Ewch i’r prif gynnwys

UA 3 Proffesiynau Iechyd Perthynol, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth

Mae’r Uned Asesu hon yn cynnwys màs critigol o ymchwilwyr o bum Ysgol Academaidd sy’n rhan o Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd.

Mae enghreifftiau o'n hymchwil yn cynnwys datblygu triniaethau therapiwtig newydd ar gyfer canser, datblygu safonau rhyngwladol ar gyfer gweithgynhyrchu llieiniau gwrthfacterol a llywio strategaethau i leihau troseddu treisgar.

Barnwyd bod 91% o'n hallbwn yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol, a rhoddwyd y sgôr uchaf bosibl (4.0) i ni ar gyfer ein hamgylchedd ymchwil. Drwy sicrhau sgôr Cyfartaledd Pwynt Gradd gyffredinol o 3.39, cafodd ein hymchwil ryngddisgyblaethol ei rhoi yn y 16eg safle (allan o 90) ar gyfer ansawdd. Mae hynny, ynghyd â maint yr ymchwil yn yr Uned hon, yn ein rhoi yn y 4ydd safle (allan o 90) ar gyfer Pŵer Ymchwil (sy’n arwydd o ansawdd a maint ein cyflwyniad).

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd% 4 seren% 3 seren% 2 seren% 1 seren% Diddosbarth
Cyfanswm48.043.09.00.00.0
Allbynnau46.445.08.00.60.0
Effaith22.261.116.70.00.0
Amgylchedd100.00.00.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Ein cenhadaeth yw creu gwybodaeth biofeddygol ac iechyd newydd y cydnabyddir ei bod yn rhagorol yn rhyngwladol, sy'n gwireddu budd cymdeithasol drwy hyrwyddo iechyd unigolion a phoblogaeth yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a ledled y byd.

Ers REF 2014, mae ein hymchwil wedi dod at ei gilydd o gwmpas 3 llinyn ymchwil rhyngddisgyblaethol rhyng-gysylltiedig; systemau biolegol, diagnosteg a therapïau (BDST), adsefydlu, deunyddiau a dyfeisiau uwch (RAMD), a systemau gofal ac iechyd sy'n canolbwyntio ar bobl (PCHS). Caiff y rhain eu gwella gan draws-uned helaeth o gydweithredu asesu (er enghraifft gyda Meddygaeth Glinigol, Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddorau; Gwyddorau Biolegol, a Pheirianneg ).

Ers REF 2014 rydym wedi sicrhau £142 miliwn mewn dyfarniadau ymchwil ac wedi buddsoddi £15 miliwn mewn cyfleusterau a thechnolegau newydd.

Mae ein canolfannau ymchwil yn galluogi cyd-greu ymchwil sy'n mynd i'r afael ag anghenion cleifion a'r cyhoedd. Ymhlith y rhain y mae’r canlynol:

  • Canolfan Treialon Ymchwil, Uned Cydweithredu Ymchwil Clinigol sydd wedi'i chofrestru yn y DU, a sefydlwyd yn 2015 gyda chyllid craidd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac Ymchwil Canser y DU
  • ein Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau newydd gwerth £12 miliwn a ddaeth ag arbenigedd diwydiannol a thechnegol sylweddol i ddarganfod cyffuriau yn ogystal â gwybodaeth wrth fynd ag ymgeiswyr cyffuriau o'r cysyniad i'r treial clinigol
  • mae ein Canolfan Ragoriaeth Biomecaneg a Biobeirianneg Versus Arthritis yn hyrwyddo triniaeth ac adsefydlu cleifion ag arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol eraill, drwy gydweithio rhwng gwyddonwyr biofeddygol, gofal iechyd a fferyllol, peirianwyr a chlinigwyr.

Rydym yn canolbwyntio'n gryf ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ynghyd â chymorth gyrfaol wedi'i dargedu, o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i academyddion uwch. Gwnaethom gynyddu amrywiaeth staff (50% o staff benywaidd yn REF 2021 o'i gymharu â 33% yn REF2014) a phontio 23 o ymchwilwyr gyrfa gynnar i annibyniaeth (65% yn fenywod).

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Mae UA 3 yn cynnwys arbenigedd ymchwil 5 ysgol, y mae pob un ohonynt yn mwynhau diwylliant ymchwil cynhwysol a bywiog gyda'r gwaith sy'n cael ei wneud yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd y boblogaeth.

Students conducting research in a lab

Ymchwil yn yr Ysgol Deintyddiaeth

Mae ein hymchwil sy'n arwain y byd yn cyfrannu at wella iechyd a lles cymdeithas.

Dau heddweision

Ein heffaith fyd-eang

Mae gan ein hymchwil effaith cryf ar draws sawl maes, gwella triniaeth glinigol a gwasanaethau er budd i’r gymdeithas.

Ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Mae ein hymchwil, sydd yn y 4edd safle yn y DU, yn gwella, dylanwadu ac yn llywio gofal iechyd ledled Cymru a thu hwnt,

Impact

Effaith ymchwil Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Mae ein harbenigedd ymchwil a'n partneriaethau strategol yn ein galluogi i fynd i'r afael â heriau gofal iechyd pwysig yr 21ain ganrif.

Laboratory Research

Ymchwil yn yr Ysgol Meddygaeth

Caiff ein hymchwil meddygol ei sbarduno gan greadigrwydd a chwilfrydedd.

Impact

Effaith ymchwil yr Ysgol Meddygaeth

Gallwch weld sut mae ein hymchwil meddygol a’n harloesi clinigol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Optom research image

Ymchwil yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg

Rydym ni’n hwyluso’r gwaith o ddatgelu, diagnosio, monitro a thrin anhwylderau ar y golwg drwy ymchwil arloesol.

Maggie DS

Effaith ymchwil yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg

Our research delivers advances in fundamental knowledge, impact on clinical practice and improvements in quality of life.

Pharmacy pipettes

Ymchwil yn yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

Mae ein hymchwil i wyddoniaeth fferyllol a’n hymchwil yn gysylltiedig ag iechyd yn rhychwantu’r continwwm cyfan, o ymchwil sylfaenol i wyddoniaeth drawsfudol gymwysedig ac ymarfer clinigol.

Scientist examining liquid in lab

Effaith ymchwil yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

Rydym ni’n cydweithio gyda diwydiant, addysg, y llywodraeth a grwpiau cyhoeddus i sicrhau bod ein hymchwil yn cael effaith yn y byd real a’i fod o fudd i iechyd a lles dynol (cynnwys Saesneg).