Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglenni ôl-raddedig a addysgir

Mae ein portffolio o raglenni meistr yn adlewyrchu cryfderau ymchwil yr ysgol ym meysydd dylunio a dylunio pensaernïol, trefolaeth, y gwyddorau pensaernïol, dulliau cyfrifiadurol mewn pensaernïaeth, hanes, treftadaeth, cadwraeth, ac ymarfer proffesiynol. Er bod y cyrsiau'n amrywiol, mae cynaliadwyedd dylunio a datblygu ar wahanol raddfeydd yn thema drawsbynciol gref.

PGT courses

Mae'r cyrsiau i gyd yn ymwneud â rôl yr amgylchedd adeiledig, hanesyddol a chyfoes, wrth gynhyrchu heriau byd-eang megis newid yn yr hinsawdd. Mewn gwahanol ffyrdd, maent hefyd yn archwilio potensial arferion dylunio ac arloesedd i fynd i'r afael â'r heriau hyn, gan lunio rhagolygon gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a'n byd cyfunol yn y dyfodol. Mae myfyrwyr yn elwa o gael eu haddysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd, gan gynnwys ymchwilwyr ac ymarferwyr.

Mae'r cyrsiau wedi'u cynllunio i fod o werth i'r rhai sy'n dymuno cael addysg arbenigol ar ôl astudio ar gyfer gradd israddedig, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol sydd am ddatblygu sgiliau ac arbenigedd newydd. Mae llawer yn cynnig yr opsiwn i astudio’n rhan-amser neu ddysgu o bell, sy’n eu gwneud yn addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd am barhau i ymarfer wrth astudio. Mae llawer hefyd yn integreiddio arbenigedd gan ysgolion eraill y brifysgol, sy’n gwneud dysgu traws-ddisgyblaethol ac arbenigol yn bosibl.

Ein cyrsiau

MA Dylunio Pensaernïol

MA Dylunio Pensaernïol

Mae’r rhaglen hon ar gyfer myfyrwyr sy’n chwilio am gwrs ôl-raddedig uwch a difyr sy’n canolbwyntio ar yr agweddau lluosog ar ddylunio ac ymchwilio a’r gwahanol gysylltiadau rhwng y meysydd hyn.

MA Dylunio Trefol

MA Dylunio Trefol

Diben y rhaglen hon yw galluogi ymarferwyr ac ysgolheigion i drawsnewid maes dylunio trefol drwy feddwl yn feirniadol ac ymarfer creadigol.

Gradd Meistr ym maes Gweinyddu Dylunio (MDA)

Gradd Meistr ym maes Gweinyddu Dylunio (MDA)

Nod y rhaglen hon yw sicrhau bod gennych yr arbenigedd angenrheidiol i weinyddu a rheoli'r broses ddylunio'n llwyddiannus wrth gaffael adeiladau.

MSc Dulliau Cyfrifiadurol mewn Pensaernïaeth

MSc Dulliau Cyfrifiadurol mewn Pensaernïaeth

Mae'r rhaglen hon yn mynd i'r afael â'r angen i weithwyr proffesiynol creadigol ddatrys problemau dylunio unigryw.

MSc Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol

MSc Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol

Nod ein cwrs yw datblygu gwybodaeth ac arbenigedd ynghylch dylunio amgylcheddau iach a chyfforddus mewn adeiladau ac o'u cwmpas, beth bynnag fo'r hinsawdd, gan roi sylw priodol i faterion cynaliadwyedd.

MSc Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy

MSc Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy

Rhaglen unigryw yw hon sy’n pwysleisio rôl cynaliadwyedd yn y cyd-destun hanesyddol, ac sy’n mynd i’r afael â phryderon sy’n hanfodol ar gyfer dyfodol addysg am gadwraeth.

MSc Mega-Adeiladau Cynaliadwy

MSc Mega-Adeiladau Cynaliadwy

Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar egwyddorion dylunio a chynllunio mega-adeiladau cynaliadwy.

Dip.Ôl-radd mewn Pensaernïaeth: Ymarfer Proffesiynol (RIBA/ARB Rhan 3)

Dip.Ôl-radd mewn Pensaernïaeth: Ymarfer Proffesiynol (RIBA/ARB Rhan 3)

Mae’r rhaglen hon yn galluogi myfyrwyr i gael dealltwriaeth fanwl o’r agweddau cyfreithiol ac economaidd ar ymarfer pensaernïol a chaffael gwaith adeiladu.

Portffolio ôl-raddedig

Portffolio ôl-raddedig

Edrychwch ar waith, gweithgareddau a theithiau maes myfyrwyr o rai o’n rhaglenni ôl-raddedig.