Ewch i’r prif gynnwys

Peryglon Amgylcheddol (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae’r cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth ddatblygedig o beryglon amgylcheddol ac arbenigedd technegol wrth asesu risgiau, ac mae’n canolbwyntio ar y dulliau sydd eu hangen i ddadansoddi peryglon y gorffennol a rhagweld peryglon yn y dyfodol.

people

Effaith ar gymdeithas

Ymunwch â’r ymdrech fyd-eang i wneud ein cymdeithas yn fwy gwydn rhag trychinebau naturiol fel sy’n cael ei amlinellu yn fframwaith Sendai a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol y Cenhedloedd Unedig.

screen

Modiwlau arbenigol

Datblygu dealltwriaeth uwch o beryglon amgylcheddol ac arbenigedd technegol mewn asesu risg, gyda phrofiad ymarferol o ddefnyddio synhwyro o bell, modelu rhifiadol, ac ystod o ddadansoddiadau maes a labordy uwch.

star

Addysgu a arweinir gan ymchwil

Manteisio ar addysgu a arweinir gan ymchwil gan ymarferwyr blaenllaw fydd yn rhannu eu harbenigedd amrywiol ym maes gwyddoniaeth ryngddisgyblaethol asesu peryglon a rheoli risg.

mortarboard

Rhagolygon i raddedigion

Byddwch yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr graddedig ym meysydd rheoli peryglon, ymgynghoriaethau amgylcheddol, cynllunio gwydnwch trefol, polisi'r llywodraeth, a diwydiannau cyfathrebu argyfwng, neu ar gyfer ymchwil pellach yn y maes hwn sy'n esblygu.

tick

Prosiect annibynnol

Byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil sy'n cael ei yrru gan eich diddordebau eich hun mewn lleoliad o'ch dewis, gan gynnwys y tu allan i'r DU.

Mae ein cymdeithas yn wynebu peryglon amgylcheddol na welwyd mo’u tebyg o’r blaen, sy’n cael eu gyrru gan newid yn yr hinsawdd a’r twf cyflym ym mhoblogaeth y byd. Mae trychinebau byd-eang a lleol yn achosi llawer o farwolaethau ac yn costio biliynau o bunnoedd bob blwyddyn. Gall gwyddonwyr y ddaear sydd ag arbenigedd yn y maes peryglon arbenigol liniaru effaith peryglon naturiol, fel llifogydd, daeargrynfeydd, tirlithriadau, llosgfynyddoedd ac erydu arfordirol, a pheryglon amgylcheddol a grëir gan bobl, fel llygredd aer a dŵr.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn datblygu dealltwriaeth fwy manwl o beryglon amgylcheddol, ynghyd ag arbenigedd technegol ar gyfer asesu risgiau. Bydd hyn yn cynnwys sgiliau hanfodol mewn modelu rhifiadol ac ystadegol, synhwyro o bell, gwaith maes a dadansoddi data. Bydd digon o gyfleoedd i gael profiad ymarferol drwy ddefnyddio cyfarpar blaenllaw i’r maes a’r labordy, ynghyd â meddalwedd lefel uchel, broffesiynol. Byddwch yn trin y dulliau modelu diweddaraf gan ddefnyddio data synhwyro o bell o loerennau fel cytserau CubeSat a Sentinel, a ddefnyddir i ddelweddu arwyneb y Ddaear.

Gyda'r sgiliau sydd eu hangen i ragweld, olrhain a lliniaru trychinebau, byddwch yn ymgeisydd deniadol ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd gwaith ac ymchwil yn y llywodraeth, asiantaethau'r llywodraeth, ymgynghoriaethau amgylcheddol, cwmnïau perygl llifogydd, cwmnïau cyfleustodau a chwmnïau yswiriant. Hefyd, byddwch yn ymuno â’r ymdrech fyd-eang i wneud ein cymdeithas yn fwy gwydn rhag trychinebau naturiol fel sy’n cael ei amlinellu yn fframwaith Sendai ac a gymeradwywyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd

Rydym yn gwneud synnwyr o'n byd sy'n newid ac yn datrys rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein cymdeithas, economi ac amgylchedd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4830
  • MarkerPlas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis daearyddiaeth, daeareg, neu gynllunio trefol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

If you do not have a degree in a relevant area or have a 2:2 honours degree you may still apply but should provide additional evidence to support your application such as a CV and references.

Application deadline:

We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible. Applications normally close at the end of August but may close sooner if all places are filled.

Selection process:

We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer. If you do not have a degree in a relevant area or have a 2:2 honours degree you may be invited to an interview to assess your suitability for the programme.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hwn yn gwrs amser llawn sy’n cael ei ddilyn mewn un flwyddyn academaidd.

Am y saith mis cyntaf, o fis Medi i fis Ebrill, byddwch yn cwblhau modiwlau a addysgir a ddaw i gyfanswm o 120 credyd yn ystod cam Diploma eich gradd.

Os byddwch yn pasio'r cam Diploma byddwch yn symud ymlaen i'r cam Meistr, lle byddwch yn ymgymryd â phrosiect unigol (gwerth 60 credyd), a fydd yn arwain at draethawd hir. Cyflawnir y prosiect hwn yn ystod yr haf, o dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys modiwlau gorfodol gyda chydbwysedd o fodiwlau sy'n archwilio problemau byd-eang, rhyngddisgyblaethol lliniaru peryglon ac yn darparu hyfforddiant methodolegol uwch. Mae'r rhaglen hefyd yn datblygu'r sgiliau technegol a damcaniaethol uwch sydd eu hangen ar gyfer dadansoddi peryglon modern.

Yn olaf, mae'r traethawd hir 60 credyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gynnal ymchwil ar beryglon yn eu maes o ddiddordeb arbenigol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae gan yr Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr ddiwylliant ymchwil cryf a gweithredol sy'n llywio ac yn arwain ein haddysgu. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu addysgu o'r safon uchaf gan ganiatáu i fyfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd gyflawni eu potensial.

Gall y dulliau addysgu a ddefnyddiwn amrywio o un modiwl i’r llall. Yn gyffredinol, rydyn ni’n addysgu gan ddefnyddio cymysgedd o ddulliau gan gynnwys darlithoedd, gweithdai grŵp bach, ymarferion labordy ar gyfrifiadur, a theithiau maes. Caiff darlithoedd eu recordio lle bo'n bosibl fel y gallwch wylio ac astudio yn eich amser eich hun.

Bydd gan y rhan fwyaf o'ch modiwlau a addysgir wybodaeth bellach i chi ei hastudio a bydd disgwyl i chi weithio drwy hyn yn eich amser eich hun, yn unol â'r arweiniad gan y darlithydd ar gyfer y modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?

Mae'r modiwlau’n cael eu hasesu'n llwyr yn seiliedig ar ystod o wahanol asesiadau gwaith cwrs sy'n cyfuno ymarferion unigol a grŵp. Mae'r gwaith cwrs yn cael ei gydbwyso rhwng gwahanol fathau o asesu, fel cyflwyniadau, asesiadau ysgrifenedig (traethodau ac adroddiadau), ac asesiadau ymarferol yn y labordy.

Adborth:

Gallai adborth ar waith cwrs gael ei roi ar ffurf sylwadau ysgrifenedig, llafar neu dros fideo ar waith a gyflwynir; rhoi atebion ""enghreifftiol"" a/neu drafodaeth mewn sesiynau cyswllt.

Fel arfer, byddwch yn derbyn eich adborth gan arweinydd y modiwl. Os oes gennych gwestiynau am eich adborth, mae arweinwyr modiwlau yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad i chi ar eich cynnydd.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol pan fyddwch yn cofrestru ar y cwrs. Mae tiwtor personol yno i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau, a gall roi cyngor i chi ar faterion academaidd a phersonol a all fod yn effeithio arnoch. Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd â’ch tiwtor personol er mwyn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn.

Ar gyfer eich traethawd hir, byddwn yn neilltuo goruchwyliwr academaidd i chi sydd yno i roi cymorth ac adborth ar sut mae eich gwaith prosiect uwch yn mynd rhagddo. Dylech gadw mewn cysylltiad â'ch goruchwyliwr academaidd yn rheolaidd drwy e-bost a mynychu o leiaf un cyfweliad cynnydd personol ym Mhrifysgol Caerdydd yn ystod cyfnod y traethawd hir.

Cyfleusterau

Rydyn ni’n defnyddio amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, i rannu deunyddiau cwrs, gan gynnwys taflenni, adroddiadau proffesiynol, fideos, delweddau, gwaith darllen pellach a dolenni i asiantaethau'r llywodraeth. Gallwch hefyd ddefnyddio Dysgu Canolog i gyfathrebu a rhannu syniadau â chydfyfyrwyr a thiwtoriaid cwrs mewn cylchoedd trafod. Pan fo'n bosibl, bydd darlithoedd yn cael eu recordio a'u rhannu drwy Dysgu Canolog, er mwyn i chi allu gwylio ac astudio yn eich amser eich hun.

Byddwch yn cael defnyddio'r Llyfrgell Gwyddoniaeth, sy'n cynnwys deunyddiau sy'n gysylltiedig â Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr, yn ogystal â llyfrgelloedd eraill y Brifysgol.

Gwasanaethau cefnogi

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth sy'n agored i'n myfyrwyr, fel Canolfan y Graddedigion, cwnsela a llesiant, cynghorwyr ariannol a gyrfaoedd, y swyddfa ryngwladol ac Undeb y Myfyrwyr.

Amrywiaeth

Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol, cefnogol a chroesawgar sy'n parchu urddas staff a myfyrwyr o bob oed, ethnigrwydd, anabledd, strwythur teuluol, rhywedd, cenedl, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd neu gred arall, a chefndir economaidd-gymdeithasol.

Rydyn ni wedi ymrwymo i egwyddorion Athena SWAN ac rydyn ni wedi ennill statws Efydd.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Categoreiddio peryglon amgylcheddol o ran eu prosesau a'u sbardunau sylfaenol.
  • Gwerthuso’n feirniadol beth sy’n achosi ac yn effeithio ar fod yn agored i risg amgylcheddol.
  • Datblygu diffiniad gweithredol o wydnwch i ymdopi â pheryglon amgylcheddol byd-eang.
  • Arfarnu risgiau peryglon amgylcheddol cymhleth.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Profi modelau penderfyniadol a thebygoliaethol peryglon amgylcheddol.
  • Gwerthuso problemau peryglon amgylcheddol yn feirniadol, gan eu dadansoddi’n wrthrychol a datblygu atebion priodol, creadigol.
  • Crynhoi ac asesu data a theori peryglon cymhleth yn feirniadol er mwyn rhagweld risg yn y dyfodol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Dylunio asesiadau risg ar gyfer peryglon amgylcheddol.
  • Ymdrin â'r ystod o ddata sydd ei angen i asesu peryglon amgylcheddol yn feirniadol a gallu ymgorffori'r rhain mewn astudiaethau achos penodol.
  • Paratoi i fynd ar drywydd cyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa a dysgu gydol oes a gwerthfawrogi effeithiau posibl newid byd-eang.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Creu dadansoddiad gan ddefnyddio modelau penderfyniadol a thebygoliaethol cymhleth.
  • Gwerthuso llenyddiaeth yn feirniadol er mwyn cyfleu syniadau, egwyddorion a theorïau yn effeithiol ar lafar, yn ysgrifenedig ac ar ffurf electronig.
  • Gweithio'n effeithiol fel aelod o dîm neu arweinydd mewn tîm ac fel unigolyn, gan feithrin mentergarwch, cyfrifoldeb personol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy.
  • Ymdrin ag ystod o fethodolegau synhwyro o bell.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,950 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

p>Dim ar gyfer unrhyw weithgaredd gorfodol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Nac ydy

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae myfyrwyr sy'n graddio o'r radd hon wedi dod o hyd i waith o fewn asiantaethau llywodraethol ac anllywodraethol, ymgyngoriaethau amgylcheddol, risg llifogydd, cwmnïau cyfleustodau ac yswiriant. Datblygwyd yr ystod o sgiliau technegol a ddysgwyd ar y radd hon gydag ymgynghoriad gan gwmnïau amgylcheddol, gan wneud myfyrwyr yn ddeniadol i'r rhain sefydliadau.

Mae ein gradd yn mynd i'r afael â materion ar raddfa leol a byd-eang gan ddarparu ystod eang o waith posibl i raddedigion ledled y byd.

Os byddai’n well gennych barhau ar lwybr gyrfa mwy academaidd, efallai y byddwch yn dewis parhau â'ch astudiaethau gyda ymchwil ar bwnc sy'n ymwneud â pheryglon.

Lleoliadau

p>Na

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Earth sciences, Hazard management, Environment, Environmental science


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.