Cerddoriaeth (MA)
- Hyd: 1 flwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn

Cynnig sialens personol i chi yn academaidd a cherddorol wrth i chi gynllunio eich rhaglen gyda’i phosibiliadau cyfoethog er gwireddu uchelgais y mae eich bryd arno ar gyfer y dyfodol.
Llwybrau arbenigol
Gallwch addasu eich astudiaethau i gyd-fynd â’ch dyheadau gyrfaol gan ddewis o blith Astudiaethau Perfformio, Cyfansoddi neu Gerddoriaeth.
Arbenigwyr yn addysgu
Arbenigwyr mewn Astudiaethau Perfformio, Cyfansoddi, Cherddoriaeth a Addysg Gerddorol; arbenigwyr o fri rhyngwladol sy’n addysgu.
Byw ac astudio mewn dinas gerddorol
Caerdydd yw un o brifddinasoedd cerddorol mwyaf bywiog y DU, gyda chwmni opera cenedlaethol, a nifer o gerddorfeydd a chorau proffesiynol.
Gweithdai a dosbarthiadau meistr
Gweithdai, dosbarthiadau meistr a seminarau wedi’u cyflwyno gan gyfansoddwyr, cerddolegwyr a pherfformwyr proffesiynol.
Mae ein MA mewn Cerddoriaeth yn cynnig sialens i chi yn academaidd a cherddorol, a hynny yn ein cymuned bywiog a chreadigol, a hynny tra byddwch yn datblygu arbenigedd mewn perfformio, cyfansoddi, astudiaethau cerddoriaeth neu cerdd mewn addysg.
Mae’n pwysleisio ystwythder a rhyddid i wneud dewisiadau er mwyn dod ag elfen bersonol i ran mawr o’r astudiaeth, gan deilwra’r rhaglen er budd i’ch dibenion galwedigaethol a’ch uchelgais.
Byddwch hefyd yn astudio mewn amgylchedd ymchwil, sy'n cynnig cyfle i ymgysylltu ag ymchwil newydd gan ysgolheigion o fewn y brifysgol a thu hwnt.
Mae’r rhaglen yn addas i berfformwyr, cyfansoddwyr, ysgolheigion cerddorol ac athrawon uchelgeisiol sydd gyda diddordeb mewn datblygu maes eu gwybodaeth arbenigol, dysgu sgiliau gwerthfawr ac ymchwilio ymhellach.
Byddwch yn dewis un o’r pedwar llwybr yn y rhaglen.
- Perfformio
Cynlluniwyd ar gyfer perfformwyr sy’n ymroddedig i wella eu sgiliau offerynnol ac/neu leisiol a hynny yn unawdol neu mewn ensemble.
- Cyfansoddi
Byddwch yn datblygu technegau ac yn cael y profiadau ymarferol sy’n allweddol er mwyn gwireddu eich uchelgais creadigol ar lefel broffesiynol, a hynny gydag hunan-hyder a dychymyg.
- Astudiaethau Cerddorol
Byddwch yn datbygu sylfaen cadarn mewn techneg a dulliau ymchwil ym meysydd cerddoreg hanesyddol, dadansoddi cerddoriaeth, cerddoriaeth boblogaidd ac ethnogerddoreg, ac yn archwilio gwahanol arddulliau a thraddodiadau cerddorol yng nghyd destun eu safbwyntiau hanesyddol, dadansoddol a damcaniaethol.
- Cerdd mewn Addysg
Cynlluniwyd ar gyfer addysgwyr brwdfrydig ac uchelgeisiol. Mae’r llwybr hwn yn eich galluogi i ddatblygu a chyflwyno sgiliau addysgu mewn ystod eang o ddisgyblaethau gan ddiweddu gyda phrosiect penodol.Ymhlith y themau nodedig yn ystod y cwrs mae arweinyddiaeth, datblygiad proffesiynol, hyblygrwydd, diogelwch, ymchwil, cyflwyno a sgiliau cyfathrebu.
Alla i ddim argymell y cwrs MA Cerddoriaeth ddigon. Roedd y modiwlau a astudiais yn arbennig o ddefnyddiol yn sicrhau paratoad sylfaenol ar gyfer dyfodol academaidd mewn cerddoleg, yn ogystal â modiwlau dewisol gwirioneddol ddiddorol ac amrywiol o fewn cerddoleg, a oedd yn ddifyr tu hwnt ac yn ysgogol yn ddeallusol. Roedd arweinwyr y cyrsiau a’r darlithwyr yn eithriadol o gefnogol o’m datblygiad personol fel myfyriwr ac yn barod iawn i fy nghynghori ar amrywiaeth o fy aseiniadau. Roedden nhw’n hael iawn gyda’u hamser a’u hymdrechion i ateb y nifer fawr o gwestiynau a oedd gen i.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Cerddoriaeth
Mae ein Hysgol fywiog, sydd dan arweiniad y gymuned, yn cynnig hyfforddiant cerddorol trylwyr a chyfleoedd gwerthfawr i berfformio, cyfansoddi ac i astudio cerddoriaeth.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:1 honours degree in music or other relevant subject area such as anthropology, cultural studies, film and media studies, history, politics, or philosophy, or an equivalent international degree
- a university-recognised equivalent academic qualification.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 with 5.5 in all subskills, or an accepted equivalent.
Other essential requirements:
You will also need to provide:
- two references, at least one of which should be an academic reference
- a personal statement which
- demonstrates your interest in the programme and your background in the field of study
- states the name of the pathway you are interested in applying to - Composition, Music Studies, or Performance
- covers specific requirements for your chosen pathway (one of the following)
- Composition - addresses your style and rationale for your compositions, looking at techniques, imagination and confidence in approach
- Music Studies - information on your musical experience
- Performance - discussion and evidence of your knowledge of performance, style, and technique
- additional evidence for your chosen pathway
- Composition - provide three notated scores in either Sibelius, Finale, or PDF. Audio links of these pieces would also be helpful but you will not be penalised if these cannot be provided
- Music Studies - provide an essay which is the best example of your undergraduate work (in English or Welsh). The essay should be of 1500-2000 words about a specific topic (e.g., a composer, piece, musical practice) which demonstrates your knowledge of leading scholars, contemporary theories, and relevant literature in the field. The essay should include citations and a comprehensive bibliography. Unless discussing ethnography, narratives about musical experience should be in your personal statement rather than essay sample
- Performance - provide a link to an online audition showing an unedited video performance of two contrasting pieces of music, with your face and hands visible at all times to show technique (performance evidence).
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application including all evidence you have provided and if you meet the requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Y broses ddewis neu gyfweld
Gwneir penderfyniadau yn seiliedig ar eich cais ysgrifenedig a'ch tystlythyrau a dderbynnir yn barhaus drwy gydol y flwyddyn.
Ni wahoddir ymgeiswyr i gyfweliad fel mater o drefn ond mae hyn yn ôl disgresiwn y tiwtor derbyn.
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Mae hon yn raglen llawn-amser un flwyddyn gyda chyfanswm o 180 o gredydau.
Cam Un
Mae’r modiwlau yn amrywio yn ôl y llwybr y maes astudiaeth a ddewisir.
Yn Nhymor yr Hydref bydd y myfyrwyr yn cael hyfforddiant mewn sgiliau ymchwil trwy ddilyn y modiwl MA Sgiliau Ymchwil. Yn ychwanegol, mae modiwlau llwybr arbenigol craidd:
- Perfformio: Arweinyddiaeth Gerddorol & Galwadau Cyhoeddus, Datganiad Cyhoeddus.
- Cyfansoddi: Arweinyddiaeth Gerddorol & Galwadau Cyhoeddus, Portffolio Cyfansoddi.
- Astudiaethau Cerddoriaeth: Ymchwil Gerddorol, Cyflwyno Astudiaethau Cerddoriaeth.
- Cerdd mewn Addysg: Arweinyddiaeth Gerddorol a Galwadau Cyhoeddus, Theori ac Ymarfer Dysgu Cerddoriaeth.
Yn Nhymor y Gwanwyn gallwch ddewis o amryw o fodiwlau opsiynol sydd ar gael i fyfyrwyr ym mhob llwybr ac sy’n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau a’ch diddordebau.
Cam Dau
Dilynir modiwlau cam un gan brosiect mawr, sy’n berthnasol i’ch llwybr dewisol:
- Perfformio: datganiad cyhoeddus
- Cyfansoddi: cyfansoddiad thesis
- Astudiaethau Cerddoriaeth: traethawd hir
- Addysg Gerddorol: prosiect addysg arbenigol
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
MA Research Skills | MUT001 | 10 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Thesis Composition | MUT301 | 60 credydau |
Thesis Composition | MUT301 | 60 credydau |
Public Recital | MUT302 | 60 credydau |
Public Recital | MUT302 | 60 credydau |
Dissertation | MUT303 | 60 credydau |
Dissertation | MUT303 | 60 credydau |
Music Education Portfolio | MUT304 | 60 credydau |
Music Leadership and Public Engagement | MUT003 | 20 credydau |
Music Research in Practice | MUT005 | 20 credydau |
Composition Portfolio | MUT101 | 30 credydau |
Closed Recital | MUT102 | 30 credydau |
Introducing Music Studies | MUT108 | 30 credydau |
20th and 21st Century Music | MUT201 | 30 credydau |
Postgraduate Ensemble | MUT202 | 30 credydau |
Cultures of Performance | MUT204 | 30 credydau |
Studio Techniques | MUT208 | 30 credydau |
Studying Musical Multimedia | MUT210 | 30 credydau |
Teaching Music: techniques, disciplines and genres | MUT211 | 30 credydau |
Music, Culture and Politics | MUT213 | 30 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Bydd y modiwlau academaidd yn cael eu cyflwyno gan amlaf mewn seminarau a thiwtorial gyda grwpiau bychan, a bydd cyflei chi i ddatblygu eich diddordebau personol trwy waith allan yn y maes, astudiaethau rhyng-ddisgyblaethol a ffyrdd eraill.
Mae ein cyfres reolaidd o weithdai a dosbarthiadau meistr yn caniatau ichi weithio’n uniongyrchol gyda chyfansoddwyr a pherfformwyr o fri.
Disgwylir i bob myfyriwr olradd fynychu a chymryd rhan yn ein fforwm rheolaidd ar gyfer myfyrwyr israddedig ac i fynychu cyfres ddarlithoedd rheolaidd yr Ysgol sy’n cynnwys gyflwyniadau gan ysgolheigion o bell ac agos.
Perfformio
Yn ychwanegol at y modiwlau academaidd sy’n cael eu cyflwyno mewn seminarau a thiwtorial mae hyfforddiant offerynnol/lleisiol yn digwydd un-i-un gyda’r athro/athrawes a ddewisir ar eich cyfer. Ni bydd mwy na 24 awr o hyfforddiant yn ystod y cwrs. Hefyd, bydd rhaid i chi astudio ar ben eich hun, nid yn unig parthed eich gwaith perfformio ond trwy ddarllen a gwrando ar gerddoriaeth.
Bydd rhaid chi hefyd gyfrannu mewn sawl math o ensemble, (edrychwch ar safle we yr Ysgol Cerddoriaeth i weld rhestr o ensemblau sy’n cael eu ledio yn broffesiynol). Byddwch yn perfformio yn nosbarthiadau perfformio’r Ysgol a’r Seminarau Perfformio Olradd.
Dewisir gynnwys rhaglen eich datganiad gennych chi mewn cydweithrediad â’r hyfforddwr a ddewisir ar eich cyfer a chydag arweinydd y modiwl Datganiad.
Yn y Datganiad Cyhoeddus Cam 2 byddwch yn cyflwyno rhaglen o 45-50 munud. Mae hyn yn ychwanegol i’r datganiad caeedig o 25 munud ar ddiwedd Cam 1 y cwrs.
Cyfansoddi
Mae’r hyfforddiant mewn cyfansoddi yn digwydd mewn tiwtorial un-i-un. Mae’r elfennau academaidd a thechnegol yn digwydd mewn seminarau a thiwtorial (ar gyfer pob modiwl).
Mae eich presenoldeb ym mhob seminar a thiwtorial yn orfodol.
Disgwylir i chi weithio ar eich liwt eich hun a chyfrannu yn y Seminarau Olradd i Gyfansoddwyr a’r Gweithdai i Gyfansoddwyr.
Yn y Portffolio Traethawd/Cyfansoddi yn Cam 2 bydd tiwtor yn cael ei ddewis ar eich cyfer a fydd yn eich tywys a’ch cynghori mewn pum sesiwn preifat o awr yr un.
Astudiaethau Cerddorol
Cyflwynir modiwlau academaidd ar ffurf seminarau a thiwtorial (ar gyfer pob modiwl). Mae eich presenoldeb ymhob seminar a thiwtorial yn orfodol. Disgwylir i chi weithio ar eich liwt eich hun a chyfrannu yn y Seminarau Ymchwil Olradd. Dewisir diwtor i chi ar gyfer y Traethawd Cam 2 a bydd ef neu hi yn eich tywys a’ch cynghori mewn pum sesiwn preifat o awr yr un.
Cerdd mewn Addysg
Mae’r hyfforddiant yn y modiwlau academaidd yn digwydd mewn seminarau a thiwtorial (ar gyfer pob modiwl). Mae eich presenoldeb ym mhob seminar a thiwtorial yn orfodol. Yn ychwanegol, disgwylir i chi weithio ar eich liwt eich hun a mynychu a chyfrannu yn y Seminarau Olradd Cerdd mewn Addysg.
Un o fanteision y Cam hwn yw ei bod hi’n bosibl i chi weithio ar y cyd gyda’r myfyrwyr perfformio a chyfansoddi ac ymwneud â phrosiectau mewn arweinyddiaeth ac ymrwymiad sy’n berthnasol i’ch diddordebau ym maes addysg gerddorol.
Bydd y tiwtor a ddewisir ar eich cyfer i’r Prosiect Arbenigol Cam 2 yn eich tywys a’ch cynghori mewn pum sesiwn preifat o awr yr un.
Sut y caf fy asesu?
Bydd y modiwlau lle cewch hyfforddiant y cael eu hasesu mewn sawl gwahanol ffordd. Mae’r dulliau penodol o asesu yn dibynnu ar y llwybr a ddewisir, fel a ganlyn:
Perfformio
- cyflwyniadau llafar
- perfformiad mewn ensemble
- perfformiad unawdol
- datganiad gyda darlith
- adroddiad ysgrifenedig
- portffolio ymarferol
- rhaglen printiedig gyda nodiadau ysgolheigaidd ynghyd â dyddiadur perfformio
Cyfansoddi
- portffolio cyfansoddi
- traethodau
- adroddiadau ac/neu sylwebaethau ysgrifenedig
- cyflwyniad IT mewn nodiant cyfrifiadurol (gan gynnwys golygu)
- cyflwyniadau llafar
- offeryniaeth
Astudiaethau Cerddoriaeth
- traethodau lled hir
- adroddiadau ysgrifenedig
- gwaith yn y maes, os yw’n ofynnol
- cyflwyniadau llafar
- traethawd hir (12-15,000 o eiriau).
Cerdd mewn Addysg
- cyflwyniadau llafar
- adroddiadau ysgrifenedig a sylwebaethau
- traethodau lled hir ac/neu brosiectau
- cynlluniau gwersi
- prosiectau digidol/technolegol
- prosiect arbenigol
Sut y caf fy nghefnogi?
Ar ddechrau’r flwyddyn byddwch yn derbyn disgrifiad o amcanion y modiwlau, y canlyniadau addysgol, dulliau asesu, cynnwys y modiwlau, a rhestr darllen a gwrando. Bydd y tiwtor a ddewisir ar eich cyfer yn gallu eich cynghori ar y dewisiadau modiwl sy’n bosibl a byddwch yn cyfarfod ag ef/hi yn rheolaidd.
Ym mhrosiectau Cam 2 bydd goruchwyliwr ar eich cyfer i fonitro eich gwaith ac i gyfarfod â chi yn ôl y galwad.
Mae’r hyfforddiant offerynnol ym mhrif offeryn myfyrwyr yn y llwybr perfformio yn cael ei ariannu’n llawn gan yr Ysgol gan gynnwys costau cyfeilio yn y datganiadau. Bydd 24 gwers awr ar gael i chi yn ystod y cwrs.
Cewch fynediad i safle we’r Hyb Dysgu i adnoddau aml-gyfryngol, cyflwyniadau, defnyddiau darlithoedd, llyfryddiaethau, cysylltiadau ychwanegol, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.
Bydd llawer o fanteision i chi o gael defnyddio’r llyfrgelloedd y campws a’r canolfannau adnoddau.
Mae’r brifysgol yn cynnig llawer o wasanaethau i fyfrwyr gan gynnwys gwasanathau Dyfodol Myfyrwyr (Student Futures) sy’n cynghori ar alwedigaethau a chyflogadwyedd. Hefyd, mae gwasanaethau ehangach y Bywyd Myfyrwyr (Student Life) yn cynnig cymorth am iechyd a ffyniant personol, anabledd, dyslecsia, cydraddoldeb, amrywioldeb, cynhwysiad, a chyngor ariannol.
Adborth
Byddwch yn cael adborth ysgrifenedig ar bob asesiad. Bydd y cyfle i brofi gwybodaeth a dealltwriaeth hefyd drwy seminarau’r Fforwm Ôl-raddedig bob wythnos.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Byddwch yn datblygu nifer o sgiliau gwerthfawr perthnasol i ddisgyblaeth penodol parthed eich cwrs, yn ogystal â chyflogadwyedd, ymchwil, cyfathrebu a sgilau cyflwyno.
Bydd perfformwyr yn datblygu galluoedd penodol fel, er enghraifft, datblygu sgiliau cerddorol ymarferol, a sut i ddehongli parthed eich offeryn neu llais. Byddwch yn dod yn ymwybodol o’r berthynas rhwng hanes ac ymarfer mewn cerddoriaeth, gan gynnwys dysgu am repertoire ac am y datblygiadau diweddar mewn arferion perfformiadol. Bydd eich cyfraniad i ddarlith-ddatganiad, datganiad cyhoeddus a’r datganiadau ensemble yn ddefnyddiol a phwysig.
Bydd cyfansoddwyr yn magu sgiliau penodol, ac o’r herwydd dod yn fwy gwybodus a chael dealltwriaeth well o dechnegau cyfansoddi modern, sgiliau IT mewn perthynas â nodiant cyfrifiadurol, a golygu. Hefyd dysgir sut i rihyrsio ensemble, cyflwyno eich gofynion cerddorol i berfformwyr trwy nodiant a thrwy gyfarwyddyd ysgrifenedig. Byddwch yn ymgyfarwyddo â rihyrsio eich cyfansoddiad eich hun trwy arwain, a byddwch yn gallu dangos beth yw rôl technegau cyfarwydd yn y broses o greu a dehongli.
Os ydych yn dilyn y llwybr Asudiaethau Cerddorol byddwch yn magu sgiliau penodol fel dysgu sut i ddadansoddi a phrosesu ysgrifeniadau cymhleth, syniadau a chysyniadau newydd, a dod yn wybyddus â gwahanol ddulliau ysgrifennu academaidd. Cewch brofiad o gyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig, dod i ddeall am lyfryddiaeth a chatalogau a mathau gwahanol o ddeunydd cyfeiriol, datblygu technegau ymchwil a dysgu sut i ddewis ffynonellau addas ar gyfer ymchwil personol, ymgymryd ag ymchwil cymhleth mewn llyfrgell, gweithio yn y maes a dehongli amrediad o ddata mesurol ansoddol
Disgwylir i fyfyrwyr y llwybr Cerdd mewn Addysg ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o amrediad a sgiliau cyfathrebu llafar addas i addysgu; cysylltu theori bedagogaidd ac ymchwil gyda sgiliau ymarferol; dangos rhwyddineb wrth wneud cyflwyniadau rhyng-gyfryngol; bod yn hunan-feirniadol wrth hyfforddi; a bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau bugeiliol, gweinyddol ac asesu ym maes addysg .
Mae Canlyniadau Dysgu’r Rhaglen hon yn disgrifio beth a gyflawnir gennych erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydd yn disgrifio’r wybodaeth a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Bydd y Canlyniadau Dysgu hefyd yn eich cynorthwyo i ddeall beth a ddisgwylir gennych.
Ar ddiwedd y Rhaglen byddwch yn gallu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
KU1 Dangos gwybodaeth arbenigol manwl a thrwyadl, creadigrwydd, dychymyg, dawn, sgiliau a dealltwriaeth mewn un o’r canlynol: cyfansoddi, astudiaethau cerddoriaeth, cerdd mewn addysg.
KU2 Meddu ar ymwybyddiaeth beirniadol am, a sensitifrwydd ynglyn â’r elfennau academaidd atodol yn eich maes arbenigol.
KU3 Dangos gwybodaeth eang cyd-destunol berthnasol i bwnc arbenigol mewn cerddoriaeth gan gynnwys y berthynas gydag agweddau hanesyddol, athronyddol a diwylliannol.
KU4 Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth ddadansoddol a beirniadol o wahanol dechnegau ac ysgolheictod perthnasol.
Sgiliau deallusol:
IS1 Dangos y gallu a’r hyder i fynd â’r maen i’r wal gyda’ch prosiect a bod yn ymwybodol o’ch datblygiad at y dyfodol er budd i’ch creadigrwydd a’ch ysgolheictod
IS2 Datblygu dadleuon synhwyrol a rhesymegol ynglyn â phroblemau penodol, gan ddefnyddio a gweithredu methodoleg, tystiolaeth, technegau a sgiliau gwerthuso yn effeithiol er mwyn ateb gofynion unrhyw dasg.
IS3 Meddwl mewn ffordd feirniadol, ddadansoddol, sensitif a myfyriol am gerddoriaeth gan adnabod y patrymau ffurfiol, hanesyddol a diwylliannol yn y modd y perfformir, cyfansoddir a thrafodir y gerddoriaeth.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
PS1 Meddu ar y gallu i ddarganfod cysylltiadau creadigol rhwng canlyniadau ymchwil bersonol ac ysgolheictod, dadansoddiadau testunol a cherddorol, a myfyrdod a sgiliau gwrando.
PS2 Dangos y berthynas rhwng theori ac ymarfer mewn cerddoriaeth gan ddefnyddio technegau a dulliau perthnasol i esbonio ac enghreifftio cydberthnasau.
PS3 Dangos gallu a hyder tra’n cydweithio’n agos gyda cherddorion eraill wrth baratoi a chyflwyno brosiectau ar y cyd.
PS4 Dangos blaengarwch a chyfrifoldeb personol wrth gynllunio a chyflawni tasgau, a dangos sgiliau menter tebyg i greadigrwydd, datrys problemau ac astudio annibynnol.
PS5 Arddangos sgiliau artistig, technegol a/neu feirniadol wrth gynllunio, gwerthuso a myfyrio’n feirniadol ar waith sy’n mynd rhagddo, gyda’r gallu i gymhathu a chrynhoi gwybodaeth a syniadau cymhleth.
Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol:
KS1 Trosglwyddo bwriadau yn eglur, yn economidd ac yn berswadiol mewn dulliau amrywiol gan gynnwys yn ysgrifenedig, llafar ac/neu mewn nodiant.
KS2 Cyfrannu’n effeithiol mewn trafodaeth, a hynny mewn ffordd broffesiynol. Paratoi a chyflwyno gwaith o safon broffesiynol mewn amrediad o ddulliau a fformatiau ar gyfer asesiad.
KS3 Meddu ar sgiliau academaidd a phersonol fel meddwl ac ysgrifennu’n feirniadol, rhoi cyflwyniad llafar, datrys problemau, cydweithio gydag eraill, trefnu eich amser, a defnyddio gwybodaeth ac/neu dechnoleg digidol.
KS4 Meddu’r ddawn i ddatrys problemau a dangos gwreiddioldeb yn y defnydd o wybodaeth a sgiliau mewn perthynas â phroblemau cyffredin ac anghyffredin.
Gwybodaeth arall
Mae ein Hystafell Ôl-raddedig yn darparu cyfleusterau astudio 24 awr pwrpasol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig, gan gynnwys ystafelloedd gwaith cyfrifiadurol gyda Macs a chyfrifiaduron wedi'u rhwydweithio, meddalwedd nodiant Sibelius, ystafelloedd gwrando, cyfleusterau llungopïo, cegin, a gofod cymdeithasol.
“If anyone ever asks whether I have a ‘second home’, Cardiff will definitely be my answer. Although I had lived in Bath and London before, neither of them gave me the same impression as Cardiff has. Here, one can experience both the beauty of a British town and the prosperity of a national capital. To me, this means that I can concentrate on my studies, have a healthy and safety life, but without losing the opportunities to enjoy world-class arts, cultural and social events. These factors prompted me to come back here for my master degree.The School of Music has shown great care since the first day I received my offer. From visa, accommodation to financial supports, the school was always keen to help. Upon arrival, I received a comprehensive introduction to the course and the school. I was really surprised by all kinds of supports that are available to me, including personal tutoring, music-dedicated English sessions, and career advices for international students. Most important, I found the School open to all people, regardless of their age, backgrounds, and views. I was able to participate in a large variety of music activities, and to share my view in different academic occasions — all without worrying about doing or saying things ‘wrong’. This atmosphere is so precious for foreign students, and I still appreciate it everyday.”
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,200 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £20,450 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Os ydych yn dilyn modiwlau Astudiaethau Cerddorol gallwch ymgymryd â gwaith ymarferol yn y maes fel rhan o’ch ymchwil ar gyfer eich Traethawd. Bydd rhaid i chi dalu costau’r gwaith hwn eich hunan.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Ar wahân i brif offeryn perfformiwr, bydd unrhyw offer sydd ei angen yn cael ei gyflenwi gan yr ysgol.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Byddwch yn cael rhychwant eang o wybodaeth perthnasol i gerddoriaeth ac amrediad o sgiliau, sy’n eich gwneud yn dderbyniol iawn i gyflogwyr a sefydliadau ymchwil. Cynlluniwyd y rhaglen MA er mwyn cynnig i chi wybodaeth ddatblygedig, dealltwriaeth a sgiliau yn eich dewis bwnc. Mae’n baratoad campus at symud ymlaen i waith ymarferol neu lwybr ymchwil pellach, fel ein PhD mewn Cerddoriaeth.
Mae mawr alw gan gyflogwyr am ein graddedigion mewn llawer o roliau a sectorau.Yn ddiweddar mae ein graddedigion wedi cael gwaith fel cerddoregwyr, gweinyddwyr, rheolwyr cerddoriaeth, cerddorion llawrydd, swyddogion datblygu ymchwil ac athrawon.
Mae ein cyfres blynyddol o sgyrsiau ar Cyfleoedd Gyrfa mewn Cerddoriaeth yn cynnig posibiliadau gwych i gyfarfod â phobl proffesiynol mewn sawl maes, fel perfformio, addysg gerddorol, newyddiaduraeth gerddorol, y celfyddydau a gwaith mewn asiantaeth gerddorol, cynhyrchu a thrwyddedu, a chyfansoddi ar gyfer y cyfryngau.
Lleoliadau
Er nad yw’n bosibl cael lleoliad yn y maes (placement) yn y llwybr Cerdd mewn Addysg, gall yr Ysgol Cerddoriaeth hyrwyddo ymweliad hanner-diwrnod i sefydliadau cyn-drydyddol er mwyn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymwneud ag anghenion, profiadau a diddordebau addysgiadol penodol. Bydd y math o ddigwyddiad yn gallu cynnwys addysgu, cymryd gweithdai, rihyrsio/cyfarwyddo, neu arsylwi, a hyn oll gydag athro/athrawes yn bresennol. Bydd posibilrwydd hefyd i drefnu ymweliad gan ddisgyblion ysgol i’r Ysgol Cerddoriaeth.
Yr hyn sy’n unigryw am y cwrs MA Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yw ei hyblygrwydd. Nid yn unig y gallwch chi deilwra’r cwrs o amgylch eich diddordebau eich hun, ond mae hefyd yn rhoi’r llwyfan i chi gael profiad yn y ‘byd go iawn’ ochr yn ochr â’ch astudiaethau. I mi, roedd yn golygu bod fy mlwyddyn MA ym Mhrifysgol Caerdydd yn gyfle perffaith i bontio rhwng bod yn fyfyriwr ac yn gerddor proffesiynol. Mae’r MA Cerddoriaeth wedi ehangu fy sgiliau, wedi cefnogi fy syniadau a fy nychymyg, a rhoi’r adnoddau rydw i eu hangen i barhau i ddatblygu y tu hwnt i fy nghyfnod ym myd addysg.
Arian
Gwaith maes
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Music
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.