Ewch i’r prif gynnwys

Gwleidyddiaeth Ewrop ac Astudiaethau Bro

Mae Gwleidyddiaeth Ewrop ac Astudiaethau Bro yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (MPhil, PhD).

Mae gan yr Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ddiwylliant ymchwil eithriadol o gryf gydag enw da am ansawdd yr ymchwil a gynhyrchir a’r nifer cynyddol o grantiau ymchwil y mae’r ysgol yn eu denu.

Mae'r ysgol yn cynnig cyfarwyddo ar draws ystod eang o bynciau ymchwil gan gynnwys

  • Gwleidyddiaeth gymharol
  • Gwleidyddiaeth Ewropeaidd
  • Sefydliadau'r UE
  • Gwleidyddiaeth yr UE
  • Economi wleidyddol Ewropeaidd
  • Ardal yr Ewro
  • Polisïau a model cymdeithasol Ewropeaidd
  • Polisïau cyhoeddus Ewropeaidd
  • Ewropeiddio
  • Cysylltiadau Allanol yr UE
  • Etholiadau a phleidiau gwleidyddol Ewrop
  • Amddiffyn a diogelwch Ewropeaidd
  • Hanes integreiddio Ewropeaidd
  • Ffrainc ac Ewrop
  • Yr Almaen ac Ewrop
  • Yr Eidal ac Ewrop
  • Llywodraethu is-genedlaethol yn Ewrop

Mae’r Adran hefyd yn gartref i gymuned ôl-raddedig ffyniannus. Rydym yn gartref i Ganolfan Llywodraethiant Cymru ac i Uned Ymchwil i Lywodraethiant, Hunaniaeth a Pholisi Cyhoeddus yn Ewrop, gan ddenu ysgolheigion gwadd o bob cwr o Ewrop a’r byd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn Astudiaethau Ewropeaidd sy’n cynnig safbwynt diwylliannol, edrychwch ar ymchwil ôl-raddedig Yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Postgraduate Politics Admissions Administrator

Administrative contact

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig