Ewch i’r prif gynnwys

UA 1 Meddygaeth Glinigol

Mae ein hymchwil yn yr Uned Asesu hon, sy’n canolbwyntio ar y gwyddorau biofeddygol, trosi clinigol a meddygaeth arbrofol, yn sicrhau canlyniadau iechyd gwell i gleifion. Mae’n ymestyn dros feysydd allweddol canser, imiwnoleg, clefydau heintus ac imiwnedd ac anhwylderau genetig.

Gwnaethom sicrhau sgôr Cyfartaledd Pwynt Gradd gyffredinol o 3.18, ac ystyriwyd bod 92% o’n hymchwil naill ai’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Sgoriodd ein hamgylchedd ymchwil 3.13, sy'n welliant sylweddol ar REF 2014.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd% 4 seren% 3 seren% 2 seren% 1 seren % Diddosbarth
Cyfanswm27.065.07.01.00.0
Allbynnau32.253.912.90.50.5
Effaith21.478.60.00.00.0
Amgylchedd12.587.50.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Rydym wedi creu hunaniaeth amlddisgyblaethol ar gyfer ein hymchwil glinigol gan gynnwys gwaith a wnaethpwyd gyda chydweithwyr a ddychwelwyd yn unedau asesu 3, 4 a 5.

Bu buddsoddiadau o bwys ers REF 2014, gan gynnwys:

  • Mynediad at seilwaith uwchgyfrifiadura prifysgolion i Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau, Cadeirydd Sêr Cymru mewn Meddygaeth Systemau, a Pharc Geneteg Cymru. Rhaglenni hyfforddi pwrpasol gan Uwchgyfrifiadura Cymru ar gyfer myfyrwyr ymchwil ar ddechrau eu gyrfa ac ôl-raddedigion ymchwil.
  • Sefydliad Ymchwil Dementia y DU gydag UA4
  • Partneriaeth Arloesedd Clinigol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sy'n cysylltu diwydiant a'r GIG. Fe wnaeth y bartneriaeth hon gynorthwyo dros 170 o brosiectau ac, yn 2018, fe sicrhaodd arian o Gronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop (EDRF) i sefydlu Cyflymydd Arloesedd Clinigol gan ddarparu cyllid datblygu ar gyfer diagnosteg glinigol newydd.
  • Creu'r Ganolfan Ymchwil Treialon drwy gyfuno 3 Uned Ymchwil Glinigol gofrestredig yn y DU a symleiddio'r broses o ddarparu astudiaethau clinigol , ochr yn ochr ag UA3.

Yn ystod cyfnod REF 2021, cynyddodd ein hincwm ymchwil gan gynghorau ymchwil, diwydiant a ffynonellau tramor, 68% i £140.1m.  Fe wnaeth nifer ein staff gynyddu’n sylweddol drwy wneud 24 o benodiadau newydd, 31 o ymchwilwyr ar ddechrau eu  gyrfa a chynlluniau ôl-raddedig cynaliadwy a ddenodd 130 yn rhagor o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig cyn dechrau'r pandemig.

Gan fynd i'r afael â'r heriau iechyd allweddol sy'n effeithio ar gymdeithas, fe wnaethom greu cymuned ymchwil gynaliadwy a chynhwysol i ddefnyddio ymchwil darganfod at ddibenion arloesedd clinigol yn y dyfodol ac er budd cleifion. Mae'r dull hwn wedi ein gwneud yn fwy cystadleuol wrth wneud ceisiadau am gyllid ac adnoddau newydd gan y llywodraeth , diwydiant ac elusennau.

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Cefnogir ein hymrwymiad i ragoriaeth ymchwil trwy grwpiau ac unedau ymchwil cryf sy'n cyfieithu'n uniongyrchol o'r labordy i'r byd go iawn.

Laboratory Research

Ymchwil yn yr Ysgol Meddygaeth

Caiff ein hymchwil meddygol ei sbarduno gan greadigrwydd a chwilfrydedd.

Impact

Effaith ymchwil yr Ysgol Meddygaeth

Gallwch weld sut mae ein hymchwil meddygol a’n harloesi clinigol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.