Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn yr Ysgol Cerddoriaeth

Student playing the piano

Rydym yn ganolfan greadigol a chynhwysfawr o ragoriaeth ymchwil gerddorol, mewn cyfansoddi, ethnogerddoleg, astudiaethau cerddoriaeth ffilm a sgrîn, cerddoleg a pherfformio.

Rydym yn cyfuno arbenigedd ymchwil cydnabyddedig ag ymrwymiad i rannu ein hymchwil â'r gynulleidfa ehangaf bosibl trwy lunio trafodaeth gyhoeddus, arwain y drafodaeth academaidd, a chwarae rhan wedi’i diffinio’n glir ym mywyd diwylliannol prifddinas.

Mae cydweithio strategol gyda sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC, Opera Cenedlaethol Cymru, ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn caniatáu inni wneud cyfraniadau helaeth i fyd cerddoriaeth, o fewn a thu hwnt i'r byd academaidd.

Ymagwedd gyfannol

Mae ein hymagwedd gyfannol yn helpu ein hymchwilwyr i weithio gyda'i gilydd ar draws ffiniau disgyblu confensiynol.

Yn ogystal ag adlewyrchu amrywiaeth y ddisgyblaeth, gyda gwybodaeth arbenigol ar bynciau mor amrywiol ag estheteg y ddeunawfed ganrif, gwrando sinematig a phiano Rhamantaidd, mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar bedwar thema allweddol.

Mae ein Hysgol yn falch o fod â chymuned ôl-raddedig lewyrchus, sy'n chwarae rhan weithredol wrth lunio ein hamgylchedd ymchwil.

Mae myfyrwyr ôl-raddedig yn cael gwahoddiadau i gyflwyno papurau yn ein diwrnod astudio ôl-raddedig blynyddol, yn mynd i gyfarfodydd fforwm ôl-raddedig ac yn cael eu gwahodd i siarad yn ein cyfres o ddarlithoedd John Bird.

Yn y pen draw, mae ein gwaith yn deillio o gariad a rennir at gerddoriaeth. Trwy gyhoeddiadau, gweithgareddau allgymorth ac ymgysylltu â'r cyhoedd, rydyn ni'n tanio dychymyg ac yn goleuo ymarfer.