Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddorau'r Golwg

Mae ein PhD mewn Gwyddorau’r Golwg yn cynnwys ymchwil dan arweiniad myfyrwyr ar draws ystod eang o ddisgyblaethau, o fioleg celloedd a moleciwlaidd i niwrowyddoniaeth ac astudiaethau clinigol golwg dynol.

Mae PhD drwy ymchwil yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg yn seiliedig ar bwnc ymchwil penodol, clir. Mae’r holl fyfyrwyr yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda’u tîm goruchwylio, yn ogystal ag ymgynghorydd nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect, ac sy’n gallu monitro cynnydd yr ymchwil yn wrthrychol, a darparu arweiniad annibynnol. Yn ogystal â’r pwnc ymchwil craidd, mae’r Ysgol yn cynnig rhaglen amrywiol o hyfforddiant mewn sgiliau trosglwyddadwy i gydategu Rhaglen yr Academi Ddoethurol.

Nodau'r rhaglen

I ddarparu cyfleoedd i feithrin gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer swyddi ôl-ddoethurol/darlithyddiaeth/academaidd mewn ymchwil gwyddorau’r golwg, niwrowyddoniaeth, bioleg foleciwlaidd, geneteg foleciwlaidd, bioleg celloedd a gwyddorau’r golwg yn ogystal â swyddi ymchwil yn y diwydiant, y Gwasanaeth Iechyd, gwybodeg gwybodeg ac ysgrifennu gwyddonol.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3-4 blynedd
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref

Mae’r Ysgol yn gwerthfawrogi pwysigrwydd amgylchedd cefnogol ac anogol i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Mae gan yr holl fyfyrwyr ymchwil ofod penodol ar gyfer cyfrifiadur a desg mewn swyddfa a rennir gyda myfyrwyr eraill. Bydd y cyfarfodydd rheolaidd â thîm goruchwylio perthnasol y PhD yn sicrhau y gwnaiff gynnydd boddhaol.

Mae’r Ysgol yn cynnig rhaglen amrywiol o hyfforddiant mewn sgiliau trosglwyddadwy i gydategu Rhaglen yr Academi Ddoethurol. Rhan o ddatblygiad personol y myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yw'r gallu i gyflwyno canfyddiadau ymchwil. I'r perwyl hwn, mae’r Ysgol yn darparu cyllid ar gyfer pob myfyriwr ôl-raddedig i fynd i un gynhadledd genedlaethol/ryngwladol fawr o leiaf, yn ogystal â’r cyfleoedd cyson i bob myfyriwr gyflwyno eu gwaith i gyfoedion yng nghyfarfodydd grwpiau ymchwil yr Ysgol, cyfres seminarau'r Ysgol a chystadleuaeth poster ymchwil flynyddol yr Ysgol.

Sgiliau a ddatblygwyd

Nod y cwrs hwn yw darparu set o sgiliau i raddedigion, a fydd yn eu symud ymlaen tuag at y nod o ddod yn ymchwilydd annibynnol.

Yn ogystal â sgiliau penodol i’r prosiect ymchwil, gall graddedigion ddisgwyl datblygu sgiliau ymchwil trosglwyddadwy mewn meysydd megis dylunio astudiaeth, dadansoddiad ystadegol, ysgrifennu gwyddonol, llywodraethu ymchwil a moeseg, a chyflwyno canfyddiadau ymchwil.

Mae cyfres seminar yr Ysgol yn rhoi’r cyfle i raddedigion ehangu eu dealltwriaeth gyffredinol o Ymchwil y Golwg. Hefyd mae cyfleoedd i ddatblygu sgiliau addysgu, drwy oruchwylio’r cwrs israddedig, ac mae’r Academi Doethurol yn darparu cyrsiau sy’n rhoi sylw i agweddau amrywiol hyfforddiant sgiliau generig, fel sgiliau cyfrifiadura, rheoli amser, darllen yn gyflym, a chynllunio gyrfaoedd.

Ar hyn o bryd mae’r ymchwil yn gydnaws â pedair thema sy'n cynnwys

  • Niwrowyddoniaeth Weledol,
  • Dirywiad Retinol a Heneiddio
  • Bioffiseg Adeileddol
  • Adsefydlu Gweledol.

Mae ehangder yr ymchwil hwn yn galluogi dull gwirioneddol aml-ddisgyblaethol, cydweithredol i ymchwilio anhwylderau gweledol a gweledigaeth.

Denir myfyrwyr o amrywiaeth mawr o gefndiroedd gwyddonol, gan gynnwys Seicoleg, Ffiseg, Bioleg, Biocemeg, Niwrowyddoniaeth a Sŵoleg ac ati, yn ogystal ag Optometreg.

Mae ymchwil yn yr Ysgol yn perthyn i ddau fath o weithgaredd:

  • Arbrofi gwyddonol sylfaenol mewn labordy yn seiliedig ar y llygad a'r system golwg
  • Ymchwil clinigol ar y claf.

Meysydd ymchwil

Ymchwilio Clinigol a Gwyddorau'r Golwg

Mae Ymchwilio Clinigol a Gwyddorau’r Golwg yn faes ymchwil y gallwch chi ganolbwyntio eich astudiaethau yn ein rhaglen PhD Gwyddorau’r Golwg ynddo.

Bioffiseg Adeileddol

Mae Bioffiseg Adeileddol yn faes ymchwil y gallwch chi ganolbwyntio eich astudiaethau yn ein rhaglen PhD Gwyddorau’r Golwg ynddo.

Niwrowyddoniaeth Weledol

Niwrowyddoniaeth Weledol

Fel rheol, bydd y rhai sy’n llwyddo i ennill eu gradd ymchwil yn sicrhau gwaith sy’n gymesur â’u cyflawniad academaidd cyn pen chwe mis ar ôl graddio. Mae swyddi’n cynnwys ôl-ddoethuriaethau neu ddarlithyddiaethau mewn Prifysgolion, swyddi uwch mewn Ymddiriedolaethau y GIG, swyddi proffesiynol gyda chwmnïau optometrig mawr, fferyllol, a mathau eraill o gyflogaeth yn y diwydiant fel Novartis, Astra Zeneca a Johnson & Johnson.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Mae cyllid ar gael o bryd i'w gilydd o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys Cynghorau Ymchwil y DU, elusennau meddygol (e.e. Fight for Sight, Coleg Optometryddion, NERC ac ati.) a diwydiant.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Mae’n addas ar gyfer graddedigion optometreg, meddygaeth, seicoleg, gwyddorau cymdeithasol, ffiseg, bioleg, biocemeg, mathemateg neu unrhyw ddisgyblaeth wyddonol berthnasol.

Rhaid wrth radd anrhydedd Dosbarth Cyntaf neu yn Adran Uchaf yr Ail Ddosbarth, gradd Athro neu gymhwyster cyfwerth.

Gofynion Iaith Saesneg

IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Tony Redmond

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig