Ewch i’r prif gynnwys

Cerddoriaeth

Rydym yn ganolfan greadigol a chynhwysfawr ar gyfer ymchwil, cyfansoddi a pherfformio.

Mae staff sy’n weithgar mewn ymchwil yn yr Ysgol Cerddoriaeth yn cynnig goruchwyliaeth ym mhob maes ar draws

  • cerddoleg
  • cyfansoddi
  • perfformio

Gallwch arbenigo ar unrhyw un o’r meysydd hyn ar gyfer eich PhD, gan gyflwyno gwaith mewn un o dri fformat: ar ffurf traethawd ymchwil, portffolio o gyfansoddiadau gyda sylwebaeth, neu ddatganiad perfformio ynghyd â thraethawd ymchwil atodol.

Rydym yn cyfuno arbenigedd ymchwil cydnabyddedig mewn meysydd penodedig gydag ymrwymiad i'r byd ysgolheigaidd ehangach, ac ymdeimlad clir o’n rôl ym mywyd diwylliannol y brifddinas.

Mae cydweithio strategol â sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC, Opera Cenedlaethol Cymru, ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn caniatáu inni wneud cyfraniadau helaeth i fyd cerddoriaeth, o fewn a thu hwnt i'r byd academaidd.

Mae gennym gymuned ymrwymedig a gweithgar o ôl-raddedigion. Anogir ein ôl-raddedigion i chwarae rhan flaenllaw yn ein diwylliant ymchwil, gan gynnwys cymryd rhan mewn digwyddiadau, prosiectau a seminarau ymchwil.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3 blynedd; MPhil 1 flwyddyn
Hyd rhan-amser PhD 5 blynedd; MPhil 2 flynedd
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref

Asesiad

Cyfansoddi

Mae gofyn i ymgeiswyr ar gyfer y cynllun hwn gyflwyno gwaith sylweddol neu bortffolio o weithiau o gyfansoddi gwreiddiol, ynghyd â sylwebaeth ysgrifenedig (rhwng 10,000 ac 20,000 o eiriau ar gyfer PhD; rhwng 5,000 a 10,000 o eiriau ar gyfer MPhil) yn darparu dadansoddiad beirniadol ac yn gosod y gwaith yn ei gyd-destun academaidd. Dylai’r cyflwyniad gynnwys deunydd ategol wedi’i recordio, sydd mewn fformat priodol a benderfynwyd gan yr Ysgol.

Asesir cyflwyniadau ar ffurf arfer gan yr un meini prawf generig ag unrhyw MPhil neu PhD arall ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn hyn o beth dylai cyflwyniad ar ffurf arfer gynrychioli ymchwil parhaus i agwedd o gyfansoddiad cerddorol, yn hytrach na samplau o ymarfer proffesiynol. Deellir bod ymchwil yn y cyd-destun hwn fel proses ymchwilio a allai arwain at syniadau newydd, a rennir yn effeithiol

Cerddoleg

Ni ddylai testun y traethawd PhD fel arfer fod yn fwy na 80,000 o eiriau (ac eithrio llyfryddiaethau a atodiadau). Ni ddylai testun y traethawd MPhil fel arfer fod yn fwy na 60,000 o eiriau (ac eithrio llyfryddiaethau a atodiadau).

Perfformiad

Ar gyfer PhD ym maes Perfformio Cerddoriaeth, byddwch chi’n cael eich asesu drwy gyfrwng un o’r canlynol:

  • perfformiad 90-munud, ynghyd â thesis o oddeutu 50,000 gair neu argraffiad ysgolheigaidd gyda sylwebaeth feirniadol
  • portffolio o berfformiadau o oddeutu 220 munud i gyd, wedi'i ategu gan sylwebaeth ysgrifenedig o oddeutu 20,000 gair

Gallwch berfformio’n fyw neu baratoi recordiad sain a fideo (ar DVD neu gyfrwng cyfatebol) o’ch perfformiad(au), neu wneud cyfuniad o’r rhain.

Yn dilyn yr arholiad, bydd recordiad o'r perfformiad(au), mewn fformat y cytunwyd arno gan yr Ysgol Cerddoriaeth, yn ffurfio rhan o'r cofnod parhaol.

Asesir cyflwyniadau ar ffurf arfer gan yr un meini prawf generig ag unrhyw MPhil neu PhD arall ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn hyn o beth dylai cyflwyniad ar ffurf arfer gynrychioli ymchwil parhaus i agwedd o gyfansoddiad cerddorol, yn hytrach na samplau o ymarfer proffesiynol. Deellir bod ymchwil yn y cyd-destun hwn fel proses ymchwilio a allai arwain at syniadau newydd, a rennir yn effeithiol

Meysydd ymchwil

Cyfansoddi

I gynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa mewn cyfansoddi cerddoriaeth broffesiynol.

Cerddoleg

I gynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa mewn addysg uwch ac ysgrifennu am gerddoriaeth.

Perfformio

I gynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer mynd ar drywydd addysgu ymchwil pellach, a pherfformiad proffesiynol.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Rydym yn dyfarnu ysgoloriaethau doethurol bach yn rheolaidd ar ffurf gostyngiadau ffioedd dysgu i ymgeiswyr PhD. Mae ysgoloriaethau yn amodol ar argaeledd o flwyddyn i flwyddyn, ni ellir gwarantu dyfarnu’r rhain bob blwyddyn ac maen nhw’n cael eu dyfarnu yn ôl disgresiwn yr Ysgol.

Mae arian hefyd ar gael gan y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr AHRC.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Addas i raddedigion Cerddoriaeth. Fel arfer disgwylir i ymgeiswyr gael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu yn adran uchaf yr ail ddosbarth, neu gymhwyster cyfwerth, a bod wedi cwblhau, neu fod ar fin cwblhau, cwrs gradd Athro a addysgir ac sy’n cynnwys cerddoriaeth.

Rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos tystiolaeth o sgiliau priodol o ran cyfansoddi cerddorol (ar gyfer Cyfansoddiad) neu berfformio cerddoriaeth (ar gyfer Perfformiad) yn ogystal â sgiliau mewn iaith dramor (os yn berthnasol).

Gofynion Iaith Saesneg

IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Huw Rhys Thomas

Huw Rhys Thomas

Postgraduate Research (PGR) and Research Administrator

Siarad Cymraeg
Email
thomash6@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 1092

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Dr Caroline Rae

Dr Caroline Rae

Reader, Director of Postgraduate Research

Email
rae@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4391

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig