Ymchwilio Clinigol a Gwyddorau'r Golwg
Mae Ymchwilio Clinigol a Gwyddorau’r Golwg yn faes ymchwil y gallwch chi ganolbwyntio eich astudiaethau yn ein rhaglen PhD Gwyddorau’r Golwg ynddo.
Nodweddion unigryw
- Cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer delweddu retinol, archwiliad maes gweledol, ymchwiliadau electroffisiolegol, ac offer seicoffiseg unigryw ar gyfer ymchwil gwyddoniaeth gweledol sylfaenol a chymhwysol.
- Canolfan rhyngwladol o ragoriaeth ar gyfer astudiaethau sy’n ymchwilio i swyddogaeth a strwythur mewn glawcoma a Dirywiad Macwlaidd Cysylltiedig ag Oedran, colli maes golwg, a gwerthusiadau seicoffisegol eraill ar olwg canolog ac ymylol.
- Yn enwog am ymchwiliad electroffisiolegol mewn glawcoma a diabetes yn ogystal ag astudiaethau paramedrau ocwlar a pharamedrau cysylltiedig yn syndrom Down.
- Cefnogir y Grŵp gan grantiau gan nifer o sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Wellcome, NIHR/NISCHR, Ymddiriedolaeth Leverhume, PPP, BUPA, Coleg Optometryddion a nifer o ffynonellau diwydiannol ac elusennol eraill.
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
Tony Redmond
Themâu ymchwil
- Mesuriadau o’r maes gweledol mewn iechyd ac afiechyd
- Mireinio technegau electroffisiolegol ar gyfer asesu prosesu retinol
- Swyddogaeth gweledol a delweddu retinol mewn glawcoma a Dirywiad Macwlaidd sy’n Gysylltiedig ag Oedran
- Effeithiau, mecanweithiau a ffactorau risg mewn retinopathi diabetig
- Mesurau clinigol o weledigaeth mewn plant
- Achoseg, effaith a rheoli diffygion golwg mewn plant sydd â syndrom Down
- Seicoffiseg golwg arferol ac anarferol
- Technegau electroffisiolegol newydd ar gyfer asesu prosesu retinol
- Perfformiad gweledol mewn technegau gwella golwg a golwg gwan
- Symudiadau llygaid a golwg yn Nystagmus ac anhwylderau oculomodur eraill
- Golwg a diffygion golwg mewn syndrom Down
- Canfod a thrin Dirywiad Macwlaidd Cysylltiedig ag Oedran yn gynnar
Arian
Gallwch chwilio am ysgoloriaeth neu gael rhagor o wybodaeth am gyllid.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Gwybodaeth am y Rhaglen
I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Gwyddorau'r Golwg.
Gweld y Rhaglen