nhw’n ymwneud â dylunio.
Ar gyfer y modiwl traethawd hir a'r modiwl craidd sy'n sail ar gyfer hyn, bydd gofyn i chi ddewis pwnc ymchwil a/neu safle ar gyfer gweithredu dyluniad ar ei gyfer. Bydd arweinydd y modiwl yn eich cefnogi drwy’r amser, yn ogystal â’r tîm goruchwylio traethawd hir ehangach.
Adborth
Rydyn ni’n cynnig llawer o gyfleoedd adborth yn aml. Ar wahân i draethodau ac adroddiadau, mae seminarau lle bydd gofyn i chi gyflwyno a thrafod yr hyn rydych wedi'i ddysgu, a sesiynau adolygu dyluniadau, lle mae gwaith dylunio yn cael ei arddangos a'i gyflwyno gan fyfyrwyr, ac yna’n cael ei drafod gan feirniaid gwadd, tiwtoriaid a chyfoedion. Yn y modiwlau dylunio, byddwch yn cwrdd â'ch tiwtor dylunio bob wythnos i drafod cynnydd, fel arfer mewn cyfarfodydd un-i-un.
Byddwch hefyd yn gallu cael gafael ar diwtor personol a fydd wedi’i neilltuo i chi, arweinwyr modiwlau a Chyfarwyddwr y Cwrs. Mae ein tîm addysgu yn mynd ati'n rhagweithiol i fonitro cynnydd myfyrwyr.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Gallwch ddisgwyl gwella eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o economeg a gwleidyddiaeth drefol, a rôl dylunydd trefol, yn ogystal â datblygu'r ystod o sgiliau perthnasol i ddechrau neu ddatblygu gyrfa mewn dylunio trefol.
Mae'r sgiliau hyn ym meysydd: dylunio'r amgylchedd adeiledig ar nifer o raddfeydd, cyfathrebu graffig, ymchwil drefol, ymchwil a datblygu polisi, prisio eiddo ac ymgynghori â'r gymuned.
Mae sgiliau generig yn cynnwys y rhai ym meysydd:
- Gweithio’n effeithiol mewn tîm
- Cyd-drafod
- Rheoli amser
Bydd graddedigion o'r rhaglen hon yn ennill ystod eang o sgiliau, a cheir disgrifiad o’r rhain ym mhob un o ddisgrifiadau’r modiwl.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £11,200 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £24,700 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Bydd yr Ysgol yn talu am bopeth sy’n rhan hanfodol o'r rhaglen - esbonnir hynny’n eglur yn yr holl wybodaeth am y rhaglen ac mewn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan diwtoriaid ar lafar.
Mae'r Brifysgol o'r farn nad oes angen i'r Ysgolion dalu'r costau canlynol gan nad ydyn nhw’n hanfodol neu maen nhw’n gostau sylfaenol y dylid disgwyl i fyfyriwr eu talu eu hunain:
- Gliniaduron
- Cyfrifianellau
- Deunydd ysgrifennu cyffredinol
- Gwerslyfrau (y tybir eu bod ar gael yn y llyfrgell)
Os oes costau/ffioedd dewisol i'w talu gan y myfyriwr, nid yw'r rhain yn ofyniad i basio'r radd.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Byddwn yn darparu unrhyw offer sy'n hanfodol i'r cwrs. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn dod â gliniadur gyda meddalwedd priodol (e.e. prosesu geiriau), USB neu yriant caled, deunydd ysgrifennu cyffredinol a rhywfaint o offer lluniadu sylfaenol.
Rydym yn darparu trwyddedau i fyfyrwyr ar gyfer y rhan fwyaf o'r feddalwedd efelychu arbenigol a ddefnyddiwn ar y cwrs. Fodd bynnag, ar hyn o bryd dim ond ar gyfrifiaduron gyda system weithredu Windows y gallwn warantu y bydd y rhain yn gweithio. Mae llawer o'r feddalwedd a ddefnyddir fel arfer ar gael drwy gytundebau addysgol am ddim neu am gost is.
Yn ystod y cwrs, bydd gennych fynediad i'r Llyfrgell Bensaernïaeth arbenigol, a llyfrgelloedd eraill y Brifysgol, a mannau astudio ar draws y campws. Yn yr Ysgol, gallwch ddefnyddio ein hystafelloedd cyfrifiadura a chyfleusterau eraill sy'n cynnwys plotwyr fformat mawr, torrwr laser digidol, a gweithdy sydd yn helaeth ei offer.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Gall raddedigion fynd yn ddylunwyr trefol neu weithio mewn gwaith sy'n gysylltiedig â dylunio trefol. Mae'r rhan fwyaf o'r gyrfaoedd hynny ym meysydd ehangach pensaernïaeth, cynllunio trefol, eiddo neu bolisïau cyhoeddus. Gall y rhain fod o fewn y sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol. Mae rhai o'n graddedigion yn parhau i astudio i gael graddau ymchwil uwch.
Darperir canllawiau a mentora ar yrfaoedd yn ystod y flwyddyn.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Pensaernïaeth, Daearyddiaeth a chynllunio, Dylunio
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.