Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau Pensaernïol (MArch)

  • Hyd: 2 flynedd
  • Dull astudio: Amser llawn yn rhan o swydd

Dyddiad dechrau
deadline-date

Dyddiad cau

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 30 Mehefin.

calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Rhaglen dwy-flynedd yw hon ac fe gymer hi raddedigion i lefel uchel o ddylunio pensaernïol. Mae’n bodloni Rhan 2 o gymhwyster proffesiynol y DU i benseiri, ac fe’i cymeradwywyd gan RIBA.

academic-school

Ysgol bensaernïaeth flaenllaw

Astudio yn un o ysgolion pensaernïaeth gorau'r deyrnas.

certificate

Achrediad proffesiynol

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu’n broffesiynol gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) a’r Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) ar lefel Rhan 2.

briefcase

Blwyddyn ar leoliad proffesiynol

Ar gael fel cwrs amser llawn dwy flynedd o hyd gyda'r flwyddyn gyntaf yn cael ei threulio'n bennaf gyda chwmni pensaernïol.

star

Mynediad at arbenigedd blaenllaw

Byddwch yn dysgu gan ein staff academaidd a thiwtoriaid profiadol o gwmnïau pensaernïol blaenllaw yn y DU sydd ag arbenigeddau mewn ystod eang o feysydd.

Yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, rydym yn darparu llwybr achrededig llawn i ddod yn bensaer proffesiynol yn y DU. Y rhaglen MArch hon yw ail gam (Rhan 2) y llwybr hwn ac fe'i bwriedir ar gyfer y rhai sy'n dymuno parhau â'u haddysg tuag at fod yn bensaer cymwysedig. Mae hi wedi’i chymeradwyo gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) a’r Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB). Os nad oes gennych gymhwyster Rhan 1 eisoes, edrychwch ar ein BSc Astudiaethau Pensaernïol.

Mae ein rhaglen MArch yn para dwy flynedd, ac fe'i hastudir yn amser llawn. Mae'n rhaglen unigryw, oherwydd yn ystod y flwyddyn gyntaf o astudio byddwch yn treulio'r rhan fwyaf o'ch amser mewn practis pensaernïol yn ymgymryd â chyfuniad o waith academaidd a gwaith yn y practis. Yn eich ail flwyddyn byddwch yn gweithio yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Adeilad Bute.

Drwy gydol y cwrs, byddwn yn archwilio'r ystod lawn o sgiliau y mae eu hangen i fod yn bensaer ac yn eich galluogi i ddatblygu eich profiad personol a phroffesiynol. Er mwyn eich paratoi ar gyfer gofynion y proffesiwn pensaernïol, rydym yn adeiladu ar eich gwybodaeth bresennol ac yn ei hehangu i gynnwys dylunio adeiladau mwy cymhleth a gofynion dylunio trefol. Rydym hefyd yn astudio agweddau proffesiynol a chyfreithiol gwaith pensaer. Rydym hefyd yn eich annog i gynyddu gwybodaeth mewn maes arbenigol drwy brosiect traethawd hir ysgrifenedig.

Achrediadau


Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglenni sy'n arloesol ac yn berthnasol, a chynnig y deilliannau dysgu a'r rhagolygon gyrfaol gorau i'n myfyrwyr. O gofio hyn, rydym yn adolygu rhai elfennau o'r rhaglen hon ar hyn o bryd. Felly, mae'r manylion yn rhai dangosol yn unig a gallent gael eu newid. Gallwch gyflwyno cais o hyd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon ac yn cysylltu â'r holl ddeiliaid cynnig pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau er mwyn cadarnhau unrhyw newidiadau.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Ein nod yw gwneud y byd yn lle gwell gyda phensaernïaeth sy'n sensitif i'w gyd-destun, yn gynaliadwy a phrydferth.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4430
  • MarkerRhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NB

Meini prawf derbyn

Bydd yn rhaid ichi lenwi ffurflen gais ôl-raddedig yn ogystal â darparu portffolio o’ch gwaith dylunio.

Dylai’r portffolio gynnwys cyfuniad o waith academaidd a phroffesiynol, gan ganolbwyntio'n benodol ar brosiect(au) terfynol/graddio o'ch astudiaethau pensaernïol Rhan 1 RIBA (neu’r hyn sy’n gyfwerth). Dylai gwaith sy’n deillio o gyfnod ymarfer gael ei gyflwyno mewn ffordd sy'n nodi'n glir sut roeddech chi wedi cyfrannu ar sail unigol neu fel awdur unigol. Gellir cynnwys gwaith arall, er enghraifft, cystadleuaeth ddylunio, lluniadau bywyd neu allbynnau ymarfer creadigol eraill. Rydyn ni’n chwilio am ddulliau sy’n cyfannu byd dylunio a phrosiectau pensaernïol integredig yn enwedig h.y. prosiectau sy'n dod â dylunio pensaernïol a thechnoleg a byd theori ynghyd. Mae'r dewis yn seiliedig ar eich cymwysterau, eich portffolio a’ch datganiad personol.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Cynhelir ail flwyddyn y rhaglen MArch yn yr Ysgol yn amser llawn ac mae’n fodd i fyfyrwyr astudio dyluniad pensaernïol ar lefel uwch. Mae'n cynnig fforwm dwys a bywiog ar gyfer archwilio a thrafod materion ym maes pensaernïaeth gyfoes. Mae'n cynnwys 'Thesis Dylunio', traethawd hir ysgrifenedig a modiwl mewn rheoli ymarfer ac economeg.

Mae gwaith prosiect yn elfen bwysig yn yr ail flwyddyn ac mae'n cynnwys dyluniad cynhwysfawr ar gyfer adeilad neu grŵp o adeiladau a ddewiswyd gennych chi ac a oruchwylir gan aelod priodol o staff. Byddwch hefyd yn cwblhau traethawd hir sy'n eich galluogi i gynyddu gwybodaeth ac arbenigo mewn maes sydd o ddiddordeb i chi. Mae'r dewisiadau ar hyn o bryd yn cynnwys gwyddoniaeth a thechnoleg bensaernïol, hanes a theori pensaernïaeth, problemau cymdeithasol mewn pensaernïaeth, ac astudiaethau proffesiynol a rheoli.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.

Blwyddyn un

Byddwch yn treulio'r flwyddyn gyntaf gyda chwmni pensaernïol, sydd wedi'i gymeradwyo gan yr Ysgol, ac yn ymgymryd â modiwlau astudio a dylunio o bell. Byddwch yn dychwelyd i'r Ysgol sawl gwaith ar gyfer cyrsiau byr.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Design in PracticeAR440160 credydau
Research PreparationAR440220 credydau
Reflective PracticeAR440340 credydau

Blwyddyn dau

Yn eich ail flwyddyn byddwch yn ymgymryd â gwaith prosiect ac yn cwblhau eich traethawd hir.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Design ThesisAR500180 credydau
DissertationAR500230 credydau
Practice, Management and EconomicsAR500310 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Bydd y dulliau addysgu y byddwn yn eu defnyddio yn amrywio o un modiwl i’r llall, fel y bo'n briodol, gan ddibynnu ar y pwnc a'r dull asesu. Rydyn ni’n addysgu gan ddefnyddio cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, ymweliadau astudio, gwaith prosiect a thiwtorialau grŵp.

Mewn darlithoedd a gweithdai, ein nod yw defnyddio cymorth clyweledol yn briodol i gynorthwyo dysgu a datblygu sgiliau sy’n benodol i’r pwnc. Byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunyddiau addysgu perthnasol drwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, sef Dysgu Canolog.

Sut y caf fy asesu?

Asesir modiwlau a addysgir ac sy'n seiliedig ar brosiectau mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, gan ddibynnu ar gynnwys y modiwl a’r deilliannau dysgu (a geir yn y disgrifiadau o’r modiwlau). Rydyn ni’n defnyddio profion dosbarth, gwaith cwrs (aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar neu asesiadau/adolygiadau beirniadol), a gwaith prosiect, neu gyfuniad o'r rhain i asesu'ch cynnydd yn y modiwl.

Byddwch hefyd yn cael eich asesu ar brosiect traethawd hir, y byddwch yn ei gwblhau yn yr ail flwyddyn. Mae'r traethawd hir yn adroddiad ysgrifenedig ar ddarn o waith ymchwil rydych wedi'i wneud mewn maes pwnc y cytunwyd arno o dan oruchwyliaeth.

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ystod eich blwyddyn mewn practis, byddwn yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â chi. Bydd cynrychiolydd o'r Ysgol yn ymweld â chi hefyd.

Tra byddwch yn astudio gyda ni, bydd gennych fynediad i'n Llyfrgell Bensaernïaeth bwrpasol, yn ogystal â deunyddiau yn Llyfrgelloedd eraill Prifysgol Caerdydd.

Rydym hefyd yn cefnogi myfyrwyr trwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, lle gallwch ofyn cwestiynau mewn fforwm neu gael hyd i ddogfennau sy’n ymwneud â’r cwrs.

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth sy'n agored i'n myfyrwyr, megis y Ganolfan Graddedigion, cwnsela a lles, cynghorwyr ariannol a gyrfaoedd, y swyddfa ryngwladol ac Undeb y Myfyrwyr.

Adborth

Rydyn ni’n cynnig adborth ysgrifenedig ac adborth llafar, gan ddibynnu ar y gwaith cwrs neu'r asesiad rydych wedi'i wneud. Fel arfer, byddwch yn derbyn eich adborth gan arweinydd y modiwl. Os oes gennych gwestiynau am eich adborth, mae arweinwyr modiwlau fel arfer yn hapus i roi cyngor ac arweiniad i chi ar eich cynnydd.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Datblygir y rhaglen hon gyda dealltwriaeth glir o briodoleddau graddedig RIBA ('dangosyddion lefelau') ar gyfer Rhan 2. Yn unol â hyn, dyfernir Rhan 2 i fyfyrwyr sy’n meddu ar y canlynol:

  • Y gallu i lunio cynigion dylunio cymhleth sy'n dangos dealltwriaeth o faterion pensaernïol cyfredol, gwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth am bynciau a, lle bo'n briodol, y gallu i brofi damcaniaethau a thybiaethau newydd.
  • Y gallu i werthuso a chymhwyso ystod gynhwysfawr o gyfryngau gweledol, llafar ac ysgrifenedig i brofi, dadansoddi, gwerthuso'n feirniadol ac egluro cynigion dylunio.
  • Gwerthuso deunyddiau, prosesau a thechnegau sy'n berthnasol i ddyluniadau pensaernïol cymhleth ac adeiladu, ac integreiddio'r rhain yn gynigion dylunio ymarferol.
  • Deall yn feirniadol sut mae gwybodaeth yn cael ei datblygu drwy ymchwil i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig a dylunio clir, rhesymegol a gwreiddiol sy'n ymwneud â diwylliant, theori a dylunio pensaernïol.
  • Dealltwriaeth o gyd-destun y pensaer a'r diwydiant adeiladu, gan gynnwys rôl y pensaer ym mhrosesau caffael a chynhyrchu adeiladau, ac o dan ddeddfwriaeth.
  • Y gallu i ddangos sgiliau datrys problemau a barn broffesiynol ac i gymryd y cam cyntaf a gwneud penderfyniadau priodol mewn amgylchiadau cymhleth ac anrhagweladwy.
  • Y gallu i nodi anghenion dysgu unigol a deall y cyfrifoldeb personol sydd ei angen i baratoi ar gyfer cymhwyster fel pensaer.

Darperir manylion am y gofynion penodol a'r deilliannau dysgu ar gyfer pob un o'r modiwlau a gyflawnir yn ystod y cwrs meistr mewn briffiau, llawlyfrau a disgrifyddion modiwlau.

Students in the Master of Architecture
We encourage independent and collaborative project work in our studios, as well as peer discussion..

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £4,500 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £12,725 Dim
Blwyddyn dau £25,450 Dim

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Bydd yr Ysgol yn cynnwys cost popeth sy’n rhan hanfodol o'r rhaglen - esbonnir hynny’n glir yn yr holl wybodaeth am y rhaglen ac mewn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan diwtoriaid ar lafar. Darperir cyfraniad ariannol at gostau teithio a chynhaliaeth y daith maes.

Ni fydd yr Ysgol yn talu costau sy’n gysylltiedig â’r flwyddyn ryngosod, fel teithio a llety.

Mae'r Brifysgol o'r farn nad oes angen i'r ysgolion dalu'r costau canlynol gan nad ydyn nhw’n hanfodol neu gan eu bod yn gostau sylfaenol y dylid disgwyl i fyfyriwr eu talu eu hunain:

  • Gliniaduron
  • Cyfrifianellau
  • Deunydd ysgrifennu cyffredinol
  • Gwerslyfrau (tybir eu bod ar gael yn y llyfrgell)
  • Llungopïo/argraffu sylfaenol

Os oes costau/ffioedd dewisol i'w talu gan y myfyriwr, nid yw'r rhain yn ofyniad i basio'r radd.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Byddwn yn darparu unrhyw offer sy'n hanfodol i'r cwrs. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn dod â gliniadur gyda meddalwedd priodol (e.e. prosesu geiriau), USB neu yriant caled, deunydd ysgrifennu cyffredinol a rhywfaint o offer llunio sylfaenol.

Rydym yn darparu trwyddedau i fyfyrwyr ar gyfer y rhan fwyaf o'r feddalwedd efelychu arbenigol a ddefnyddiwn ar y cwrs. Fodd bynnag, ar hyn o bryd dim ond ar gyfrifiaduron gyda system weithredu Windows y gallwn warantu y bydd y rhain yn gweithio.

Yn ystod y cwrs, bydd gennych fynediad i'r Llyfrgell Bensaernïaeth arbenigol, a llyfrgelloedd eraill y Brifysgol, a mannau astudio ar draws y campws. Yn yr Ysgol, gallwch weithio yn ein stiwdios dylunio, defnyddio ein hystafelloedd cyfrifiadura a chyfleusterau eraill sy'n cynnwys plotwyr fformat mawr, torrwr laser digidol, a gweithdy sydd yn helaeth ei offer.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae’r rhan fwyaf o’n graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfa ym maes pensaernïaeth, ac yn gweithio mewn nifer o gwmnïau blaenllaw yn y DU a ledled y byd.

Fodd bynnag, mae’r gyrfaoedd posibl i’n graddedigion hefyd yn cynnwys dylunio trefol, addysgu ac ymchwil yn ogystal a phensaernïaeth. Ymysg cyflogwyr eraill ein graddedigion, roedd swyddfeydd penseiri, ymgynghorwyr ynni adeiladu, adrannau cynllunio trefi, cwmnïau adeiladu a rhai prifysgolion. Mae rhai graddedigion yn mynd ymlaen i wneud graddau ymchwil uwch fel MPhil neu PhD.

Ar ôl cwblhau ein MArch mewn Pensaernïaeth a chael profiad ymarferol pellach, efallai yr hoffech ymgymryd â chymhwyster Rhan 3 [dolen i PGDip/MA mewn Astudiaethau Proffesiynol os yn bosibl], a bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i gofrestru gyda Bwrdd Cofrestru’r Penseiri (ARB) a chael defnyddio'r teitl 'pensaer' yn y DU yn sgîl hynny.

Lleoliadau

Treulir blwyddyn gyntaf y cwrs hwn mewn practis. Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod o hyd i leoliad addas mewn cwmni pensaernïol eu hunain. Mae gan ein myfyrwyr hanes ardderchog o gael gafael ar leoliadau gwaith, ac mae llawer o'n graddedigion yn y gorffennol wedi defnyddio’r flwyddyn o addysg mewn practis i dreulio amser mewn practis dramor. Dylai myfyrwyr gadw mewn cysylltiad â'r Ysgol yn ystod y cyfnod hwn a byddwn yn anfon cynrychiolydd o'r Ysgol i ymweld â chi. Dylai eich lleoliad bara am o leiaf 9 mis.

Arian

Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig

Os ydych yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2023 neu ar ôl hynny, gallech wneud cais am arian i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gwaith maes

Mae’r gwaith prosiect yn ail flwyddyn y cwrs yn seiliedig ar unedau, sy'n aml yn cael eu cyfuno â theithiau astudio yn y DU a/neu yn Ewrop. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi teithio i Barcelona, Fenis, Rhufain a Dyffryn Ruhr, ymhlith lleoedd eraill.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Architecture


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.