Ewch i’r prif gynnwys

Darparu Cyffuriau a Microbioleg

Mae Darparu Cyffuriau a Microbioleg yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol (MPhil, PhD).

Ein nod yw

  • Deall natur y rhwystrau biolegol a datblygu systemau gwell er mwyn gwella darpariaeth therapiwteg.
  • Deall strategaethau goroesi microbaidd, halogiad microbaidd mewn cynhyrchion fferyllol, rheoli haint microbaidd mewn amgylcheddau gofal iechyd.

Nodweddion unigryw

  • Cyfleusterau delweddu a cytometreg,
  • Labordai ynysu ac ystafelloedd ar gyfer ymchwiliadau procaryotau ac ewcaryotau,
  • Adnoddau bioleg foleciwlaidd a chelloedd,
  • Ystafell wltra-allgyrchu pwrpasol, offer cromatograffig uwch,
  • Offer cemeg polymer ar gyfer syntheseiddio a nodweddu,
  • Ystafell GMP ar gyfer fformwleiddio treialon clinigol

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Mrs Wendy Davies

Postgraduate Research Administrator

Themâu ymchwil

  • Cyflenwi cyffuriau ar gyfer yr ysgyfaint
  • Cyflenwi cyffuriau a bioresymeg drwy nodwydd fach
  • Sefydlogrwydd cymysgeddau maeth i’w gweinyddu trwy’r gwythiennau
  • Gadael ôl moleciwlaidd
  • Treiddiad cellbilenni
  • Treiddiad trawsdermol cyffuriau
  • Rhyngweithiadau micro-organebau gyda chynhyrchion fferyllol
  • Mecanweithiau gwrthficrobaidd
  • Diagnosteg ar gyfer cyfryngau heintus, yn enwedig B.anthracis a Cl. Difficile

Meysydd Arbenigedd

  • Gadael ôl moleciwlaidd;
  • Peirianneg fferyllol o nodwyddau bach therapiwtig;
  • Agweddau technolegol a biolegol ar ddarparu cyffuriau drwy’r croen a’r genynnau;
  • Agweddau technolegol a biolegol ar ddarparu cyffuriau drwy’r ysgyfaint a’r genynnau;
  • Synthesis a manteisio ar systemau polymerau newydd;
  • Agweddau technolegol & biolegol yn y meinwe a masnachu cellog macromoleciwlau;
  • Phage fel cyfrwng therapiwtig a thechnoleg arddangos;
  • Bioddelweddu;
  • Cemeg ddadansoddol meintiol;
  • Nodweddu gronynnau; agweddau biolegol a thechnolegol astudiaeth bioladdwyr, cadwraeth ffurfio a ffurfio bioffilm;
  • datblygu brechlyn.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig