Llywodraethiant a Datganoli (LLM)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Datblygwch eich gwybodaeth am drefniadau strwythurol a chyfansoddiadol y DU.
Defnyddiwch ein hymchwil
Rydym yn gartref i Ganolfan Llywodraethiant Cymru, sy'n ymchwilio i bob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth a’r economi wleidyddol yng Nghymru.
Defnyddio ein cysylltiadau
Rydym yn cynnig cysylltiadau agos â'r sefydliadau datganoledig yng Nghymru: Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru.
Dangos eich gwybodaeth
Dyma’r cyfle i ymgymryd ag ymchwil fanwl mewn maes sy'n ymwneud â Chyfraith Gofal Cymdeithasol sydd o ddiddordeb ichi.
Defnyddiwch ein hymchwil
Ystyriwyd bod 80% o'n hymchwil yn rhagorol o ran ehangder ac arwyddocâd ei heffaith (REF 2014).
Mae deall sut mae cyfansoddiadau yn trefnu pwerau, dyletswyddau, hawliau a chyfrifoldebau yn hanfodol ar gyfer cymdeithas a llywodraeth fodern. Mae’r Deyrnas Unedig wedi gweld newidiadau cyfansoddiadol radical yn yr 21ain ganrif sydd wedi addasu cyfansoddiaeth a llywodraethiant drwy’r pedair gwlad gyfan.
Mae deall goblygiadau hyn yn y presennol a’r dyfodol wrth galon ein rhaglen LLM Llywodraethiant a Datganoli.
Mae’r rhaglen yn eich galluogi i archwilio’r newidiadau strwythurol i drefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, yn bennaf creu cyrff deddfwriaethol a gweithredol yn yr Alban ac yng Nghymru, ac ail-ddechrau’r Llywodraeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon. Bydd cyd-destun gadael yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn cynnig cyfle i barhau i ystyried pwerau a chyfrifoldebau rhwng llywodraethau a deddfwrfeydd yn y DU. Mae’r rhaglen hon yn archwilio’r cyfleoedd a’r tensiynau a grëwyd gan y datblygiadau arloesol strwythurol hyn ac yn eich arwain i gwestiynu dyfodol posibl cyfansoddiad a chenhedloedd y DU.
Trafodir problemau ynghylch atebolrwydd, ymgysylltu democrataidd ac ystyr ‘llywodraethu da’ i gynnig dealltwriaeth o lywodraeth a llywodraethiant ar lefel y wladwriaeth ac yn rhyngwladol.
Mae’r rhaglen LLMC Llywodraethiant a Datganoli yn hynod hyblyg ac yn cynnig ystod eang o fodiwlau sy’n eich galluogi i fanteisio i’r eithaf ar yr arbenigedd ymchwil o fewn yr Ysgol. Mae’n cynnig cyfle i chi addasu’r rhaglen i fodloni’ch anghenion proffesiynol a/neu gyflogaeth eich hun. Dyma rai o’r modiwlau: Cyfansoddiadaeth a Llywodraethiant a Chyfraith Datganoli yng Nghymru.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae ein corff myfyrwyr bywiog, ynghyd â'n staff academaidd hynod gymwysedig, yn darparu'r amgylchedd perffaith i archwilio meysydd dynamig a phrysur y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.
Meini prawf derbyn
Suitable for graduates from any legal tradition or jurisdiction, or with a legal practice qualification from any legal tradition or jurisdiction, who have a special interest in constitutional legal theory and in regional governance.
You should ideally have obtained at least a 2:1 class degree or equivalent in Law. Applicants with a 2.2 class degree or equivalent will be considered taking into account the application in its entirety.
Those whose first language is not English must obtain an IELTS overall score of 6.5 with 6.5 in writing and no less than 6 in the other sub-scores, or the equivalent.
Early application is strongly advised, normally well before the end of July. Later applications will be considered, but international students must bear in mind the time needed to obtain a visa.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Rhaid i chi ddewis o leiaf dau o'ch pedwar modiwl a addysgir a chwblhau'r traethawd hir ym maes Llywodraethu a Datganoli. Gallwch hefyd ddewis hyd at ddau fodiwl o'r rhai a restrir mewn unrhyw raglen LLM arall neu o gyfuniad o raglenni LLM.
Cyflwynir y rhaglen mewn dau gam. Mae Cam Un (yr elfen a addysgir) yn cynnwys pedwar modiwl 30 credyd. Mae Cam Dau yn cynnwys y traethawd hir. Bydd dau o'r modiwlau Cam Un yn cael eu haddysgu a'u hasesu yn y semester cyntaf a'r ddau arall yn yr ail semester. Byddwch yn symud ymlaen at y traethawd hir ar ôl cwblhau Cam Un yn llwyddiannus.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Mae Blwyddyn Un yn cynnwys pedwar modiwl a addysgir sydd werth cyfanswm o 120 credyd. Ar ôl cwblhau'r cam a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen at y traethawd hir 60 credyd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dissertation | CLT600 | 60 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae astudio ar gyfer LLM yn ddwys ac yn heriol ac mae'n bwysig eich bod yn manteisio'n llawn ar yr addysgu a ddarperir er mwyn llwyddo. Mae bod yn bresennol mewn dosbarthiadau a sesiynau goruchwylio traethodau hir yn orfodol a byddwn yn disgwyl i chi fod wedi paratoi'n dda.
Mae ein haddysgu'n hyblyg iawn a gellir cyflwyno eich modiwlau drwy seminarau neu gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Ymhlith y dulliau addysgu eraill mae defnyddio byrddau trafod ar-lein, pecynnau astudio hunan-ddefnyddio a chwisiau a gweithgareddau ffurfiannol.
Gall modiwlau fod yn amrywiol o ran cynnwys i ddarparu ar gyfer cyfran uchel o fyfyrwyr tramor neu fyfyrwyr sydd â chymwysterau blaenorol heblaw yn y gyfraith. Fel arfer, caiff modiwlau eu harwain gan staff profiadol sy'n cymryd rhan weithredol mewn ymchwil sy'n berthnasol i'w maes pwnc.
Sut y caf fy asesu?
Rydyn ni’n defnyddio dulliau asesu ffurfiannol a chrynodol.
Nid yw asesiadau ffurfiannol yn cyfrif tuag at eich gradd ond maen nhw wedi'u cynllunio i roi'r cyfle i chi ymarfer ar gyfer eich asesiadau crynodol a'ch galluogi chi a'ch tiwtoriaid i asesu eich cynnydd yn eich modiwlau. Bydd asesiadau ffurfiannol fel arfer yn cynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig neu brawf dosbarth neu gallant gynnwys cyflwyniadau unigol gan fyfyrwyr.
Mae asesiadau crynodol yn cyfrif tuag at eich gradd. Mae eich marciau yn yr asesiadau hyn yn cyfrif tuag at eich dilyniant ffurfiol o gam un (modiwlau a addysgir) i gam dau (y traethawd hir), a thuag at benderfynu ar eich dyfarniad terfynol. Bydd asesiadau crynodol yng ngham un yn amrywio yn ôl modiwl ond fel arfer byddant yn cynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig (traethodau 5,000 gair), arholiadau heb eu gweld ymlaen llaw neu arholiadau wedi’u rhyddhau ymlaen llaw. Mae asesiad crynodol cam dau yn cynnwys y traethawd hir (hyd at 15,000 o eiriau).
Sut y caf fy nghefnogi?
Rydyn ni wedi creu modiwl sgiliau ymchwil ac astudio wedi'i gynllunio'n arbennig sy'n cael ei astudio gan bob myfyriwr LLM ar ddechrau'r rhaglen. Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth sgiliau ysgrifennu i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.
Defnyddir e-ddysgu i gefnogi eich dysgu. Cefnogir pob modiwl gan Dysgu Canolog, sef amgylchedd dysgu rhithwir sydd ar gael ar ac oddi ar y campws, lle byddwch yn cael gafael ar ystod eang o ddeunyddiau ar gyfer eich modiwlau.
Byddwch yn derbyn cymorth bugeiliol penodol drwy ein cynllun tiwtor personol. Rydyn ni’n cynnig rhaglen helaeth o ddarlithoedd a gweithdai gyrfaoedd yn yr Ysgol gyda Chydlynydd Cynllun Pro-bono ac Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Gyfraith mewnol. Mae Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth dynodedig yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr ag anableddau. Mae gan y Brifysgol amrywiaeth o wasanaethau i'ch cefnogi, gan gynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a llyfrgelloedd rhagorol gyda llyfrgellwyr y gyfraith arbenigol a chanolfannau adnoddau.
Mae adborth llafar ar gael yn ystod seminarau a byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig ar eich asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Bydd adborth unigol ar waith ffurfiannol yn eich helpu i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysgu, yn ogystal â sut gallech wella eich perfformiad mewn asesiadau crynodol. Bydd adborth ysgrifenedig ar gael heb fod yn hwyrach na phedair wythnos ar ôl i chi gyflwyno'ch asesiad.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae disgwyl i chi gymryd mwy o gyfrifoldeb am eich addysg wrth i chi ymgymryd â'ch astudiaethau ôl-raddedig. Trwy’r LLM, byddwch yn ennill ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr; rhai sy'n benodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau cyflogadwyedd mwy generig. Yn ystod y rhaglen byddwch yn gallu ymestyn eich sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Byddwch hefyd yn gallu datblygu sgiliau cydweithio, ysgwyddo rolau arwain a gwella sgiliau astudio disgybledig ac annibynnol.
Cewch eich annog i weithio'n annibynnol i chwilio am ddeunyddiau cyfreithiol i chi'ch hun, i ddarllen a dadansoddi'r deunyddiau hyn yn feirniadol ac i gyflwyno dadl strwythuredig a rhesymegol o dan arweiniad eich tiwtoriaid a'ch goruchwylwyr. Byddwch yn cael hyfforddiant mewn sgiliau ymchwil ôl-raddedig i ddatblygu eich galluoedd ymchwil, ysgrifennu a dadansoddi cyfreithiol annibynnol.
Ochr yn ochr â'r cwricwlwm, cewch gyfle i ddatblygu sgiliau ""cyflogadwyedd"" ehangach drwy gymryd rhan yng nghynlluniau pro-bono y Gyfraith ar Waith yr Ysgol, sy'n cael eu rhedeg ar y cyd â sefydliadau partner, lle mae gwirfoddolwyr sy'n fyfyrwyr yn cynorthwyo pobl go iawn wrth ymwneud â'r gyfraith. Mae'r cynlluniau ar hyn o bryd yn cynnwys:
- Y Gyfraith mewn Cyfiawnder: Prosiect Dieuogrwydd (sy'n ymdrin ag achosion honedig o gamweinyddu cyfiawnder);
- Y Gyfraith mewn Gofal Iechyd: Cynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG (heriau i asesiadau ariannu gofal iechyd y GIG);
- Y Gyfraith mewn Chwaraeon: Prosiect Rygbi'r Undeb (darparu cyngor cyfreithiol a chylchlythyrau cyfreithiol i glybiau rygbi).
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,700 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £20,450 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Nid yw gradd yn y gyfraith yn cyfyngu graddedigion i yrfaoedd o fewn y proffesiwn cyfreithiol. Mae graddedigion y gyfraith yn mynd i broffesiynau amrywiol fel cyllid, gwerthu a marchnata, cyfathrebu digidol a recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ymestyn cyfleoedd allgyrsiol i'n myfyrwyr, gan helpu i wella eu CVs mewn marchnad swyddi gystadleuol i raddedigion. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau a sefydliadau gwirfoddol i roi cyfle i fyfyrwyr ymarfer ac ehangu eu sgiliau. Rydym yn cynnal nifer o gynlluniau Pro Bono ac yn rhoi cyngor i aelodau'r gymuned ar wahanol faterion cyfreithiol.
Efallai y bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r rhaglen LLM yn llwyddiannus yn cael cyfle i barhau â'u hastudiaeth gyfreithiol drwy raglen PhD yr Ysgol, neu drwy raglenni proffesiynol y Ganolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol (y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu Gwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar).
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.