Ewch i’r prif gynnwys

Rhagnodi Annibynnol/Atodol (Tystysgrif Ôl-raddedig)

  • Hyd: 24 wythnos
  • Dull astudio: Rhan amser

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Bydd y dystysgrif ôl-raddedig mewn rhagnodi anfeddygol yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i chi gymhwyso fel rhagnodwr annibynnol.

certificate

Rhaglen achrededig

Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) a Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).

people

Cymuned ddysgu

Byddwch yn elwa ar ddysgu ochr yn ochr â grŵp amrywiol sy'n astudio ar gamau gwahanol yn eu gyrfaoedd.

tick

Cefnogaeth i fyfyrwyr

Bydd gennych gefnogaeth academaidd ac yn cael tiwtor personol penodol gydol cyfnod eich astudiaethau gyda ni.

academic-school

Addysgu o ansawdd uchel

Byddwch yn cael eich addysgu gan staff clinigol ac addysgol profiadol sydd ag enw da sylweddol ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Nod ein rhaglen yw darparu sylfaen gadarn o baratoi ar gyfer nyrsys cofrestredig (oedolion, iechyd meddwl, anableddau dysgu a phlant), bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (ffisiotherapyddion, radiograffwyr therapiwtig, podiatryddion, ymarferwyr parafeddygon datblygedig a deietegwyr) i ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol er mwyn i chi ymarfer fel rhagnodwyr annibynnol ac atodol diogel, effeithiol a chymwys. Bydd y rhaglen yn datblygu eich gallu i ddadansoddi'n feirniadol, ac i hogi'ch sgiliau myfyrio personol, gan eich paratoi ar gyfer datblygiad proffesiynol gydol oes. Bydd y rhaglen yn darparu sylfaen i chi ddatblygu eich ymarfer, i'ch galluogi i ddarparu gofal o safon broffesiynol uchel, a bod yn atebol am y gofal hwnnw.

Bydd y rhaglen yn eich cyflwyno i egwyddorion cyffredinol ffarmacoleg sy'n berthnasol i ymarfer rhagnodi, y fframweithiau proffesiynol, cyfreithiol a moesegol sy'n berthnasol i ragnodi annibynnol ac atodol, ac agweddau llywodraethu clinigol / sicrhau ansawdd ar ragnodi.

Yn sail i'r elfennau hyn bydd gwerthuso eich perfformiad eich hun, a chymhwyso'r egwyddorion rhagnodi i'ch maes ymarfer eich hun. Bydd hefyd yn eich galluogi i fod yn ymwybodol o ddatblygiadau cyfredol o fewn rhagnodi annibynnol ac atodol yn y DU. Byddwch yn astudio mewn lleoliad amlddisgyblaethol ynghyd ag amrywiaeth o unigolion o broffesiynau eraill, gan gynnwys fferyllwyr, gan hwyluso dysgu a rennir fel a argymhellir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth / Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Dyluniwyd ein cyrsiau er mwyn eich darparu gyda'r wybodaeth a'r profiad y bydd angen arnoch er mwyn dechrau dilyn gyrfa goal iechyd proffesiynol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44(0) 29 2068 7538
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Academic and professional requirements:

As well as complying with the Professional, Statutory and Regulatory Body (Nursing and Midwifery Council (NMC) and Health and Care Professions Council (HCPC)) specific requirements for prescribing, you will need to have:

  • Current registration with the relevant professional/regulatory body
  • Been registered with the NMC for a minimum of one year prior to entry to the programme (referred to as V300), for nursing and midwifery applicants
  • An undergraduate Honours degree or equivalent
  • Demonstrated an ability to study at Masters level
  • A minimum of one year (full-time equivalent) patient-orientated clinical experience
  • Evidence of continuing professional development
  • Undertaken a clinical assessment/diagnostics and evaluation module or be able to demonstrate equivalent experience.

English language requirements:

IELTS with an overall score of 6.5 with 5.5 in all subskills, or an accepted equivalent.

Other essential requirements:

You will need to supply a personal statement which address the following points:

  • Why have you selected this programme?
  • What interests you about this programme?
  • Any relevant experience related to the programme or module content.
  • How you plan to use the qualification in your career.
  • How you and your profession will benefit from your studies.
  • Why you feel you should be given a place on the programme.

You will also need to complete a supplementary application form (Learning Agreement and Statement of Support), in addition to the Cardiff University online application form, as this confirms the criteria set out by the NMC and HCPC.

For self-funding individuals (who work outside of Health boards/ NHS Trusts), a separate process will be used in which you will directly take advice from the Programme Manager and provide two references that specifically comment on your clinical and academic ability to undertake the programme.

You may apply for recognition of prior learning (RPL) at level 6 or level 7 of up to 60 credits, of which ONLY 30 credits can be at level 6.

RPL is considered through mapping of learning outcomes of comparable modules. This complies with the NMC (2018) and HCPC (2019) prescribing standards. Please contact the PGCert Independent Prescribing/ Supplementary Prescribing Programme Manager to discuss RPL queries.

If you intend to apply for recognition for prior learning, this will need to be submitted with your application.

For further information regarding RPL, please see the RPL policy

Application deadline: 

The application deadline is 31 July each year. If you submit an application after this date, we will only consider it if places are still available.

Selection process

We will review your application and if you meet all of the entry requirements, we will make you an offer.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

A DBS (Disclosure Barring Service) certificate is required to undertake the following modules:

  • HCT 356 Independent/Supplementary Prescribing (core)
  • HCT 357 Independent/Supplementary Prescribing (core)

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement
  • contact with people related to Cardiff University.

Strwythur y cwrs

Mae'r Dystysgrif i Raddedigion mewn Rhagnodi Annibynnol/Atodol yn cynnwys dau fodiwl craidd (30 credyd yr un).

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.

Blwyddyn un

Byddwch yn ymgymryd â'r ddau fodiwl ym mlwyddyn un.

Rhagnodi Annibynnol/Atodol (craidd).

Bydd angen i chi gwblhau o leiaf 12 diwrnod (78 awr) o ddysgu yn ymarferol er mwyn datblygu sgiliau asesu clinigol a rhagnodi, gyda chefnogaeth Ymarferydd Rhagnodi Dynodedig (DPP). Mae hwn yn ofyniad gan y Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Yn unol â Strategaeth Dysgu Digidol Prifysgol Caerdydd, cyflawnir y rhaglen gan ddefnyddio dull dysgu cyfunol. Nod y rhaglen fydd darparu profiad ar-lein cyfoethog a gafaelgar, gan gynnwys cyfuniad o weithgareddau dysgu cydamserol ac anghydamserol ochr yn ochr ag addysgu a dysgu traddodiadol wyneb yn wyneb.

Bydd y dulliau dysgu ac addysgu a ddefnyddir yn amrywio o diwtorialau grŵp ac unigol i seminarau dan arweiniad myfyrwyr, deialog, ymchwilio gwerthfawrogol a dysgu seiliedig ar broblemau, gweithdai sgiliau, astudio hunangyfeiriedig, trafodaeth/dadl feirniadol, a darlithoedd dan arweiniad arbenigwyr. Rydym yn cyflogi e-ddysgu trwy Amgylcheddau Dysgu Rhithwir (VLE) sydd wedi'u datblygu'n benodol ar gyfer rhaglenni Rhagnodi Annibynnol/Atodol.

Bydd ein rhaglen a'n modiwlau yn hwyluso dysgu rhyngbroffesiynol effeithiol ar draws amrywiaeth eang o broffesiynau, a rhannu safbwyntiau ac arbenigedd proffesiynol gwahanol. Bydd y profiad hwn yn gwella'ch dysgu a'ch datblygiad, ac yn eich galluogi i ehangu eich rhwydwaith proffesiynol.

Rydym yn gwerthfawrogi y byddwch chi, fel ymarferwyr cofrestredig, yn ymuno â'r rhaglen gydag ystod eang o sgiliau, ac efallai y bydd gan rai ohonoch rolau ymarferydd uwch. Gwerthfawrogir eich profiadau clinigol a phrofiadol a chânt eu defnyddio i wella'r broses ddysgu o ran dysgu annibynnol a dysgu ar y cyd.

Byddwn yn eich annog i gymryd agwedd oedolion at ddysgu ar lefel gradd ôl-raddedig, sy'n golygu eich bod chi'n cymryd cyfrifoldeb am eich dysgu eich hun. Ein nod yw eich paratoi ar gyfer ymarfer rhagnodi annibynnol/atodol proffesiynol.

Sut y caf fy asesu?

Er mwyn bodloni gofynion y cyrff rheoleiddio proffesiynol a statudol, cewch eich asesu trwy'r dulliau canlynol:

Portffolio Rhagnodi Electronig

Aseiniad ysgrifenedig y Fframwaith Therapiwtig

Arholiad rhifedd (30 munud)

Aseiniad myfyriol cofnodion clinigol

Asesiad Clinigol Strwythuredig (SCA):

Prawf Dosbarth Therapiwteg (60 munud)

Sut y caf fy nghefnogi?

Er mwyn bodloni gofynion rheoliadol proffesiynol a statudol (y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal), cynigir nifer o lefelau cefnogaeth:

Tiwtor Personol: Dyrennir tiwtor personol i chi ar ddechrau'r rhaglen a fydd yn darparu cefnogaeth addysgol a bugeiliol ac a fydd yn gwneud y canlynol:

•        Cynnal cyswllt rheolaidd trwy gydol y rhaglen;

•        Cynghori ar y safonau academaidd;

•        Rhoi cefnogaeth ac arweiniad mewn perthynas â dysgu;

•        Rhoi adborth ar gynnydd a rhoi sylwadau adeiladol ar unrhyw agweddau ar ddysgu a fydd

          yn gofyn am ragor o ddatblygiad;

•        Bod ar gael i gael cyngor a chefnogaeth bersonol.

 

Asesydd Academaidd: Dyrennir asesydd academaidd i chi o dîm y rhaglen trwy gydol eu rhaglen, yn ogystal â’r tiwtor personol, a fydd yn darparu cefnogaeth addysgol a bugeiliol. Mae rheolwr y rhaglen yn gyfrifol am sicrhau bod dyrannu a monitro aseswyr academaidd yn cydymffurfio â safonau'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer goruchwylio ac asesu myfyrwyr, a bod aseswyr academaidd yn cael eu paratoi ar gyfer y rôl, yn unol â safonau'r gyfadran.

Cyfrifoldebau:

  • mae aseswyr academaidd yn coladu ac yn cadarnhau cyflawniad myfyrwyr o hyfedredd a chanlyniadau rhaglenni yn yr amgylchedd academaidd ar gyfer pob rhan o'r rhaglen.
  • mae aseswyr academaidd yn gwneud ac yn cofnodi penderfyniadau gwrthrychol, wedi'u seilio ar dystiolaeth, ar ymddygiad, hyfedredd a chyflawniad, ac argymhellion ar gyfer cynnydd, gan dynnu ar gofnodion myfyrwyr ac adnoddau eraill.
  • mae aseswyr academaidd yn cynnal gwybodaeth ac arbenigedd cyfredol sy'n berthnasol ar gyfer y hyfedredd a chanlyniadau'r rhaglen y maent yn eu hasesu a'u cadarnhau.
  • mae'r asesydd academaidd enwebedig yn gweithio mewn partneriaeth ag asesydd ymarfer enwebedig i werthuso ac argymell y myfyriwr ar gyfer cynnydd, yn unol â safonau'r rhaglen a pholisïau lleol a chenedlaethol.
  • mae gan aseswyr academaidd ddealltwriaeth o ddysgu a chyflawniad y myfyriwr yn ymarferol.

 

Strategaeth i Gefnogi Dysgu a Datblygiad Myfyrwyr fel Rhagnodwyr

Disgwylir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth / Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal a'r brifysgol y dylid cynnal cyfarfodydd rheolaidd rhyngoch chi a'ch Ymarferydd Rhagnodi Dynodedig i alluogi adolygiad dilys ac adeiladol o'ch cynnydd a'ch cytundeb ynghylch unrhyw brofiadau dysgu pellach sy'n ofynnol. Dylai'r asesydd ymarfer hefyd gwrdd â chi i lywio'r asesiad o'ch cymhwysedd. Bydd cyfarfodydd o'r fath yn cynnwys arsylwi'ch ymarfer yn uniongyrchol er mwyn galluogi asesiad dilys o gymhwysedd.

 

Mae angen cynnal cyfarfodydd hefyd rhwng yr asesydd ymarfer a'r goruchwyliwr ymarfer i lywio dealltwriaeth yr asesydd ymarfer o'ch dysgu a'ch datblygiad yn ymarferol. Mae'n ofynnol hefyd i'r asesydd ymarfer a'r asesydd academaidd gwrdd i archwilio'ch cynnydd gydag ymarfer a dysgu academaidd er mwyn galluogi asesiad adeiladol o'ch datblygiad o hyfedredd priodol ac i ganiatáu i'r asesydd academaidd goladu canlyniadau myfyrwyr o bob elfen o'r rhaglen.

 

Mae'r rhaglen yn cynnig cyfle i chi ddatblygu a rhannu syniadau gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, gan eich galluogi i ddysgu ac elwa o brofiadau eraill. Rhoddir cyfle i drafod a chyfnewid syniadau trwy seminarau a thiwtorialau.

Rydym yn cynnig cyfle i chi ddod yn gynrychiolydd myfyrwyr a siapio darpariaeth addysgol yn y dyfodol a chynghori ar elfennau allweddol o'ch dysgu.

Mae pob modiwl yn y rhaglen yn gwneud defnydd helaeth o Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd ar Ddysgu Canolog, lle byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac enghreifftiau o asesiadau. Fel rheol, mae darlithoedd yn cael eu recordio trwy amrywiaeth o blatfformau electronig, ac maen nhw ar gael i chi eu gweld trwy gydol eich rhaglen.

Mae'r brifysgol yn cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i'ch cefnogi chi. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth cwnsela myfyrwyr, gwasanaeth cynghori myfyrwyr, cyfleusterau gofal dydd, a chyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â gwybodaeth am y campws a gwasanaethau llyfrgell a TG.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y gall y brifysgol ei gynnig i chi ar y ddolen ganlynol:

Bywyd myfyrwyr – Astudio – Prifysgol Caerdydd

Mae ein ap myfyrwyr yn caniatáu ichi gyrchu gwasanaethau Prifysgol Caerdydd a gwybodaeth wedi'i phersonoli mewn un lle ac mewn modd syml a chyfleus drwy ffôn clyfar, o’r siop apiau. 

Dyma rai o’i nodweddion:

  • Mapiau o’r Campws
  • Adnewyddu, taliadau, ac eitemau sydd ar gael i fyfyrwyr yn y llyfrgell
  • Amserlen myfyrwyr
  • Dod o hyd i gyfrifiadur sydd ar gael
  • Cael cymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr
  • Newyddion i fyfyrwyr
  • Derbyn hysbysiadau pwysig
  • Dolenni i lansio apiau eraill y Brifysgol fel Outlook (ar gyfer e-bost) a’r bwrdd du (ar gyfer Dysgu Canolog).

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud. 

Mae Deilliannau Dysgu’r Rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Gwerthuso'n feirniadol weithredoedd cyffuriau a ffynonellau gwybodaeth, cyngor, a chymorth penderfyniadau ar sail tystiolaeth mewn arfer rhagnodi.
  • Archwilio’n feirniadol y wybodaeth ffarmacolegol a fferyllol glinigol gyfredol sydd ar gael ac yn berthnasol i'ch maes ymarfer eich hun.
  •    Arddangos gwerthusiad beirniadol o faterion cyfreithiol, moesegol, proffesiynol a llywodraethu yn eich rôl ragnodi.

 

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Arddangos cymhwysiad priodol o wybodaeth feirniadol am gamau yn ymwneud â chyffuriau mewn arfer rhagnodi a defnyddio cyfarpar cefnogi penderfyniadau ar sail tystiolaeth yn effeithiol.
  • Dangos dealltwriaeth feirniadol a chymhwyso deddfwriaeth sy'n berthnasol i'r arfer o ragnodi anfeddygol.
  • Arddangos agwedd fyfyriol feirniadol ac annibynnol tuag at ymarfer, gan ddadansoddi sefyllfaoedd sy'n arwain at ddadl gydlynol a pharhaus i alluogi gwella gwasanaeth ac ymarfer, a datblygiad proffesiynol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Gwerthuso'n feirniadol yr agweddau ar asesiad systematig a chyfannol o anghenion cleifion a dehongli dangosyddion diagnostig i sicrhau diagnosis gwahaniaethol.
  • Arddangos dull strategol o gydweithredu'n effeithiol gyda'r tîm amlddisgyblaethol sy'n ymwneud â rhagnodi, cyflenwi a rhoi meddyginiaethau.
  • Arddangos cymhwysiad beirniadol strategaethau effeithiol wrth drafod a gwneud penderfyniadau ar y cyd â chleifion a gofalwyr.
  • Arddangos cymhwysiad strategol yn ymarferol o'r fframwaith atebolrwydd proffesiynol a llywodraethu clinigol wrth ragnodi anfeddygol.
  • Defnyddio strategaethau cyfathrebu/addysg priodol yn effeithiol i gyfathrebu a lledaenu gwybodaeth i'r claf, teuluoedd a grwpiau cleientiaid.

 

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Ymgysylltu â systemau gwybodaeth er mwyn dadansoddi a dehongli data i lywio arferion rhagnodi.
  • Integreiddio theori ag ymarfer proffesiynol.
  • Syntheseiddio gwybodaeth/data o amrywiaeth o ffynonellau.
  • Arfarnu, syntheseiddio a gwerthuso'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â rhagnodi annibynnol/atodol yn feirniadol.
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich dysgu a datblygiad personol a phroffesiynol eich hun.
  • Rheoli’r prosiect yn annibynnol a dangos sgiliau rheoli amser.
  • Gweithio’n annibynnol.
  • Datrys problemau a dod i gasgliadau / cynnig argymhellion realistig.
  • Cyfleu syniadau mewn modd cryno a chlir.
  • Arddangos llythrennedd digidol.

 

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Caiff ffioedd eu hanfonebu fesul modiwl. Fel arfer, caiff anfonebau eu rhyddhau yn fuan ar ôl cofrestru ar gyfer yr holl fodiwlau y byddwch yn eu hastudio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau ffioedd dysgu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Nid yw'r cwrs hwn yn derbyn myfyrwyr o du allan i'r DU/UE ar hyn o bryd.

Costau ychwanegol

Tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) 

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Byddwn yn darparu unrhyw gyfarpar sydd ei angen.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Bydd y llwybr rhagnodi anfeddygol yn rhoi cymhwyster i chi sy'n eich galluogi i adeiladu ar eich rôl bresennol; gwella profiad y claf a lleihau amseroedd aros.

Bydd y rhaglen hon yn eich helpu i ddatblygu eich gyrfa drwy ymgymryd â rolau mwy datblygedig gyda mwy o gyfrifoldebau am reoli gofal cleifion.

Mae'r PgCert hefyd ar gael fel llwybr drwy’r MSc mewn Ymarfer Uwch; rhaglen wedi'i chynllunio ar gyfer gweithwyr iechyd, gofal cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig mewn lleoliadau cynradd, eilaidd a thrydyddol sy'n dymuno datblygu eu sgiliau sylfaen wybodaeth, clinigol, arweinyddiaeth a rheoli. Bydd myfyrwyr, waeth beth fo'u harbenigedd clinigol, yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o hyrwyddo ymarfer.

Lleoliadau

Bydd angen i chi gael eich cyflogi a bod yn ymarfer mewn amgylchedd clinigol yn y Deyrnas Unedig i ymuno â'r rhaglen hon. Bydd gofyn i chi ddangos tystiolaeth o oriau clinigol yn eich amgylchedd clinigol eich hun ar gyfer y modiwlau canlynol:

  • Mae modiwlau Rhagnodi Annibynnol/Atodol yn gofyn am 78 awr o ymarfer cysylltiedig yn eich ardal ragnodi (craidd).

Arian

Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig

Os ydych yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2023 neu ar ôl hynny, gallech wneud cais am arian i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Gofal iechyd , Nyrsio a bydwreigiaeth, Gwyddorau gofal iechyd


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.