Ewch i’r prif gynnwys

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb yn rhan o’n holl arferion a gweithgareddau.

Ein nod yw sicrhau amgylchedd cynhwysol, cefnogol a chroesawgar sy’n parchu urddas staff a myfyrwyr, ni waeth beth yw eu hoedran, ethnigrwydd, anabledd, strwythur teuluol, rhywedd, cenedl, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd neu gredoau a chefndir economaidd-gymdeithasol.

Ein gwerthoedd

Wrth weithio ochr yn ochr â Chynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol, rydym wedi ymrwymo i wneud y canlynol:

  • cydnabod, parchu a gwerthfawrogi gwahaniaethau o ran sut rydym yn cydweithio ac yn rhyngweithio ag eraill
  • diddymu gwahaniaethu a chynnal gwerthoedd allweddol urddas, cwrteisi a pharch
  • rhoi cyfleoedd i’r holl staff a myfyrwyr

Rydym yn gwerthfawrogi'r manteision sy'n gysylltiedig â gwahanol gefndiroedd, profiadau, barn, credoau a diwylliannau staff a myfyrwyr yn ein cymuned Ysgol. Rydym yn gwerthfawrogi sut mae hyn yn gwella ein hamgylchedd gwaith a’n henw da.

Dr Jenny Pike Reader in Earth and Ocean Sciences

Rydym yn bwriadu amlygu arfer gorau drwy amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys:

Gweithgareddau diweddar

Cau'r Bwlch ar gyfer Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Mae Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd wedi bod yn rhan o’r menter Cau’r Bwlch sy’n ceisio gwella dealltwriaeth o'r rhwystrau i lwyddiant ymhlith myfyrwyr du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, nodi mentrau llwyddiannus blaenorol a rhannu profiad o arfer gorau, gyda golwg ar gau'r bwlch cyrhaeddiad a geir ar hyn o bryd mewn Ysgolion, Colegau a’r Brifysgol yn gyffredinol.

Ar hyn o bryd, mae bwlch cyrhaeddiad cyfartalog o 13% rhwng myfyrwyr gwyn a myfyrwyr du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ar draws prifysgolion y DU. Er mwyn ceisio cau'r bwlch hwn, mae’r Brifysgol wedi gwneud argymhellion sy’n cynnwys sicrhau arweinyddiaeth gryfach, cael sgyrsiau agored ynghylch hil, datblygu amgylcheddau mwy cynhwysol ac amrywiol, dadansoddi’r data a deall arfer gorau.

Mae’r grŵp gorchwyl a gorffen ar gyrhaeddiad myfyrwyr du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol i sicrhau bod y Brifysgol yn gweithredu ar yr argymhellion hyn. Yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, mae'r grŵp hwn yn cynnwys staff academaidd a gweinyddol, israddedigion ac ôl-raddedigion o amrywiaeth o gefndiroedd amrywiol.

Mae'r grŵp yn cyfarfod unwaith y mis i ddadansoddi'r data, trafod materion yn y gorffennol a'r presennol a datblygu ffyrdd newydd o sicrhau amgylchedd dysgu mwy cynhwysol ac amrywiol i bob myfyriwr ac aelod o’r staff. Mae’r grŵp hefyd yn ceisio gwella allgymorth du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol drwy greu amgylchedd mwy croesawgar ar gyfer gwneud ymchwil, addysgu a cael profiad bywyd.

Dad-ddysgu Hiliaeth ym maes y Geowyddorau

Mae ein grŵp darllen strwythuredig yn dilyn cwricwlwm a arweinir gan ymchwil ar ddad-ddysgu hiliaeth ym maes y geowyddorau. Mae'r grŵp yn cyfarfod bob pythefnos i gyfleu syniadau sy’n seiliedig ar gyfweliadau ag ysgolheigion ac erthyglau ar y pynciau canlynol:

  • hiliaeth a diffiniadau
  • hiliaeth ac unigolion
  • hiliaeth a hanes
  • hiliaeth a chyfiawnder
  • hiliaeth a hygyrchedd
  • hiliaeth a chynhwysiant
  • hiliaeth a hunanofal
  • hiliaeth ac atebolrwydd

Ar sail y trafodaethau, mae'r tîm yn nodi’r hyn y gellir ei gyflawni, gyda'r nod o ffurfio polisïau ysgol newydd sy'n mynd i'r afael â materion posibl sy’n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Rhoi gwybod am broblem

Gall myfyrwyr a staff yn ein Hysgol roi gwybod i'n pwyllgor am unrhyw broblemau sy’n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Pwyllgor cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd

Gall myfyrwyr hefyd roi gwybod am y digwyddiadau drwy Borth Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.