Ewch i’r prif gynnwys

UA 14 Daearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar gynllunio, llywodraethu a chynaliadwyedd dinasoedd, rhanbarthau a mannau gwledig. Rydym ni'n cwmpasu ystod eang o arbenigedd ymchwil, o sefydlu fframweithiau polisi byd-eang ar gyfer ymchwil ac ymyrraeth ar fwyd trefol cynaliadwy, i lunio deddfwriaeth digartrefedd yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn mabwysiadu ymagwedd ryngddisgyblaethol sydd wedi’i hymgorffori, yn ogystal ag agenda ymchwil sy’n mynd i’r afael â pholisïau. Ar gyfer REF 2021, cyflwynom ni ddwywaith cymaint o ymchwilwyr i'r uned hon o'i gymharu â 2014.

Rydym yn y 9fed safle yn y DU ar gyfer pŵer ymchwil – arwydd o raddfa ac ansawdd ein cyflwyniad. Ystyrir bod 90% o'n cyflwyniad yn cael effaith eithriadol neu sylweddol iawn o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hyn.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd% 4 seren% 3 seren% 2 seren% 1 seren% Diddosbarth
Cyfanswm 25.053.022.00.00.0
Allbynnau17.758.923.40.00.0
Effaith50.040.010.00.00.0
Amgylchedd12.550.037.50.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Rhennir ein gwaith yn 4 Grŵp Ymchwil: Bydoedd Economaidd a Gwleidyddol; Yr Amgylchedd; Daearyddiaeth Gymdeithasol a Diwylliannol; a Chynllunio a Dadansoddi Gofodol mewn Cyd-destunau Dinesig.

Mae prosiectau’n cynnwys yr ymatebion corfforaethol i Brexit, diogelwch bwyd, digartrefedd, effaith amgylcheddol digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol, a newid hinsawdd a llifogydd.

Yn ystod cyfnod y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) dyfarnwyd cyllid i ni a oedd yn cyfateb i £7.15m. Roedd hyn yn cynnwys 36 grant gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, chwe grant gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, dau grant gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, tri grant gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, un Grant o’r Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang ac un grant gan y Cyngor Ymchwil Feddygol. Ymhlith rhai eraill, cafwyd hefyd chwe grant gan yr Academi Brydeinig, saith grant gan y Cyngor Prydeinig, saith grant gan Gomisiwn y Cymunedau Ewropeaidd a thri grant gan Ymddiriedolaeth Leverhulme. Yn 2019, buom yn llwyddiannus gyda chais o bwys ar gyfer Arweinwyr Dyfodol Ymchwil ac Arloesedd y DU.

Mae gennym bartneriaethau ffurfiol gyda chyrff proffesiynol pwysig ym meysydd daearyddiaeth ddynol a chynllunio gofodol gan gynnwys y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.

Mae gennym rwydwaith byd-eang estynedig o gyd-ymchwilwyr a phartneriaid ymchwil yn Ewrop, America, Asia, Affrica a'r Dwyrain Canol, o dros 40 o wledydd.

Rydym yn rhan o Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARC), parc gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd, sydd ar ein campws arloesedd gwerth £300 miliwn.

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Mae ein hymchwil wedi'i threfnu o amgylch pedwar grŵp ac mae ein gweithgarwch ymchwil yn cael effaith fawr wrth lunio dadleuon polisi perthnasol a dylanwadu ar agendâu rhyngwladol.

aerial view of Cardiff showing teh castle and stadium and environs

Diwygio deddfwriaeth digartrefedd yng Nghymru

Arweiniodd ymchwil Dr Pete Mackie i ddeddfwriaeth digartrefedd Cymru at Ddeddf Tai (Cymru) 2014, ac mae wedi llywio dadleuon polisi yn yr Alban, Canada ac Awstralia.

City skyline and park

Ymchwil yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Rydym yn chwarae rhan flaenllaw mewn ymchwiliad academaidd sy'n gysylltiedig â datblygiad, rheolaeth a chynaliadwyedd dinasoedd, rhanbarthau a mannau gwledig.

Effaith ymchwil yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Mae ein gweithgaredd ymchwil wedi ei selio’n fras ac yn tynnu ar wyddor gymdeithasol ryngddisgyblaethol, ac yn enwedig y cysylltiadau rhwng daearyddiaeth ddynol a chynllunio a dadleuon polisi perthnasol.