Ewch i’r prif gynnwys

Ymarfer Clinigol Uwch (MSc)

  • Hyd: 18 mis
  • Dull astudio: Dysgu cyfunol llawn amser

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae'r rhaglen hon wedi'i hanelu at nyrsys a bydwragedd cofrestredig ac ymarferwyr gofal iechyd eraill, yn y DU, sy'n anelu at ddatblygu a gweithio ar lefel uwch o ymarfer clinigol, yn enwedig lle mae gofyn am asesiad clinigol uwch a sgiliau rhagnodi annibynnol/atodol.

tick

Rhaglen wedi'i hadeiladu i weddu i'ch anghenion

Bydd dewis o fodiwlau asesu clinigol dewisol yn ystod y flwyddyn gyntaf yn caniatáu ichi deilwra'ch sgiliau clinigol yn seiliedig ar ofynion y gwasanaeth a’ch llwybr gyrfa.

scroll

Dod yn rhagnodydd annibynnol/atodol

Gallwch gymhwyso fel rhagnodydd annibynnol/atodol trwy ymgymryd â'r modiwlau rhagnodi annibynnol/atodol, gan hyrwyddo'ch datblygiad personol.

certificate

Mapiwyd y rhaglen

i'r Fframwaith Ymarfer Uwch ar gyfer Nyrsio, Bydwreigiaeth ac Ymarfer Proffesiynol Perthynol i Iechyd yng Nghymru (NLIAH 2010) a Safonau Ymarfer Lefel Uwch ar gyfer Nyrsio y Coleg Nyrsio Brenhinol (2018). Mae’n bosibl y bydd nyrsys sy'n cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn gymwys i wneud cais am gymhwyster ychwanegol gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol:

Mae'r rhaglen hon wedi'i hanelu at nyrsys a bydwragedd cofrestredig ac ymarferwyr gofal iechyd eraill, yn y DU, sy'n anelu at ddatblygu a gweithio ar lefel uwch o ymarfer clinigol, yn enwedig lle mae gofyn am asesiad clinigol uwch a sgiliau rhagnodi annibynnol/atodol.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi gwella ansawdd y gofal a ddarperir i'r boblogaeth. Bydd ein rhaglen yn eich paratoi ar gyfer rolau ymarfer clinigol lefel uwch trwy gynyddu eich dealltwriaeth feirniadol a'ch sgiliau gwneud penderfyniadau cymhleth ar draws y pedair agwedd o ymarfer clinigol uwch, sef rheolaeth ac arweinyddiaeth, addysg, ymchwil, ac ymarfer clinigol. Bydd hyn yn eich galluogi i ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau wrth reoli gofal cleifion cymhleth.

Wrth wraidd ein cwrs arloesol mewn MSc Ymarfer Clinigol Uwch mae'r modiwlau Rhagnodi Annibynnol ac Atodol craidd. Ar ôl cwblhau'r modiwlau hyn yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys fel rhagnodydd annibynnol/atodol, a fydd yn golygu eich bod yn gallu cynnig lefel fwy cyfannol o ofal uwch i'ch cleifion. Y modiwl craidd arall: Bydd Dulliau Ymchwil a Dadansoddi Data mewn Gofal Iechyd yn rhoi cyfle i chi archwilio'r dystiolaeth a'r ymchwil sy'n sail i ymarfer clinigol uwch yn feirniadol. Ar ben hynny, mae modiwl asesiad clinigol dewisol yn cyflwyno cyfle i ddatblygu eich sgiliau asesu cleifion a'ch sgiliau clinigol, a bydd naill ai portffolio yn seiliedig ar gymhwysedd clinigol neu fodiwl traethawd hir prosiect yn seiliedig ar waith yn arddangos eich datblygiad clinigol.

Hyrwyddwch eich gyrfa y tu hwnt i ffiniau proffesiynol traddodiadol ac ymestyn cwmpas eich ymarfer clinigol trwy astudio'r MSc Ymarfer Clinigol Uwch.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Dyluniwyd ein cyrsiau er mwyn eich darparu gyda'r wybodaeth a'r profiad y bydd angen arnoch er mwyn dechrau dilyn gyrfa goal iechyd proffesiynol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44(0) 29 2068 7538
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Academic requirements:

Typically, applicants to this programme must:

  • Be a qualified health care practitioner and normally in possession of a degree/diploma in health care.
  • Have a minimum of two years' post registration experience and work in a practice role, which involves regular patient/client contact.
  • Be registered with the appropriate statutory regulatory body (PSRB) for their profession (such as the HCPC or NMC). You will also need to secure relevant clinical placements for specific modules.
  • Submit one employer’s reference.
  • Submit a supplementary application form in order to undertake Professional, Statutory and Regulatory Bodies (PSRB) related modules.

 

A personal statement will need to be submitted with your application.

The personal statement on your application form will be considered when a decision is made on your suitability for the programme for which you have applied.

You must address the following points in your personal statement. This list is not exhaustive:

  • Why have you selected this programme?
  • What interests you about this programme?
  • Any relevant experience related to the programme or module content.
  • How you plan to use the qualification in your career.
  • How you and your profession will benefit from your studies.
  • Why you feel you should be given a place on the programme.

 

You may apply for recognition of prior learning (RPL) at level 6 or level 7 of up to 60 credits, of which ONLY 30 credits can be at level 6.

RPL is considered through mapping of learning outcomes of comparable modules. You will only be able to RPL a level 6 module if it maps to module NR3177b. Please contact the MSc Advanced Clinical Practice Programme Manager to discuss RPL queries.

If you intend to apply for recognition for prior learning, this will need to be submitted with your application.

For further information regarding RPL, please see the RPL policy

 

English Language requirements:

IELTS with an overall score of 6.5 and at least 5.5 in all subskills. Please see our English Language Requirements guidance for more details.

Please note that applicants with an IELTS score of overall 6.0 may be eligible for an offer based upon attendance on pre-sessional English language course offered by Cardiff University. Please be advised that places on these courses are limited so please apply early. Further information can be accessed via the following link: http://www.cardiff.ac.uk/study/international/english-and-foundation-programmes/english-language-programmes/pre-sessional-summer-courses

 

Application deadline:

End of July of each academic year. Your application may be considered after this, but it may be for a later intake.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

A DBS (Disclosure Barring Service) certificate is required to undertake the following modules:

  • HCT 356 Independent/Supplementary Prescribing (core)
  • HCT 357 Independent/Supplementary Prescribing (core)
  • HCT 353 Advanced Clinical Practice Portfolio (optional)

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement
  • contact with people related to Cardiff University.

Strwythur y cwrs

Mae gan raglen yr MSc Ymarfer Clinigol Uwch dri modiwl craidd ac un modiwl dewisol (30 credyd yr un) yng nghydran y rhaglen a addysgir, ynghyd â modiwl traethawd hir 60 credyd, sy'n cyfateb i gyfanswm o 180 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.

Blwyddyn un

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cwblhau tri modiwl craidd ac un modiwl asesiad clinigol dewisol.

Blwyddyn 1, Semester 1 (Hydref)

  • Dulliau Ymchwil a Dadansoddi Data mewn Gofal Iechyd (30 credyd) (Craidd) 
  • Rhagnodi Annibynnol/Atodol (30 credyd) (Craidd)

Semester 2 (Gwanwyn)

  • Rhagnodi Annibynnol/Atodol (30 credyd) (Craidd)

Ynghyd â modiwl dewisol (dewis o un modiwl o'r rhestr ganlynol)

  • Asesiad Clinigol Uwch ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd (Semester y Gwanwyn) (30 credyd)
  • Ymarfer Uwch wrth Reoli Mân Salwch (Semester y Gwanwyn) (30 credyd)
  • Ymarferydd Cyswllt Cyntaf Cyhyrysgerbydol mewn Gofal Sylfaenol (Semester y Gwanwyn) (30 credyd)
  • Asesiad Cleifion Clinigol (Semester y Gwanwyn) (30 credyd – Lefel 6)
  • Asesiad Uwch o'r Plentyn a'r Person Ifanc (30 credyd)

Blwyddyn dau

Traethawd Hir – dewis o un modiwl:

  • Portffolio Ymarfer Clinigol Uwch (dewisol) (60 credyd)
  • Prosiect Seiliedig ar Waith (dewisol) (60 credyd)

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Cyflwynir y rhaglen gan ddefnyddio dull dysgu cyfunol, yn unol â'r Strategaeth Dysgu Digidol a ddefnyddir gan y brifysgol. Nod dysgu cyfunol yw darparu profiad ar-lein cyfoethog a gafaelgar, gan gynnwys cyfuniad o weithgareddau dysgu cydamserol ac anghydamserol ochr yn ochr ag addysgu a dysgu traddodiadol wyneb yn wyneb.

Bydd y dulliau dysgu ac addysgu a ddefnyddir yn amrywio o diwtorialau grŵp ac unigol i seminarau dan arweiniad myfyrwyr, deialog, ymchwilio gwerthfawrogol a dysgu seiliedig ar broblemau, gweithdai sgiliau, astudio hunangyfeiriedig, trafodaeth/dadl feirniadol, a darlithoedd dan arweiniad arbenigwyr.

Bydd ein rhaglen a'n modiwlau yn hwyluso dysgu rhyngbroffesiynol effeithiol a rhannu gwahanol safbwyntiau ac arbenigedd proffesiynol. Fel myfyrwyr, byddwch yn ymuno â'r rhaglen gydag ystod eang o sgiliau, ac efallai y bydd gan rai ohonoch rolau ymarferwyr uwch. Gwerthfawrogir eich profiadau clinigol a phrofiadol a chânt eu defnyddio i wella'r broses ddysgu o ran dysgu annibynnol a dysgu ar y cyd.

Mae dysgu ar lefel gradd ôl-raddedig yn golygu eich bod chi'n cymryd cyfrifoldeb am eich dysgu eich hun a byddwn yn annog hyn trwy gydol y rhaglen.

Sut y caf fy asesu?

Mae'r ffyrdd yr ydych chi'n cael eich asesu yn ymwneud â mesur eich datblygiad proffesiynol, academaidd a chlinigol. Fe'ch asesir yn y ffyrdd a ganlyn:

  • Arholiadau cyrff rheoleiddio proffesiynol a statudol
  • Aseiniadau
  • Datblygu protocolau ymchwil ar sail tystiolaeth
  • Arholiadau clinigol strwythuredig gwrthrychol
  • Dadansoddi astudiaethau achos
  • Asesiadau ymarferol
  • Cyflwyniadau llafar
  • Prosiect yn y gwaith
  • Portffolios clinigol

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi rannu syniadau â gweithwyr iechyd proffesiynol. Yn ogystal â datblygu eich galluoedd deallusol eich hun, mae'r rhannu syniadau hwn yn eich galluogi i ddysgu ac elwa ar brofiadau eraill. Rhoddir cyfle i drafod a chyfnewid syniadau trwy seminarau a thiwtorialau.

Bydd gennych gymorth academaidd a byddwch yn cael tiwtor personol drwy gydol eich astudiaethau gyda ni.

Rydym yn cynnig cyfle i chi ddod yn gynrychiolydd myfyrwyr a siapio darpariaeth addysgol yn y dyfodol a chynghori ar elfennau allweddol o'ch dysgu.

Mae pob modiwl yn y rhaglen yn gwneud defnydd helaeth o Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd ar Ddysgu Canolog, lle byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau'r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac enghreifftiau o asesiadau. Cofnodir pob darlith trwy Panopto ac maent ar gael i chi edrych arnynt trwy gydol eich rhaglen.

Mae'r brifysgol yn cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i'ch cefnogi chi. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth cwnsela myfyrwyr, gwasanaeth cynghori myfyrwyr, cyfleusterau gofal dydd, a chyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â gwybodaeth am y campws a gwasanaethau llyfrgell a TG.

Mae mwy o wybodaeth am yr hyn y gall y brifysgol ei gynnig i chi ar gael yn y ddolen ganlynol:

Bywyd myfyrwyr - Astudio - Prifysgol Caerdydd

Mae ein ap myfyrwyr yn caniatáu ichi gyrchu gwasanaethau Prifysgol Caerdydd a gwybodaeth wedi'i phersonoli mewn un lle ac mewn modd syml a chyfleus drwy ffôn clyfar, o'r siop apiau.

Dyma rai o'i nodweddion:

  • Mapiau o'r Campws
  • Adnewyddu, taliadau, ac eitemau sydd ar gael i fyfyrwyr yn y llyfrgell
  • Amserlen myfyrwyr
  • Dod o hyd i gyfrifiadur sydd ar gael
  • Cael cymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr
  • Newyddion i fyfyrwyr
  • Derbyn hysbysiadau pwysig
  • Dolenni i lansio apiau eraill y Brifysgol fel Outlook (ar gyfer e-bost) a'r bwrdd du (ar gyfer Dysgu Canolog).

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Ar ôl cwblhau rhaglen yr MSc Ymarfer Clinigol Uwch yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a dealltwriaeth:

  • Gwerthuso a syntheseiddio theori ymarfer clinigol datblygedig yn feirniadol yn eich maes ymarfer penodol.
  • Gwerthuso'n feirniadol yr agweddau ar asesiad systematig a chyfannol o anghenion cleifion a dehongli dangosyddion diagnostig i sicrhau diagnosis gwahaniaethol.
  • Archwilio'n feirniadol y wybodaeth ffarmacolegol a fferyllol glinigol gyfredol sydd ar gael sy'n berthnasol i'ch maes ymarfer eich hun.
  • Gwerthuso'n feirniadol ddimensiynau theori ac ymarfer gwella ansawdd, a gallu cymhwyso'ch gwybodaeth a sgiliau uwch yn feirniadol i'ch maes ymarfer.

Sgiliau Deallusol:

  • Arddangos dull beirniadol a systematig o werthuso tystiolaeth a llwybrau ymholi.
  • Gwerthuso a chymhwyso tystiolaeth o dechnegau newydd yn feirniadol i farn broffesiynol a gwneud penderfyniadau ym maes ymarfer clinigol uwch.
  • Dangos dealltwriaeth feirniadol o'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig ag ymarfer clinigol uwch a sgiliau datrys problemau.
  • Arddangos cymhwysiad priodol o wybodaeth feirniadol am gamau yn ymwneud â chyffuriau wrth ymarfer rhagnodi a defnyddio cyfarpar cefnogi penderfyniadau ar sail tystiolaeth yn effeithiol.
  • Arddangos agwedd fyfyriol feirniadol ac annibynnol tuag at ymarfer, gan ddadansoddi sefyllfaoedd sy'n arwain at ddadl gydlynol a pharhaus i alluogi gwella gwasanaeth ac ymarfer, a datblygiad proffesiynol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Dangos ymateb beirniadol i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol, a chychwyn, arwain a rheoli gwelliannau gwasanaeth/ansawdd, gan sicrhau trefniadaeth a dapariaeth ddiogel ac effeithiol gofal o ansawdd sy'n canolbwyntio ar y claf.
  • Dangos y gallu i gymhwyso gwybodaeth yn feirniadol o'r ffactorau pathoffisiolegol, moesegol a diwylliannol sy'n sail i'r gwaith o asesu, archwilio, ymchwilio, gwneud diagnosis a rheoli mewn perthynas â gofal ystod o gleifion yn eich arbenigedd eich hun.
  • Yn unol â gofynion cyrff rheoleiddio proffesiynol a statudol, byddwch yn dangos arfarniad beirniadol myfyriol o arfer clinigol uwch i hyrwyddo datblygiad personol a phroffesiynol.
  • Defnyddio strategaethau cyfathrebu/addysg priodol yn effeithiol i gyfathrebu a lledaenu gwybodaeth i'r claf, teuluoedd a grwpiau cleientiaid.
  • Arddangos y defnydd effeithiol o strategaethau addysgol priodol i gefnogi datblygiad tîm rhyngbroffesiynol fel rhan o'ch rôl ymarfer uwch.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Integreiddio theori ag ymarfer proffesiynol.
  • Syntheseiddio gwybodaeth/data o amrywiaeth o ffynonellau.
  • Arfarniad beirniadol o ymchwil.
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich dysgu a datblygiad personol a phroffesiynol eich hun
  • Sgiliau rheoli prosiect ac amser annibynnol.
  • Gweithio'n annibynnol.
  • Dadansoddi, dehongli, cyfuno a gwerthuso data.
  • Datrys problemau a dod i gasgliadau / cynnig argymhellion realistig.
  • Cyfleu syniadau mewn modd cryno a chlir.
  • Arddangos llythrennedd digidol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £8,950 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Mae lleoliad GIG yn rhan angenrheidiol o'r cwrs hwn. Mae'r GIG yn trefnu lleoliadau sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n gymwys i dalu ffioedd DU yn unig. Felly, nid yw'r cwrs hwn ar gael ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Modiwlau Rhagnodi Annibynnol/Atodol ac Portffolio Ymarfer Clinigol Uwch - cost y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Fel gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, gallwch ddefnyddio'r arbenigedd a'r sgiliau a ddatblygwyd ar y rhaglen i ddatblygu a darparu ymarfer ar sail tystiolaeth yn eich maes ymarfer clinigol. Bydd ein rhaglen yn eich galluogi i arallgyfeirio, ehangu a datblygu eich hun yn bersonol ac yn broffesiynol a bydd hefyd yn eich rhoi mewn gwell sefyllfa i wneud cais am ddyrchafiad gyda gwell hyder ac arbenigedd.

Mae rhai o'r rolau y mae ein graddedigion a'n cyn-fyfyrwyr o'r rhaglen MSc Ymarfer Uwch flaenorol wedi eu cael yn dilyn y rhaglen yn cynnwys y canlynol:

  • Uwch-ymarferydd Nyrsio
  • Parafeddyg Uwch
  • Darlithydd / Darlithydd Cyswllt
  • Ymgynghorydd Nyrsio
  • Cydymaith Ymchwil
  • Datblygu gwasanaethau sydd wedi gwella diogelwch cleifion a boddhad cleifion
  • Gweithio fel Ymarferydd Gofal Critigol Uwch y Gyfadran Meddygaeth Gofal Dwys.

Lleoliadau

Bydd angen i chi gael eich cyflogi a bod yn ymarfer mewn amgylchedd clinigol yn y Deyrnas Unedig i ymuno â'r rhaglen hon. Bydd gofyn i chi ddangos tystiolaeth o oriau clinigol yn eich amgylchedd clinigol eich hun ar gyfer y modiwlau canlynol:

  • Mae Asesiad Clinigol Uwch ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd yn gofyn am o leiaf 45 awr o ymarfer dan oruchwyliaeth yn eich maes asesu (dewisol).
  • Mae Ymarferydd Cyswllt Cyntaf Cyhyrysgerbydol mewn Gofal Sylfaenol yn gofyn i chi ymarfer o dan arweiniad uniongyrchol eich Ymarferydd Goruchwylio Dynodedig am o leiaf 30 awr yn ystod y modiwl (dewisol).
  • Mae modiwlau Rhagnodi Annibynnol/Atodol yn gofyn am 78 awr o ymarfer cysylltiedig yn eich ardal ragnodi (craidd).
  • Mae modiwl Portffolio Ymarfer Clinigol Uwch yn mynnu bod gennych asesiad clinigol parhaus gan ddefnyddio'ch cymwyseddau clinigol. Bydd hyn yn cynnwys arholiadau clinigol strwythuredig gwrthrychol (OSCEs) ffurfiannol, a thrafodaethau ar sail achosion (dewisol).

Arian

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig

Os ydych yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2023 neu ar ôl hynny, gallech wneud cais am arian i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad i Gynfyfyrwyr

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2023/24.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Gwyddorau gofal iechyd


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.