Ffisiotherapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff (MSc)
- Hyd: 18 mis
- Dull astudio: Amser llawn

Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Fel ymarferydd sy'n chwilio am gymhwyster arbenigol mewn ffisiotherapi chwaraeon, bydd yr MSc hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich gwybodaeth am wyddor chwaraeon ac anafiadau, yn ogystal â'ch sgiliau meddwl yn feirniadol, er mwyn datblygu eich gyrfa o fewn eich proffesiwn arbenigol.
Ymhlith y tair Ysgol orau yn y DU
Ar gyfer Ffisiotherapi (BSc), yn ôl Complete University Guide yn 2020
Ymchwilwyr rhyngwladol eu bri
Yr Athro Shea Palmer, yr Athro Nicola Phillips (OBE) a’r Athro Val Sparkes, yn ogystal â chlinigwyr sy’n Uwch Ymarferwyr Ffisiotherapi yn eu maes.
Ymgysylltu â phartneriaid allanol
Rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau, partneriaid clinigol, cyrff proffesiynol a’r diwydiant lleol a chenedlaethol.
Cymorth iaith Saesneg
Rydym yn cynnig cwrs Saesneg pwrpasol am ddim i gefnogi myfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio gofal iechyd (nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael).
Ail-chwarae sesiynau addysgu
Lle bo'n briodol, mae ein holl sesiynau’n cael eu recordio, a bydd y recordiadau ar gael ar-lein.
Cynlluniwyd ein rhaglen Ffisiotherapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff mewn cydweithrediad â Chymdeithas y Ffisiotherapyddion Siartredig mewn Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff (ACPSEM) a sefydliadau rhyngwladol fel Ffederasiwn Rhyngwladol Ffisiotherapyddion Chwaraeon (IFSP).
Mae ein rhaglen sefydledig yn addas ar gyfer ffisiotherapyddion cymwysedig, o bob rhan o'r DU ac yn rhyngwladol, sy’n gweithio mewn amrywiaeth eang o sectorau sy'n golygu rheoli pobl ag anafiadau sy'n gysylltiedig â chwaraeon neu ymarfer corff. Mae angen o leiaf dwy flynedd o brofiad ffisiotherapi clinigol, boed hyn yn brofiad mewn chwaraeon ar lefel perfformiad uchel neu mewn clinig ffisiotherapi.
Mae'n rhoi'r cyfle i chi fynd â'ch dysgu i'r lefel nesaf, gan wella'ch sgiliau a'ch gwybodaeth er mwyn herio a gwerthuso'n feirniadol eich ymarfer proffesiynol eich hun a meysydd ehangach mewn ffisiotherapi chwaraeon fel gwella gwasanaethau a gofal cleifion. Bydd hyn yn helpu i lywio'r ffordd rydych chi’n ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol ac yn eich helpu i lywio gofal iechyd ffisiotherapi chwaraeon ac ymarfer corff yn eich gwlad.
Mae ein modiwlau'n cwmpasu ystod eang o gymwyseddau ffisiotherapi chwaraeon ac ymarfer corff, fel y nodir gan Ffederasiwn Rhyngwladol Therapi Corfforol Chwaraeon i gynnwys Cyfranogiad Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Rheolaeth Ryngddisgyblaethol ac Atal Anafiadau.
Bydd ymchwilwyr ac academyddion profiadol sy’n arbenigwyr yn eu meysydd yn cefnogi eich dysgu. Gallwch edrych ymlaen at weithio gyda’n tîm hynod brofiadol sydd, rhyngddynt, wedi gweithio o fewn ystod drawiadol o gyd-destunau, fel Gemau aml-chwaraeon mawr a chwaraeon proffesiynol ar lefel ryngwladol. Hefyd, caiff tiwtor personol ei ddyrannu i chi, fydd yn eich helpu gyda’ch astudiaethau.
Gall eich addysgu ddigwydd yn ein labordai ffisiotherapi a'n hystafelloedd efelychu sydd wedi'u cynllunio'n arbennig. Mae ein Hysgol yn elwa ar ystod o offer fel melin draed gwrth-ddisgyrchiant a chanolfan recordio symudiadau sy'n defnyddio technegau i ddadansoddi symudiadau pobl y gellid eu defnyddio i gefnogi eich dysgu.
Hefyd, byddwch yn rhan o garfan ffisiotherapi ehangach lle byddwch yn elwa o ddysgu ochr yn ochr â grŵp amrywiol o fyfyrwyr byd-eang sy'n astudio ar wahanol gamau yn eu gyrfa. Rhannu gwybodaeth a magu dealltwriaeth o ymarfer ffisiotherapi chwaraeon ac ymarfer corff ar draws y byd.
Yn fwy na dim arall, rydyn ni’n ymdrechu i wneud yn siŵr eich bod chi’n barod ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa. Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch wedi cyflawni gofynion theori Lefel Aur Cymdeithas y Ffisiotherapyddion Siartredig mewn Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff ac yn gweithio ar lefel meistr yn eich maes ac yn dylanwadu ar ofal iechyd yng Nghymru a’r tu hwnt.
Byddwch yn rhan o rywbeth sy'n newid bywydau ac ewch ati i ymgymryd â her newydd heddiw.
;
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
Dyluniwyd ein cyrsiau er mwyn eich darparu gyda'r wybodaeth a'r profiad y bydd angen arnoch er mwyn dechrau dilyn gyrfa goal iechyd proffesiynol.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif cymhwyster a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd neu ddiploma mewn ffisiotherapi, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
- Cyfeiriad gan eich cyflogwr neu gydweithiwr sy'n cadarnhau bod gennych 2 flynedd o brofiad clinigol cyfwerth ag amser llawn.
- Datganiad personol y mae'n rhaid iddo fynd i'r afael â'r pwyntiau canlynol:
- Pam ydych chi wedi dewis y rhaglen hon?
- Beth sydd o ddiddordeb i chi am y rhaglen?
- Unrhyw brofiad perthnasol sy'n gysylltiedig â chynnwys y rhaglen neu'r modiwl.
- Sut rydych chi'n bwriadu defnyddio'r cymhwyster yn eich gyrfa.
- Sut y byddwch chi a'ch proffesiwn yn elwa o'ch astudiaethau.
- Pam rydych chi'n teimlo y dylid rhoi lle i chi ar y rhaglen.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau yn cau ddiwedd mis Gorffennaf ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, gan gynnwys asesiad o addasrwydd drwy'r datganiad personol, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid oes angen DBS i gael mynediad i'r rhaglen, ond os oes angen i ddysgu drwy brofiad fel rhan o fodiwl dewisol gael ei gynnal o'ch gweithle arferol, efallai y gofynnir i chi ddarparu copi o'ch tystysgrif DBS bresennol.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrion
- Rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae'r rhaglen MSc Ffisiotherapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn fodiwlaidd, gyda phum modiwl craidd a addysgir a thraethawd hir. Yna mae’r modiwl traethawd hir (60 credyd) yn arwain at MSc (cyfanswm o 180 credyd).
Mae'r tri modiwl yn benodol i Ffisiotherapi Chwaraeon ac mae yna hefyd un modiwl ymchwil generig craidd. Cyflwynir y modiwlau ar ffurf bloc, ac mae'n ofynnol i fyfyrwyr fynychu'r Brifysgol ar gyfer blociau dau i dri diwrnod yn ystod y flwyddyn.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.
Blwyddyn un
Ym Mlwyddyn 1 byddwch yn cwblhau 120 credyd yn elfen a addysgir y rhaglen.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Science of Performance and Injury in Sport | HCT021 | 30 credydau |
Assessment and Treatment of Sports Injuries | HCT022 | 30 credydau |
Sport and Exercise Participation, Inter-Disciplinary Management and Injury Prevention | HCT023 | 30 credydau |
Research methods and data analysis in healthcare | HCT343 | 30 credydau |
Blwyddyn dau
Ym Mlwyddyn 2 byddwch yn cwblhau eich Traethawd Hir (60 credyau).
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Traethawd hir empirig | HCT117 | 60 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o’r canlynol:
- Darlithoedd
- Tiwtorialau
- Trafodaethau grŵp
- Sesiynau ymarferol.
Bydd yr holl gynnwys yn cael ei gefnogi gan ddeunydd ar-lein drwy'r Amgylchedd Dysgu Rhithwir, Dysgu Canolog i hwyluso astudio’n annibynnol, sy'n arbennig o ddefnyddiol i chi os ydych chi’n byw ac yn gweithio i ffwrdd o Gaerdydd. Mae astudio’n annibynnol yn cyfrannu at tua 75% o'r oriau dysgu tybiannol.
Yn ystod cam traethawd hir yr MSc, mae'n ofynnol i chi hefyd ymgymryd â phrosiect ymchwil sy'n cynnwys casglu data.
Sut y caf fy asesu?
Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniad llafar.
Mae hyn yn eich galluogi i ddangos eich gallu i ddadansoddi a gwerthuso sefyllfa ond hefyd i ddefnyddio amrywiaeth o ffyrdd i gyflwyno eich syniadau a'ch galluoedd. Y traethawd hir yw penllanw datblygu’r holl sgiliau hyn.
Adborth
Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith mewn amrywiol ffyrdd. Bydd y rhain yn cynnwys adborth llafar yn ystod darlithoedd, adborth ysgrifenedig a ddarperir drwy fforymau trafod modiwlau ar-lein, ac adborth electronig ar waith cwrs a asesir drwy GradeMark. Gallwch drafod eich perfformiad cyffredinol â'ch tiwtor personol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi rannu syniadau â gweithwyr iechyd proffesiynol. Yn ogystal â datblygu eich galluoedd deallusol eich hun, mae'r broses hon o rannu syniadau yn eich galluogi i ddysgu ac elwa ar brofiadau eraill. Rhoddir cyfle i gynnal trafodaethau o’r fath a chyfnewid syniadau drwy seminarau a thiwtorialau.
Byddwch yn cael tiwtor personol penodol ar ôl cofrestru ar y rhaglen, sy'n gallu helpu gydag unrhyw ofal bugeiliol yn ogystal â rhoi cyngor ar arddull ysgrifennu, gramadeg a mentora academaidd.
Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd - Dysgu Canolog - yn helaeth. Yma byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac enghreifftiau o asesiadau. Caiff pob darlith ei recordio drwy Panopto ac maen nhw ar gael i chi drwy gydol eich rhaglen.
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, gallwch gael cefnogaeth gyda rhaglen Saesneg fewn-sesiynol bwrpasol (10 wythnos) yn semester 1. Dim ond i fyfyrwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y mae hyn ar gael a bydd presenoldeb yn seiliedig ar angen gan mai dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael.
Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i'ch cefnogi chi. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth cwnsela myfyrwyr, gwasanaeth cynghori myfyrwyr, cyfleusterau gofal dydd, a chyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â gwybodaeth am y campws a gwasanaethau llyfrgell a TG.
Mae ein ap myfyrwyr yn caniatáu i chi gael mynediad at wasanaethau Prifysgol Caerdydd a gwybodaeth wedi'i phersonoli mewn un lle ac mewn modd syml a chyfleus drwy ffôn clyfar, o’r siop apiau.
Dyma rai o’r nodweddion:
- Mapiau o’r campws
- Adnewyddu llyfrau, taliadau, ac eitemau sydd ar gael i fyfyrwyr yn y llyfrgell
- Amserlen myfyrwyr
- Dod o hyd i gyfrifiadur sydd ar gael
- Cael cymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr
- Newyddion myfyrwyr
- Derbyn hysbysiadau pwysig
- Dolenni i lansio apiau eraill y Brifysgol fel Outlook (ar gyfer ebost) a Blackboard (ar gyfer Dysgu
- Canolog).
- Dolenni i apiau a argymhellir fel nextbike, i helpu i wneud y mwyaf o brofiadau myfyrwyr.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r canlynol:
Datblygu agwedd gyfannol at adsefydlu mabolgampwr neu unigolyn iach actif sydd wedi’i anafu a gallu cyfathrebu â gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud ag iechyd a chwaraeon i hybu ymwybyddiaeth o reoli ac atal anafiadau.
Sgiliau Deallusol:
Gwerthuso ymarfer ac arfarnu datblygiadau neu newidiadau mewn ymarfer proffesiynol yn feirniadol.
Cyflwyno newid ac arwain y gwaith o reoli newid a hyrwyddo'r proffesiwn yn yr amgylchedd chwaraeon ac ymarfer corff drwy ymchwil.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ymarfer eich proffesiwn gan ddefnyddio dull dadansoddi a datrys problemau a dangos sgiliau uwch wrth reoli anafiadau mewn chwaraeon ac ymarfer corff
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Datblygu safonau ymarfer yn seiliedig ar feddwl myfyriol a datrys problemau.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2024/25 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Nid
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Mae ein cwrs wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu tuag at lefel safon Aur Cymdeithas y Ffisiotherapyddion Siartredig mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corff (ACPSM), gan ddefnyddio cymwyseddau a ddiffinnir gan Ffederasiwn Rhyngwladol Ffisiotherapyddion Chwaraeon (IFSPT).
Bydd y wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau y byddwch yn eu datblygu yn ystod eich MSc yn darparu'r sylfaen ddelfrydol ar gyfer adeiladu eich gyrfa mewn ffisiotherapi chwaraeon ac ymarfer corff.
Lleoliadau
Na
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Gofal iechyd, Ffisiotherapi, Chwaraeon ac ymarfer
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.