Ewch i’r prif gynnwys

Dulliau Cyfrifiadurol mewn Pensaernïaeth (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael â'r galw am weithwyr creadigol proffesiynol sydd â sgiliau ym meysydd TG, saernïo digidol a meddalwedd efelychu, neu sydd â'r gallu i gynllunio dulliau datblygu meddalwedd penodol i ddatrys problemau dylunio unigryw.

star

Dysgu arloesol

Dysgu dulliau dylunio algorithmic arloesol ym maes pensaernïaeth.

building

Ennill profiad ymarferol

Ennill profiad ymarferol â’n offer llunio digidol blaengar mewnol.

tick

Adeiladu eich offer digidol eich hun

Adeiladu eich offer digidol eich hunain drwy raglennu a sgriptio gweledol.

people

Cymryd rhan mewn gwaith tîm

Cymryd rhan mewn gwaith tîm amlddisgyblaethol sy’n adlewyrchu ymarfer proffesiynol.

academic-school

Manteisiwch ar arbenigedd amlddisgyblaethol

Elwa ar arbenigedd amlddisgyblaethol gan staff ymchwil ar draws yr Ysgol Pensaernïaeth, Cyfrifiadureg a Pheirianneg.

notepad

Teilwra'ch dysgu

Gallwch deilwra eich dysgu i’ch diddordebau a’ch anghenion eich hunain, a datblygu arbenigedd penodol drwy fodiwlau dewisol a phrosiect ymchwil dan arweiniad myfyrwyr.

Mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael â'r galw am weithwyr creadigol proffesiynol sydd â sgiliau ym meysydd TG, saernïo digidol a meddalwedd efelychu, neu sydd â'r gallu i gynllunio dulliau datblygu meddalwedd penodol i ddatrys problemau dylunio unigryw. Bydd ein dull amlddisgyblaethol yn rhoi gwybodaeth a sgiliau i fyfyrwyr a fydd yn eu galluogi i nodi dulliau cyfrifiadurol arloesol i'w defnyddio yn y diwydiannau creadigol a dylunio. Yn benodol, byddwn yn edrych ar ganfod ffurf gan ddefnyddio dulliau parametrig a chynhyrchiol, paratoi gwybodaeth ddigidol ar gyfer dadansoddi trylwyr pellach, ac integreiddio rhesymeg saernïo digidol o fewn camau cynnar y broses ddylunio.

Cewch eich addysgu gan arbenigwyr ar draws pynciau pensaernïaeth, cyfrifiadureg a pheirianneg, a fydd yn cynnig dull rhyngddisgyblaethol ac unigryw i chi o edrych ar ddylunio.

Seiliwyd ethos y cwrs ar y cysyniad o greadigrwydd trylwyr lle caiff meddwl algorithmig, dylunio parametrig systematig, dulliau dadansoddol, greddf greadigol ac ymdeimladau tectonig eu hintegreiddio er mwyn creu dyluniadau mwy arloesol na'r hyn y mae dulliau traddodiadol yn ei alluogi ar hyn o bryd.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn gallu datblygu ac arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb i chi trwy ystod o fodiwlau dewisol a'ch dewis o bwnc traethawd hir. Ymhlith y pynciau y gallwch arbenigo ynddyn nhw mae meddwl algorithmig mewn dylunio parametrig a chanfod ffurfiau, dylunio a dadansoddi ar sail perfformiad, neu ddylunio ar gyfer saernïo digidol.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Ein nod yw gwneud y byd yn lle gwell gyda phensaernïaeth sy'n sensitif i'w gyd-destun, yn gynaliadwy a phrydferth.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4430
  • MarkerRhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NB

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu: 

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis pensaernïaeth, cyfrifiadureg, peirianneg, dylunio mewnol, pensaernïaeth tirwedd, neu ddylunio trefol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS. 
  3. portffolio academaidd neu broffesiynol o'ch gwaith i ddangos tystiolaeth o'ch dealltwriaeth o faes dulliau cyfrifiannol mewn pensaernïaeth a rhywfaint o brofiad cychwynnol yn y defnydd o offer digidol. Dylai portffolios fod yn uchafswm o wyth (8) tudalen a darparu tystiolaeth o feddwl dychmygus, cysyniadol a systematig, datrysiad technegol, a chyfathrebu clir o wybodaeth a syniadau. 
  4. Datganiad personol sy'n cynnwys eich rhesymau dros astudio'r rhaglen hon ac unrhyw brofiad gyda materion sy'n ymwneud â dylunio digidol a dulliau cyfrifiadurol mewn pensaernïaeth o fewn eich astudiaethau blaenorol neu yrfa broffesiynol.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais gan gynnwys eich portffolio ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r rhaglen llawn amser hon yn cael ei haddysgu dros flwyddyn, lle byddwch yn datblygu traethawd hir sy'n seiliedig ar brosiect, gyda chefnogaeth tiwtorialau rheolaidd. Bydd rhywfaint o gynnwys y modiwl yn cael ei gyflwyno drwy weithdai dwys yn ystod wythnosau bloc tra bydd elfennau eraill o gynnwys y modiwl yn cael eu cyflwyno'n wythnosol. Bydd y cwrs yn cynnwys modiwlau craidd sy'n cyflwyno cysyniadau sylfaenol a chyfres o fodiwlau mwy dewisol ac uwch sy'n eich galluogi i arbenigo mewn un neu fwy o bynciau. Rydyn ni’n defnyddio cyfuniad o waith unigol a gwaith grŵp i asesu eich cynnydd. Daw’r cwrs i ben gyda thraethawd hir gan y myfyriwr ynghyd â thraethawd myfyriol 5,000 o eiriau.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

.

Ym mhob semester, byddwch yn gwneud 60 credyd i gyd, gan gynnwys modiwlau craidd a dewisol.

Mae'r traethawd hir a arweinir gan fyfyrwyr, o fis Mehefin i fis Medi, yn cynnig cyfle unigryw a chyffrous i chi ddatblygu a dilyn eich agenda ymchwil eich hun, dod o hyd i wybodaeth newydd, ac integreiddio sawl dull yn llifoedd gwaith newydd ac arloesol. Gan weithio gyda goruchwyliwr, bydd eich traethawd hir yn cynnwys ymchwiliad cyfrifiadurol a allai gynhyrchu cyflawniadau amrywiol gan gynnwys, ymysg rhai eraill, unrhyw gyfuniad o: gyflwyniadau gweledol, codau cyfrifiadurol a sgriptiau, arteffactau, fideo ac animeiddiadau a grëwyd yn ddigidol, perfformiadau aml-gyfrwng, neu amgylcheddau a mecanweithiau ymatebol. Byddwch hefyd yn paratoi traethawd myfyriol i fynd gyda’r traethawd hir sy'n esbonio'r cefndir, y meddylfryd y tu ôl i'r prosiect, y fethodoleg, croniclau o’ch ymchwiliad, yn ogystal â chyflwyno prif ganfyddiadau a chasgliadau'r prosiect ymchwil. Bydd y traethawd myfyriol a'r prosiect ymchwil a gynhyrchir yn cael eu hasesu gan banel o aseswyr.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Rydyn ni’n anelu at ddarparu amgylchedd eithriadol ar gyfer dulliau cyfrifiadurol mewn addysg bensaernïaeth ac adlewyrchu ein cryfderau a'n diddordebau ymchwil presennol. Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio'n ofalus i'ch galluogi i wireddu eich potensial i'r eithaf. Ein nod yw cynnig addysgu arbenigol a gofal bugeiliol cynhwysfawr.

Bydd y dulliau addysgu y byddwn yn eu defnyddio yn amrywio o un modiwl i’r llall, fel y bo'n briodol, yn dibynnu ar y pwnc a'r dull asesu. Rydyn ni’n addysgu gan ddefnyddio cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, a thiwtorialau un-i-un a grwpiau. Bydd darlithoedd yn esbonio cysyniadau cyffredinol, bydd seminarau a gweithdai yn eich tywys drwy agweddau technegol y modiwl, a bydd tiwtorialau un-i-un a grŵp yn ateb cwestiynau ac yn eich helpu gyda'ch prosiect. Mae'r addysgu hefyd yn cynnwys darparu deunyddiau dysgu ar-lein fel sy'n briodol i'r modiwl.

Mae elfen traethawd hir y rhaglen yn cael ei chynnal drwy'r broses ddylunio, gan barhau yn dilyn eich modiwlau a addysgir a gwblhawyd yn rhan gyntaf y cwrs. Rydyn ni’n eich cynghori i barhau i gwrdd â'ch tiwtor bob wythnos. Dilynir hyn fel arfer gan gyfnod o fyfyrio ac ysgrifennu, lle byddwch yn gweithio'n annibynnol o dan arweiniad eich tiwtor ac o dan oruchwyliaeth arweinydd y rhaglen neu aelod arall o'r staff academaidd.

Sut y caf fy asesu?

Fel arfer, asesir y modiwlau drwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiadau. Gall asesiadau gwaith cwrs fod ar ffurf adroddiadau ymarferol ysgrifenedig, adroddiadau strwythuredig, profion dosbarth, profion ateb strwythuredig, gwaith grŵp, cyflwyniadau poster a llafar ac ymarferion datrys problemau cyfrifiadurol. Gall asesiadau fod yn grynodol a chyfrif tuag at farc terfynol y modiwl, neu'n ffurfiannol, gan eich helpu i ddysgu ac ymarfer sgiliau a gwybodaeth allweddol drwy adborth. Gall arholiadau terfynol ar ddiwedd pob modiwl gynnwys adran ateb strwythuredig (sy’n asesu ehangder gwybodaeth) a/neu adran ateb ysgrifenedig (sy’n asesu dyfnder gwybodaeth mewn pynciau penodol). Mae eich prosiect traethawd hir yn cael ei asesu gan werthusiad goruchwyliwr ac adroddiad ysgrifenedig.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae Cydlynydd y Cwrs wedi'i neilltuo’n Diwtor Personol i chi, a bydd yn gallu rhoi cyngor i chi, gan gynnal trosolwg o'ch profiadau dysgu ac addysgol. Os cewch unrhyw anawsterau, bydd eich Tiwtor Personol ar gael i wrando a chynnig arweiniad proffesiynol, os oes modd, neu eich cyfeirio at ffynhonnell addas fydd yn gallu rhoi cymorth i chi. Byddwch yn cael cyfarfod â’ch Tiwtor Personol o leiaf unwaith y semester. Gall y cyfarfod hwn hefyd fod yn gyfle i drafod eich nodau gyrfa, cyflogadwyedd a datblygiad proffesiynol.

Mae pob aelod o’r staff academaidd yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn ymchwilwyr profiadol yn eu priod feysydd ac maen nhw’n angerddol am rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd â myfyrwyr.

Bydd y prif ryngweithio â staff academaidd yn digwydd yn ystod darlithoedd, gweithdai neu diwtorialau grŵp bach.

Gellir cysylltu â staff darlithio mewn sesiynau addysgu neu drwy ebost, ac maen nhw naill ai’n defnyddio polisi ""drws agored"" i fyfyrwyr sydd ag ymholiadau penodol am ddeunydd cwrs, neu system ar gyfer trefnu cyfarfodydd. Mae ein Swyddfa Addysgu wedi'i lleoli yn Adeilad Bute, lle mae staff proffesiynol cyfeillgar a phrofiadol ar gael, sy'n gallu ateb y rhan fwyaf o ymholiadau gweinyddol.

Adborth

Bydd adborth ar eich astudiaeth, eich gwaith a’ch cynnydd ar sawl ffurf, o sylwadau ysgrifenedig ffurfiol ar eich gwaith a gyflwynwyd i sgyrsiau mwy anffurfiol a chyngor yn ystod dosbarthiadau a sesiynau ymarferol, neu gan eich Tiwtor Personol. Drwy gydol cyfnod y cwrs, byddwn yn rhoi adborth manwl ar yr holl waith cwrs a asesir. Fel arfer, darperir hyn ar-lein drwy system ""Feedback Studio"", sy'n eich galluogi i weld eich adborth yn gyfleus trwy ddyfais tabled neu gyfrifiadur. Byddwch hefyd yn cael cyfle i drafod eich cynnydd academaidd a’ch datblygiad personol â'ch Tiwtor Personol, a thrafod eich gwaith er mwyn gwella eich perfformiad. Yn ystod y prosiect ymchwil, cewch adborth ychwanegol yn rheolaidd gan y staff academaidd sy’n eich goruchwylio.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Deall a gwerthuso damcaniaethau cyfrifiadura a dulliau cyfrifiadurol yn feirniadol.
  • Deall a gwerthuso'n feirniadol rôl dulliau cyfrifiadurol yn y broses ddylunio.
  • Deall a gwerthuso'n feirniadol rôl dulliau cyfrifiadurol yn y broses saernïo digidol.
  • Deall a gwerthuso'n feirniadol rôl dulliau cyfrifiadurol yn y broses adeiladu.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Meddwl yn algorithmig, yn systematig ac yn greadigol am integreiddio dulliau cyfrifiadurol yn y broses ddylunio.
  • Meddwl yn algorithmig, yn systematig ac yn greadigol am integreiddio dulliau cyfrifiadurol yn y broses saernïo digidol.
  • Meddwl yn algorithmig, yn systematig ac yn greadigol am integreiddio dulliau cyfrifiadurol yn y broses adeiladu.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Meistroli dulliau ymarferol mewn datblygu meddalwedd.
  • Meistroli defnyddio meddalwedd ar gyfer dulliau cyfrifiadurol ym mhrosesau dylunio, saernïo digidol, ac adeiladu.
  • Cyflwyno prosesau cyfrifiadurol haniaethol yn weithredol ac yn greadigol a'u hintegreiddio i gyd-destun mwy.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Arwain a gweithio mewn timau yn effeithlon.
  • Gosod nodau dysgu a nodi adnoddau ar gyfer dysgu mewn proses o ddysgu gydol oes.
  • Nodi llenyddiaeth berthnasol a’i hadolygu'n feirniadol.
  • Cydnabod cyfleoedd i arloesi ac ymateb iddyn nhw.
  • Datblygu a hybu'n feirniadol agenda ymchwil unigol i'w chwblhau a'i chyflwyno mewn gwaith academaidd gwreiddiol - ysgrifenedig a/neu ddyluniad.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Bydd y Brifysgol yn talu unrhyw gostau ychwanegol sy'n hanfodol i chi basio'r rhaglen. Am y rheswm hwn byddwch yn cael dyraniad ariannol bach yn ôl y gofyn. Bydd manylion hyn yn cael eu darparu gan Arweinydd eich Rhaglen drwy gydol y flwyddyn academaidd.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Mae'r cwrs meistr hwn yn rhaglen ddwys sy'n dibynnu gryn dipyn ar offer a dulliau cyfrifiadurol. Felly, dylech fod â rhywfaint o ddealltwriaeth neu ddiddordeb presennol mewn dulliau cyfrifiadurol ym maes pensaernïaeth (e.e. dylunio parametrig, ffugio digidol, dulliau rhaglennu gweledol). Argymhellir yn gryf bod gennych liniadur cyfoes sy'n gallu ymdrin â graffeg 3D gymhleth. Os nad oes gennych liniadur, mae gan yr ysgol labordy TG sy’n cynnwys sawl gweithfan y gallech eu defnyddio ar gyfer eich gwaith. Bydd angen rhedeg y rhan fwyaf o feddalwedd ar system weithredu Microsoft Windows. Fodd bynnag, gall gliniaduron Mac redeg meddalwedd Windows drwy efelychu. Mae'r feddalwedd sy'n hanfodol ar gyfer y rhaglen hon ar gael gyda thrwydded rad ac am ddim i fyfyrwyr neu bydd yr Ysgol yn ei darparu. Mae'r canlynol yn rhestr gychwynnol fer o’r feddalwedd sydd ei hangen:

  • Rhinoceros 3D + Grasshopper 3D
  • Autodesk Revit + Dynamo
  • Autodesk 3ds Max

Byddwn yn darparu trwyddedau i fyfyrwyr ar gyfer y feddalwedd arbenigol ychwanegol a ddefnyddiwn ar y cwrs (e.e. efelychu ynni, ac ati). Fodd bynnag, ar hyn o bryd dim ond ar gyfrifiaduron gyda system weithredu Windows y gallwn warantu y bydd y rhain yn gweithio. Bydd arweinydd eich modiwl yn rhoi lawrlwythiadau meddalwedd eraill i chi.

Bydd cyfres o gyfrifiaduron ar gael ar eich cyfer sy'n rhedeg y feddalwedd angenrheidiol ac yn defnyddio plotwyr fformat mawr, torrwr laser digidol a gweithdy sydd â digon o gyfarpar. Byddwn yn darparu unrhyw offer ychwanegol sy'n hanfodol i'r cwrs.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Er bod llawer o'n graddedigion yn dewis ymgymryd â gyrfa ym meysydd pensaernïaeth neu broffesiynau amgylchedd adeiledig eraill (e.e. peirianneg ac adeiladu, tirwedd, dylunio mewnol), mae'r rhaglen yn cynnig nifer fawr o sgiliau trosglwyddadwy sydd o fudd ar draws ystod eang o broffesiynau.

Mae galw mawr am yr wybodaeth a'r sgiliau a enillir ym maes dulliau cyfrifiadurol fel modelu 3D, rendro, animeiddio, dylunio paramedrig, saernïo digidol, a modelu gwybodaeth am adeiladau (BIM) gan gyflogwyr mewn diwydiannau amrywiol sy'n chwilio am arbenigwyr â sgiliau TG. Mae'r canlynol yn enghreifftiau: dylunwyr dodrefn, cwmnïau dylunio gemwaith, cwmnïau dylunio graffig, cwmnïau datblygu gemau cyfrifiadurol, a hyd yn cwmnïau dylunio setiau ffilm a theatr. Mae angen sgiliau penodol ar y cwmnïau hyn yn rheolaidd gan gynnwys sgiliau TG, sgiliau saernïo digidol, sgiliau efelychu meddalwedd, neu offer datblygu meddalwedd personol, er mwyn datrys problemau dylunio unigryw.

Mae'r pwyslais ar ddysgu annibynnol sy'n seiliedig ar brosiectau, yn ogystal â'r gallu i ddatrys problemau cymhleth yn unigol ac mewn grwpiau, yn aml yn cael ei groesawu gan gyflogwyr gan ei fod yn rhoi sgiliau i raddedigion o ran meddwl yn greadigol, trefnu cysyniadol, myfyrio beirniadol a chymryd camau.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.