Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Llywodraethiant Cymru

Rydyn ni’n cynnal ymchwil arloesol i bob agwedd ar gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraethu ac economi wleidyddol Cymru yn ogystal â chyd-destunau ehangach llywodraethu tiriogaeth y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop.

Fe welwch chi ein canfyddiadau a’n sylwadau diweddaraf am bolisïau gwladol Cymru ac achlysuron byw trwy ddilyn @WalesGovernance ar Twitter.

Rydyn ni’n cynnig amryw gyrsiau rhan-amser ac amser llawn i ôl-raddedigion ynglŷn â’r gyfraith, llywodraethu a gwleidyddiaeth yn ogystal â llwybrau i astudiaethau israddedigion.

Mae’n hymchwil yn ymwneud â rhai o faterion cyfoes pwysicaf Cymru megis Brexit, datganoli, cyfiawnder, awdurdodaeth a dadansoddi ariannol.

Newyddion diweddaraf

Fideo: Brexit a'r Undeb, Tensiynau a Heriau

5 Mai 2023

Academyddion blaenllaw yn cyflwyno yng Nghatalwnia

Radicals and Realists: Canllaw hanfodol i bleidiau gwleidyddol Gwyddelig i'w lansio yn nigwyddiad y Brifysgol

25 Ebrill 2023

Llyfr sylweddol newydd, gan awdur o Gaerdydd, i'w drafod ar y campws

Gwersi i Gymru a Chatalonia i'w hystyried mewn digwyddiad yn Llundain

20 Ebrill 2023

Bydd digwyddiad cyhoeddus yn swyddfa llywodraeth Catalwnia yn Llundain yn clywed gan Robert Jones a Richard Wyn Jones, awduron y llyfr academaidd cyntaf erioed ar System Cyfiawnder Troseddol Cymru

Digwyddiadau

Yn ein digwyddiadau, daw arbenigwyr blaenllaw ac amryw enwogion ynghyd i drafod polisïau gwladol, gwleidyddiaeth, llywodraethu a’r gyfraith.