Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ôl-raddedig

Myfyrwyr yn y ganolfan ymchwil yn Nhŷ Eastgate
Myfyrwyr yn y ganolfan ymchwil.

Mae ymgymryd â gradd ymchwil ôl-raddedig yn y gwyddorau gofal iechyd yn eich galluogi i wneud cyfraniad gwerthfawr i wybodaeth ac ymarfer o fewn eich maes proffesiynol.

Gan ddilyn ymchwil wedi ei selio ar eich diddordebau yn un o’n hadrannau gofal Iechyd, gallwch osod sylfaen mewn gyrfa lle gallwch wneud gwahaniaeth i ofal iechyd yn y byd ehangach.

Mae ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yng nghanol ein cymuned ymchwil. Yn ogystal â chael mynediad i ysgolheigion sy’n gweithio ar ymchwil pwysig, rydym yn darparu rhaglen gynhwysfawr o gefnogaeth.

Beth gallaf astudio?

Mae ein PhD mewn Gwyddorau Gofal Iechyd wedi’i strwythuro i roi’r cyfle i chi ymgymryd ag ymchwil gwreiddiol ac annibynnol yn y gwyddorau gofal iechyd. Rydym yn selio ein hymchwil o amgylch pedair thema ymchwil. Bydd angen i ymgeiswyr ffocysu eu hymchwil arfaethedig o amgylch y themâu hyn.

Myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn y lolfa goffi.
Myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn y lolfa goffi.

Mae pob myfyriwr doethur yn dilyn rhaglen o gyrsiau, gweithdai a chynadleddau.

Rydym yn darparu ar hyn o bryd:

  • Symposiwm ymchwil ôl-raddedig blynyddol a arweinir gan fyfyrwyr
  • Gofod swyddfa ymchwil ôl-raddedig ymroddgar
  • Panel Myfyrwyr-Staff gweithgar
  • Gwaith maes a chynllun cefnogi cynadleddau teithio ariannol.

Mae hyfforddiant ymchwil yn cael ei ddarparu gan Yr Academi Ddoethurol a’r Ganolfan Hyfforddiant Doethur ESRC.

Gall fyfyrwyr gymryd mantais o gyfleoedd rheolaidd i helpu trefnu cynadleddau a digwyddiadau eraill, ysgrifennu blogiau ar blog PhDays yr Ysgol, a chyflwyno papurau yng nghynadleddau lleol a chenedlaethol a symposia.