Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol

Cynhyrchu darn neu gasgliad gwreiddiol o waith creadigol yn ogystal â datblygu sgiliau beirniadol pwysig.

Mae'r llwybr PhD unigryw hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gynhyrchu darn neu gasgliad gwreiddiol o waith creadigol yn ogystal â dadansoddiad trylwyr o'r gwaith. Gall yr elfen greadigol gynnwys rhyddiaith (nofel, stori fer, ffeithiol greadigol neu sgript chwarae/ffilm) neu farddoniaeth.

Mae'r rhaglen yn cynnwys elfen hanfodol orfodol. Gofynnir i fyfyrwyr gymhwyso'r gwaith creadigol gwreiddiol i gyd-destunau beirniadol a diwylliannol ehangach yn ogystal â gwerthuso cyfraniad cysyniadol a damcaniaethol y gwaith.

Mae'r rhaglen hon ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Rydym hefyd yn cynnig cwrs cyfatebol sydd ar gael drwy gyfrwng y Saesneg.

Nodau'r rhaglen

  • Helpu myfyrwyr i feithrin sgiliau creadigol a beirniadol.
  • Cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa ym maes y celfyddydau, y cyfryngau, y llywodraeth, addysgu, rheoli ac ymchwil. Mae ein Hysgol yn darparu hyfforddiant a lefel uchel o gefnogaeth, ac mae’r gymuned ôl-raddedig yn gwneud cyfraniad hanfodol i enw da rhyngwladol y Brifysgol am ymchwil.

Nodweddion unigryw

  • Y cyfle i gynhyrchu darn neu gasgliad o waith creadigol gwreiddiol yn ogystal â dadansoddiad beirniadol trylwyr o'r gwaith.
  • Cyfres flynyddol o seminarau a chynadleddau ymchwil.
  • Cyfleoedd i addysgu yn yr Ysgol a’r Ganolfan Addysgu Cymraeg (Cymraeg i Oedolion).
  • Cysylltiadau agos ag ymarferwyr a sefydliadau cenedlaethol.

“Yr hyn oedd yn apelio i mi am y radd hon, oedd y cyfle i archwilio fy maes astudiaeth o ddau bersbectif: yr ochr feirniadol, a’r ochr greadigol. Ar yr ochr feirniadol, cefais gyfweld â dramodwyr, archwilio dramâu a ffilmiau mewn archifdai, a dod i ddeall damcaniaethau theoretig yn well ymysg profiadau eraill. Ar yr ochr greadigol, cefais ddysgu fy nghrefft dan arweiniad ymarferwr profiadol ym maes y ddrama. Yn ddi-os, yr oedd y ddau bersbectif: y beirniadol a’r creadigol yn bwydo’i gilydd mewn modd a oedd yn fy herio ar adegau, ond yn rhoi boddhad mawr hefyd.”

Ceri Elen Morris, Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol PhD

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD
Hyd amser llawn PhD 3 blynedd
Hyd rhan-amser PhD 5 mlynedd
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref

Sgiliau a ddatblygwyd

  • Gwybodaeth ac arbenigedd pwnc ar lefel uwch
  • Uwch sgiliau ymchwil (damcaniaethau a chymhwyso)
  • Hunanreolaeth a chymhelliant
  • Meddwl dadansoddol a beirniadol
  • Lledaenu ymchwil ac ymgysylltu

Asesiad

Asesir y rhaglen hon yn seiliedig ar ganlyniad yr ymchwil a gynhyrchir drwy gyflwyno traethawd ac arholiad llafar.

Ar gyfer PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol, bydd y cais ar ffurf un o'r canlynol:

  • yn achos rhyddiaith (nofel, stori fer, gwaith ffeithiol greadigol neu sgript chwarae/ffilm), ni ddylai'r gyfran greadigol a sylwebaeth feirniadol gyda'i gilydd fod yn fwy na 100,000 o eiriau. Ni fydd y sylwebaeth feirniadol yn cynnwys llai nag 20,000 o eiriau.
  • yn achos barddoniaeth, dylai'r rhan greadigol fod tua 60 tudalen o gasgliad o gerddi, rhyddiaith barddoniaeth neu ficro-ffuglen, a rhaid i’r sylwadau beirniadol fod o leiaf 20,000 o eiriau
  • cais Creadigol/Critigol integredig sydd heb fod yn fwy na 100,000 o eiriau.

Mae ein diddordebau ymchwil staff yn cynnwys rhyddiaith a barddoniaeth Ganoloesol, crefft adrodd straeon, llenyddiaeth werin a chwedlau, hanesyddiaeth a llenyddiaeth, yr emyn a'r faled, astudiaethau menywod, theori a beirniadaeth lenyddol, llenyddiaeth plant, ac agweddau amrywiol ar lenyddiaeth gyfoes.

Enghraifft ddiweddar o brosiect PhD oedd Iaith y Ddrama / Drama'r Iaith: PhD Beirniadol a Chreadigol a gyflwynwyd gan Ceri Elen Morris. Archwiliodd Ceri Elen i ba raddau yr oedd heriau ieithyddol yn ffenomenon wrth ysgrifennu drama ar gyfer theatr a theledu Cymraeg. Cynhyrchodd ddadansoddiad trylwyr i ateb y cwestiwn hwn, ac ymatebodd i'r casgliadau drwy waith creadigol.

Mae graddedigion blaenorol yn y maes hwn wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd mewn addysg uwch, ymchwil, y celfyddydau, y cyfryngau, addysg, llywodraeth a chyhoeddi.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Mae'r Ysgol yn cynnig nifer gyfyngedig o ysgoloriaethau sy'n cynnwys:

Ysgoloriaethau Celia Thomas a Glyn a May Ashton
Mae’r ysgoloriaethau hyn ar gael i fyfyrwyr (cartref a rhyngwladol) sy'n dymuno astudio MPhil neu PhD yn Ysgol y Gymraeg. Mae maint pob ysgoloriaeth yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Fel arfer, mae ysgoloriaethau'n werth hyd at £3000.

Ysgoloriaeth Islwyn
Mae'r ysgoloriaeth hon ar gael i fyfyrwyr (cartref a rhyngwladol) sy'n dymuno astudio MPhil neu PhD yn Ysgol y Gymraeg, ac sy'n dymuno ymchwilio i lenyddiaeth Gymraeg y 19eg ganrif, hanes llenyddol neu grefyddol Cymraeg Gwent neu waith Islwyn, y bardd. Mae maint pob ysgoloriaeth yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Fel arfer, mae ysgoloriaethau'n werth hyd at £3000.

I wneud cais am y cyfleoedd uchod, cysylltwch ag Ysgol y Gymraeg i dderbyn ffurflen gais.

Rydym hefyd yn rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol y De, y Gorllewin a Chymru a ariennir gan yr AHRC sy'n golygu y gall darpar fyfyrwyr wneud cais am ysgoloriaethau ym maes Astudiaethau Celtaidd. Mae'r pynciau yn y maes hwn yn cynnwys Llenyddiaeth a Sosioieithyddiaeth a Pholisi Iaith.

Mae mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaeth hon ar y wefan uchod. I drafod gwneud cais, cysylltwch â Chyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Addas i raddedigion y Gymraeg neu bynciau eraill y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae myfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau MA, neu gwrs hyfforddi dulliau ymchwil, fel arfer yn dilyn y modiwl sgiliau ymchwil o’r MA a addysgir wrth baratoi at eu traethawd MPhil/PhD.

Rhaid cael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu yn adran uchaf yr ail ddosbarth yn y DU, neu gymhwyster cyfwerth.

Rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno cyflwyno’u traethawd PhD yn Gymraeg, ond sydd heb radd yn y Gymraeg, fodloni’r Ysgol ynghylch safon eu sgiliau yn yr iaith ar lafar ac ar bapur.

Gofynion Iaith Saesneg

IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.

Dylai’r ceisiadau gynnwys cynnig ymchwil hyd at 1,500 o eiriau sy'n amlinellu’r rhaglen ymchwil y maent yn bwriadu ei dilyn. Dylai ymgeiswyr gysylltu ag Ysgol y Gymraeg i drafod eu diddordebau ymchwil cyn gwneud cais ffurfiol.

Wedyn bydd y Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig yn yr ysgol yn rhoi cyngor ynghylch yr arbenigedd sydd ar gael ac yn helpu ymgeiswyr wrth iddynt ddatblygu eu Cynigion Ymchwil.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Cadi Thomas

Cadi Thomas

Rheolwr Academaidd

Siarad Cymraeg
Email
thomascr9@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0637

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Dr Jonathan Morris

Dr Jonathan Morris

Cyfarwyddwr Ymchwil

Siarad Cymraeg
Email
morrisj17@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44(0) 29 2087 7266

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig