Ewch i’r prif gynnwys

Pensaernïaeth

Mae gan yr Ysgol Pensaernïaeth enw da yn y wlad hon ac yn rhyngwladol am ei hymchwil. Ym myd gwyddor bensaernïol, hanes a theori pensaernïaeth ac ymarfer pensaernïol y mae ei chryfderau.

Rydym wedi sefydlu nifer o ganolfannau ymchwil gan gynnwys

Mae ein arbenigeddau ymchwil yn cynnwys

  • ynni a pherfformiad amgylcheddol adeiladau a systemau,
  • cynaliadwyedd ar raddfa drefol,
  • defnyddio a rheoli adnoddau,
  • dinas, y tirlun a'r amgylchedd,
  • diwylliannau, hanesion a syniadau,
  • diwylliannau gweledol,
  • ymarfer ac addysgeg,
  • dylunio adeiladau,
  • deunyddiau,
  • rheoli prosiectau,
  • cyfraith adeiladu,
  • technegau dylunio digidol ac
  • addysg bensaernïol.

Nodweddion unigryw

  • Gall myfyrwyr wneud cais am hyd at £500 y flwyddyn ar gyfer treuliau sy'n berthnasol i'w gwaith ymchwil.
  • Mae cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau addysgu yn yr Ysgol.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3 blynedd, MPhil 1-2 flynedd
Hyd rhan-amser PhD 5-7 mlynedd, MPhil hyd at 3 blynedd
Derbyniadau Ebrill, Hydref

Mae gennym raglen o seminarau ymchwil rheolaidd, sy’n cynnwys staff a myfyrwyr PhD, a Chynhadledd flynyddol i Fyfyrwyr Ymchwil. Ceir hefyd weithdai thematig, e.e. ar bynciau fel modelu neu bensaernïaeth temlau.

Asesiad

Cyflwyno traethawd ymchwil a sefyll arholiad llafar ar gyfer yr MPhil a’r PhD.

Mae ymchwil yn rhan fawr o'r hyn yr ydym yn ei wneud. Mae’n arwain at ddealltwriaeth newydd sy'n bwysig yn ei rhinwedd ei hun, ond mae hefyd yn llywio ein haddysgu ac yn effeithio ar y byd y tu allan i'r brifysgol.

Mae ein gwaith ymchwil yn cwmpasu’r gwyddorau ffisegol, y gwyddorau cymdeithasol, y dyniaethau, a dylunio er mwyn meithrin rhagoriaeth mewn meysydd allweddol o bensaernïaeth a'r amgylchedd adeiledig.

Goruchwylwyr

Mae rhestr lawr o staff academaidd sydd ar gael ar gyfer goruchwylio ar wefan yr Ysgol Pensaernïaeth.

Meysydd ymchwil

Mae’r mathau o swyddi mae ein myfyrwyr yn eu cael yn aml yn cynnwys cwmnïau pensaernïaeth, fel tiwtoriaid cwrs prifysgol, ymgynghorwyr cynllunio/dylunio, dylunwyr trefol. Mae cyflogwyr blaenorol wedi cynnwys: Atkins, Prifysgol Caerdydd, Davies Sutton Architects, Hyder Consulting, Arup and Partners.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Yn addas ar gyfer graddedigion ym maes pensaernïaeth, cynllunio, peirianneg, gwyddorau cymdeithasol, cyfrifiadureg a gwyddorau amgylcheddol, sydd wedi ennill gradd anrhydedd 2:1.

Rydym yn croesawu ymholiadau a cheisiadau gan bobl sydd â chymwysterau addas sy'n dymuno cynnal ymchwil mewn maes perthnasol.

Gofynion Iaith Saesneg

IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.

Caiff penderfyniadau eu gwneud ar sail eich cais ysgrifenedig a'r geirdaon a dderbyniwyd.

Efallai y bydd ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyfweliad (y gellir ei gynnal dros Skype os nad ydynt yn gallu mynychu’n bersonol).

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Derbyniadau Ymchwil Pensaernïaeth

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig