Ewch i’r prif gynnwys

Cerddoleg

Mae Cerddoleg yn arbenigedd sydd ar gael yn ein cyfres o raddau ymchwil Cerddoriaeth (MPhil, PhD).

Mae’r cynllun hwn yn addas i raddedigion mewn cerddoriaeth, yn enwedig ym meysydd cerddoleg, estheteg cerddoriaeth, theori a dadansoddi.

Ei nod yw cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa mewn addysg uwch ac ysgrifennu am gerddoriaeth.

Rydym yn cynnig ystod lawn o arbenigedd, gyda chryfder arbennig yn y meysydd canlynol:

  • Cerddoleg Beirniadol: Estheteg ac Athroniaeth Cerddoriaeth, yn enwedig yn y cyfnod modern.
  • Ethnogerddoleg: Affricanaidd (gan gynnwys alltud Affricanaidd); Rhanbarthau Celtaidd ac Islamaidd, yn enwedig o safbwynt anthropologaidd; gellir ystyried meysydd eraill.
  • Cerddoleg Hanesyddol: Cerddoriaeth Gyfoes Prydain, Cerddoriaeth a Bywyd Cerddorol yn Fienna 1750-1830, Cerddoriaeth a Dadl Esthetig yn C18fed, Opera yn Ffrainc yn y C19eg, Cerddoriaeth a Chymdeithas ym Mhrydain C19eg, Ymarfer Perfformiad, Cerddoriaeth Boblogaidd, Cerddoriaeth Ffrangeg ar ôl y Rhyfel. Gellir ystyried meysydd eraill.

Mae’r meysydd hyn wedi’u traws-ffrwythloni gan arbenigeddau staff eraill sy’n cynnwys:

  • Astudiaethau bywgraffyddol
  • Histograffeg cerddoriaeth
  • Perfformio, ymarfer ac organoleg
  • Astudiaethau ffynhonnell a braslun
  • Cerddoriaeth a gwleidyddiaeth
  • Diwylliant poblogaidd ac estheteg
  • Safbwyntiau damcaniaethol a dadansoddol

Asesiad

Ni ddylai testun y traethawd PhD fel arfer fod yn fwy na 80,000 o eiriau (ac eithrio llyfryddiaethau a atodiadau). Ni ddylai testun y traethawd MPhil fel arfer fod yn fwy na 60,000 o eiriau (ac eithrio llyfryddiaethau a atodiadau).

Nodweddion unigryw

Mae myfyrwyr ymchwil yn cael lwfans i gefnogi mynychu cynadleddau, cael deunyddiau ymchwil, recordio eu perfformiadau cerddoriaeth, neu gynnal ymchwil perthnasol i ffwrdd oddi wrth Caerdydd.

Cyfleusterau wedi'u hadnewyddu ar gyfer ôl-raddedigion cerddoriaeth gan gynnwys cyfres o ystafelloedd cyfrifiadur ac astudio ymroddedig, cyfleusterau hi-fi a phiano electronig, cegin ac ystafell gyffredin.

Yn dibynnu ar addasrwydd unigol (e.e. hyfedredd iaith) a diddordebau ymchwil, gall ôl-raddedigion ddewis cymryd cyfnod i astudio i dramor yn un o Ysgolion Cerddoriaeth cyswllt y Brifysgol Ewropeaidd.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Huw Rhys Thomas

Huw Rhys Thomas

Postgraduate Research (PGR) and Research Administrator

Siarad Cymraeg
Email
thomash6@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 1092

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Dr Caroline Rae

Dr Caroline Rae

Reader, Director of Postgraduate Research

Email
rae@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4391

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Cerddoriaeth.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig