Rhagnodi Therapiwtig ar gyfer Optometryddion (PgCert)
- Hyd: 1 flwyddyn
- Dull astudio: Dysgu cyfunol rhan amser
Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd
Does dim modd gwneud cais ar hyn o bryd. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Mae'r cwrs yma o dan adolygiad
Gallwch barhau i ymgeisio. Byddwn yn cysylltu â deiliaid cynnig a diweddaru'r dudalen hon pan fydd y rhaglen yn newid.
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Bydd y cwrs yn cynnig addysg eang i optometryddion ym maes ymarfer rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn. Bydd yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ehangu eu gyrfa a chyfrannu at rolau proffesiynol estynedig yn effeithiol.
#2 ar gyfer Optometreg
Rydym yn yr ail safle ar gyfer Optometreg yn y Complete University Guide 2024.
Yn bodloni'r safonau'r Cyngor Optegol Cyffredinol
Yn bodloni'r safonau a osodwyd gan y Cyngor Optegol Cyffredinol ar gyfer mynediad i'r gofrestr ragnodi therapiwtig arbenigol
Gwella eich twf gyrfa a'ch effaith broffesiynol
Yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i chi wella eich gyrfa a chyfrannu'n effeithiol at rolau proffesiynol estynedig
Ymchwilwyr sy'n ymwneud â dylunio a chyflwyno cyrsiau
Mae llawer o'n staff addysgu yn ymchwilwyr sy'n ymarfer; mewn llawer o achosion arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd.
Yr unig gwrs o'i fath yng Nghymru
Yr unig gwrs 'Rhagnodi Therapiwtig ar gyfer Optometryddion' sydd ar gael yng Nghymru
Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglenni sy'n arloesol ac yn berthnasol, a chynnig y deilliannau dysgu a'r rhagolygon gyrfaol gorau i'n myfyrwyr. O gofio hyn, rydym yn adolygu rhai elfennau o'r rhaglen hon ar hyn o bryd. Felly, mae'r manylion yn rhai dangosol yn unig a gallent gael eu newid. Gallwch gyflwyno cais o hyd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon ac yn cysylltu â'r holl ddeiliaid cynnig pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau er mwyn cadarnhau unrhyw newidiadau.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg
Mae ein myfyrwyr yn elwa o addysgu rhagorol ac ymarferol mewn amgylchedd ymchwil arloesol.
Meini prawf derbyn
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Strwythur y cwrs
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/26. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025.
Mae'r cwrs ôl-raddedig modiwlaidd hwn wedi'i gynllunio i alluogi optometryddion sydd â chymwysterau llawn i ennill statws Rhagnodydd Annibynnol. Mae'r cwrs yn cynnwys tri modiwl a gynhelir dros flwyddyn (2 semester). Mae gan bob un o'r tri modiwl 20 credyd ôl-raddedig. Mae'r credydau hyn yn cyfrif tuag at gymwysterau ôl-raddedig pellach fel y Diploma ac MSc mewn Optometreg Glinigol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ocular Therapeutics | OPT034 | 20 credydau |
Rhagnodi Ymarferol | OPT035 | 20 credydau |
Rhagnodi Annibynnol | OPT036 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Caiff ffioedd eu hanfonebu fesul modiwl. Fel arfer, caiff anfonebau eu rhyddhau yn fuan ar ôl cofrestru ar gyfer yr holl fodiwlau y byddwch yn eu hastudio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau ffioedd dysgu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Caiff ffioedd eu hanfonebu fesul modiwl. Fel arfer, caiff anfonebau eu rhyddhau yn fuan ar ôl cofrestru ar gyfer pob modiwl unigol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalennau ffioedd dysgu.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Gan fod y rhan fwyaf o'r cwrs yn cael ei gyflwyno ar-lein, bydd angen i chi allu defnyddio cyfrifiadur sydd â mynediad cyflym i'r rhyngrwyd
Bydd y Brifysgol yn darparu'r holl offer sy'n ofynnol ar gyfer yr hyfforddiant diwrnod ymarferol yn y clinig.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Nod penodol y rhaglen yw paratoi optometryddion i ymarfer fel rhagnodwyr annibynnol ac i fodloni'r safonau a bennwyd gan y Cyngor Optegol Cyffredinol er mwyn mynd ar y gofrestr rhagnodi therapiwtig arbenigol priodol.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Optometreg
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.