Byw bywyd Cymraeg yng Nghaerdydd
Mae dros 100,000 o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghaerdydd sydd yn golygu bod yna gymuned bywiog a gweithgar yn aros i’ch croesawu.
Efallai na chewch chi gyfle i gwrdd a phob un o siaradwyr Cymraeg Caerdydd, ond pa fath o brofiad cymdeithasol a diwylliannol gallwch chi disgwyl yn y brifddinas?

"Dwi wrth fy modd yn astudio yn y brifddinas. Mae’n lleoliad arbennig i fyw sy’n cynnig cyfle gwych i gymdeithasu yn y Gymraeg."
Bywyd Cymraeg ein myfyrwyr
Fel myfyriwr Cymraeg gyda ni, a phreswylwyr yn byw yn un o’r fflatiau ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn Llys Senghennydd neu Gogledd Tal-y-Bont — byddwch yn bendant yn clywed Cymraeg yn cael ei defnyddio trwy’r dydd. Byddwch yn clywed hi dros frecwast yn y bore, yn eich darlithoedd a’ch seminararau, ac wrth gael paned cyn mynd i noswylio. Ond beth am du hwnt i’r amgylcheddau dysgu a byw?
Y peth cyntaf i’w ddweud yw ei bod hi’n amser cyffrous iawn i fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol. Eleni yw blwyddyn gyntaf Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd ac mae llawer o fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg wedi eu hethol yn swyddogion. Mae UMCC yma i gynrychioli myfyrwyr Cymraeg Caerdydd a sicrhau eu bod yn mwynhau pob agwedd ar eu bywydau yn y brifysgol. Bydd croeso i chi fel myfyriwr gyfrannu at waith yr Undeb a bod yn rhan o’r newidiadau cyffrous sydd ar droed ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bywyd cymdeithasol
Ffordd arall o fwynhau bywyd cymdeithasol bywiog yw drwy ymaelodi â’r gymdeithas Gymraeg – yr enwog Gym Gym. Gallwch ymuno ag un o’u timau chwaraeon, neu fynychu eu digwyddiadau cymdeithasol yma yng Nghaerdydd neu fynd ar daith i Ddulyn neu Gaeredin i gefnogi Cymru’n chwarae rygbi. Efallai byddwch yn llwyddo i weld y gêm, hyd yn oed!
Dewis arall yw Cymdeithas Iolo — cymdeithas sy’n rhoi mwy o sylw i bethau diwylliannol ac sydd yn benodol i Ysgol y Gymraeg yw hon, ond mae croeso mawr i bawb i’w digwyddiadau. Uchafbwynt y flwyddyn yw’r stomp farddonol rhwng Cymdeithas Iolo a staff yr Ysgol. Tybed a fyddwch chi maes o law yn cyfrannu at fuddugoliaeth arall i griw Iolo? Byddwch yn wynebu cystadlu brwd — mae hi’n sawl blwyddyn bellach ers i’r staff gario’r dydd ac maen nhw’n awyddus iawn i ddod i’r brig unwaith eto.
Neu tybed ai canu sy’n mynd â’ch bryd? Os felly, Côr Aelwyd y Waun Ddyfal amdani. Bydd llawer o’ch cyd-fyfyrwyr yn aelodau o’r côr cymdeithasol ond llwyddiannus hwn. Byddwch yn siŵr o glywed am eu buddugoliaethau yn Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Ŵyl Gerdd Dant, a chystadleuaeth Côr Ieuenctid Côr Cymru. Ond efallai y bydd mwy o sôn am eu trip diweddar i Ŵyl Gymreig Disneyland Paris!
Y tu hwnt i’r brifysgol
Tra bod yna lawer o opsiynau ar y campws, fe welwch hefyd bod yna digonedd yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws y ddinas.
Mae’r sîn celfyddydol yn ffynnu, sydd yn golygu bod dramâu Cymraeg i’w gweld yn gyson mewn lleoliadau megis Theatr y Sherman a chanolfan Chapter. Ar lefel fwy anffurfiol, mae nosweithiau Bragdy’r Beirdd yn hynod boblogaidd — efallai yr hoffech chi roi tro ar gyflwyno un o’ch cerddi ynddyn nhw neu mynychu i ddarganfod talent lenyddol newydd. Mae digwyddiadau niferus hefyd yn cael eu cynnal yng nghanolfan Gymraeg yr Hen Lyfrgell.
Mae’r ddinas yn cynnig nifer o dimau Cymraeg eu hiaith (pêl-droed, hoci, rygbi, a chriced) tra bod Menter Caerdydd — menter iaith Gymraeg y ddinas – yn gallu cynnig gwybodaeth am lu o weithgareddau eraill i’w chael. Fe synnech at beth sy’n cael ei gynnig trwy’r Gymraeg — o fandiau ukelele i’r gynghanedd, o sgïo i pilates!
Rhwng popeth, ni bu amser gwell i fod yn fyfyriwr Cymraeg ym mhrifddinas Cymru!