Ymchwil ôl-raddedig
Ymunwch â’n cymuned ymchwil angerddol, amrywiol a mentrus er mwyn ystyried eich diddordebau mewn amgylchedd cefnogol sy’n canolbwyntio ar effaith.
We are one of the foremost centres of research in Welsh and other Celtic languages, and supervise several PhD students working on other languages and international contexts.
Our interests span the fields of literature, linguistics, politics, legislation and culture – seeking to better understand their formative impact on the world we live in today, and how they can shape our future experiences.
Recognised internationally for research quality and impact, we have a consistent and proud history of affecting positive practical, cultural and legislative change, benefiting communities in Wales and around the world.
Our approach
We offer three flexible research pathways which can be tailored to your personal and professional circumstances. All three can be taken through the medium of Welsh or English.
- Welsh PhD/MPhil
- Language, Policy and Planning PhD/MPhil
- Creative and Critical Writing (Welsh medium) PhD
You can take the PhD as a full-time option (three years) or part-time (five years) while the MPhil runs for one to two years.
We have a very wide range of research specialisms within the School and are sure you’ll find a match with some of the interests of our staff. These include:
- medieval literature in Welsh and English
- Welsh literature including children’s literature
- translation studies
- creative and critical writing
- the historical development of the Welsh language and dialectology
- language variation and change
- language planning and policy
- bilingualism and second language acquisition
- sociology of language.
Our PhD students are currently working on a range of diverse topics which include:
- Medieval Welsh Dream Narrative
- Dialect Levelling in Machynlleth
- Trilingualism in Wales
- Rights, Language and the State
- The Relationship Between Language, Images and Meaning in Welsh Pictorial Literature for Children
- Language Variation and Switching in Cardiff
- Memory and Nation in the Contemporary Modern Period
- Investigating Language-In-Education Policies from a Social Justice and Linguistic Human Rights Perspective in Science and Technology Departments in Three Algerian Southern Universities.
Ysgoloriaeth PhD yn yr Iaith Wyddeleg
(Cynllunio Ieithyddol / Sosioieithyddiaeth)
Mae’n bleser gan Ysgol y Gymraeg wahodd ceisiadau ar gyfer yr ysgoloriaeth uchod. Ysgoloriaeth tair blynedd yw hon, a ariennir drwy grant gan Adran Datblygu Gwledig a Chymunedol a'r Gaeltacht. Gall yr ymchwil fod mewn unrhyw faes o gynllunio ieithyddol a pholisi yr Wyddeleg.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio dan oruchwyliaeth Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn dysgu modiwlau ‘Gwyddeleg i ddechreuwyr’ yn ystod y semestrau dysgu arferol. Tra bo’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol nid yw’n hanfodol.
Telir yr holl ffioedd dysgu ar ran yr ymgeisydd llwyddiannus. Cynigir hefyd fwrsariaeth a chyfraniadau at gostau teithio ayyb.
Dechrau: 1 Hydref 2025
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 28 Mehefin 2025
Am ragor o wybodaeth ac er mwyn derbyn ffurflen gais, cysylltwch â Heledd Davies: cymraeg@caerdydd.ac.uk
Ni yw un o’r canolfannau ymchwil blaenaf ym maes y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill, ac rydym yn goruchwylio sawl myfyriwr PhD sy’n gweithio ar ieithoedd eraill a chyd-destunau rhyngwladol.
Mae ein diddordebau’n rhychwantu meysydd llenyddiaeth, ieithyddiaeth, gwleidyddiaeth, deddfwriaeth a diwylliant – rydym am ddeall yn well eu heffaith ffurfiannol ar y byd sydd ohoni a sut gallant lywio ein profiadau yn y dyfodol.
Mae gennym enw da rhyngwladol am ansawdd ac effaith ein hymchwil, ynghyd â chofnod cyson a balch o lywio newidiadau cadarnhaol, ymarferol, diwylliannol a deddfwriaethol er budd cymunedau yng Nghymru ac ar draws y byd.
Ein darpariaeth
Rydym yn cynnig tri llwybr ymchwil. Gan eu bod yn hyblyg ac wedi’u teilwra at eich dulliau gweithio a’ch amgylchiadau personol a phroffesiynol, gellir dilyn y rhain yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Gallwch gymryd y PhD fel opsiwn amser llawn (tair blynedd) neu ran amser (pum mlynedd) tra cynhelir ein MPhil am un flwyddyn i ddwy.
Mae gennym ystod eang iawn o arbenigeddau ymchwil yn yr Ysgol. Rydym yn siŵr y byddwch yn rhannu rhai diddordebau â’n staff, gan gynnwys:
- llenyddiaeth ganoloesol Cymraeg a Saesneg
- llenyddiaeth Gymraeg gan gynnwys llenyddiaeth i blant
- astudiaethau cyfieithu
- ysgrifennu creadigol a beirniadol
- datblygiad hanesyddol yr iaith Gymraeg a thafodieitheg
- amrywiaeth a newid ieithyddol
- cynllunio a pholisïau iaith
- dwyieithrwydd a chaffael ail iaith
- cymdeithaseg ieithyddol.
Mae ein myfyrwyr PhD yn gweithio ar ystod o bynciau diddorol ac amrywiol. Ymhlith y pynciau ymchwil cyfredol mae:
- Naratif Breuddwydion yng Nghymraeg y Canol Oesoedd
- Lefelu Tafodieithol ym Machynlleth
- Teirieithrwydd yng Nghymru
- Hawliau, Iaith a’r Wladwriaeth
- Y Berthynas rhwng Iaith, Delweddau ac Ystyr yn Llenyddiaeth Ddarluniadol Gymraeg i Blant
- Amrywio a Newid Iaith yng Nghaerdydd
- Cof a’r Genedl yn y Cyfnod Modern Cyfoes
- Ymchwilio i Bolisïau ynghylch Iaith mewn Addysg o Safbwynt Cyfiawnder Cymdeithasol a Hawliau Dynol Ieithyddol yn Adrannau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Nhair o Brifysgolion Deheuol Algeria.
Profiad proffesiynol
Rydym yn cydnabod y gall cyfleoedd am brofiad gwaith ategu eich datblygiad proffesiynol, academaidd a phersonol.
Yn yr un modd, bydd cyfleoedd i ymgysylltu â’r gymuned academaidd genedlaethol a rhyngwladol sy’n gysylltiedig â maes eich pwnc yn eich galluogi i ddatblygu eich proffil a meithrin cysylltiadau gwerthfawr.
Bydd ein lleoliad yng nghanol y ddinas a’n cysylltiadau sefydledig â phartneriaid a sefydliadau allanol yn eich rhoi ar y blaen o ran dod o hyd i gyfleoedd am leoliadau. Hefyd, rydym yn cynnig cyfleoedd am gyflogaeth yn yr Ysgol.
Prosiectau ymchwil
O bryd i’w gilydd, mae cyfleoedd yn codi i fyfyrwyr weithio ar brosiect ymchwil o dan arweinyddiaeth aelod o staff yr Ysgol.
Dysgu i Addysgu
Byddwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi gynnal seminarau a sesiynau iaith drwy raglen y Brifysgol, Dysgu i Addysgu. Byddwch yn cael hyfforddiant penodol ar sut i addysgu ac asesu cyn ymgymryd ag unrhyw waith o’r fath.
Ymgysylltu academaidd
Rydym yn cynnig cefnogaeth ariannol a bugeiliol i annog eich presenoldeb mewn cynadleddau, seminarau a digwyddiadau perthnasol fydd yn ategu eich astudiaethau ac yn eich helpu i rwydweithio mewn cymunedau academaidd neu rai eraill, sy’n ymwneud â maes eich pwnc.
Cyllido
Mae ystod o wahanol opsiynau cyllido ar gael i ategu eich astudiaethau PhD, o fewn y Brifysgol a thrwy sefydliadau a phartneriaid allanol.
Cysylltu
Am ragor o wybodaeth ar yr MPhil/PhD cysylltwch gyda'r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost neu i drafod ysgoloriaethau cysylltwch â'r Ysgol.

Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost
Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig
- Siarad Cymraeg
- macgiollachriostd@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9180
Ysgol y Gymraeg
Mae ein hymchwil yn cael effaith uniongyrchol ar gymdeithas, iaith, diwylliant a pholisi.