Ewch i’r prif gynnwys

UA 33 Astudiaethau Cerddoriaeth, Drama, Dawns, Celfyddydau Perfformio, Ffilm a Sgrîn

Rydym yn gwneud cyfraniad hanfodol i’r ddisgyblaeth yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol trwy ein hymchwil mewn astudiaethau ffilm, cerddoriaeth boblogaidd ac estheteg. Adlewyrchir ehangder ein harbenigedd academaidd yn ein cyflwyniad, gydag effaith yn dod o berfformiad operatig prif ffrwd i draddodiadau drymio Ciwba sy'n bwysig yn ddiwylliannol. Mae gennym gymuned ymchwil amrywiol a bywiog sy'n llywio dadleuon cyhoeddus ac ysgolheigaidd.

Adlewyrchir cryfder effaith ein hymchwil yn ein sgôr o 3.75, gyda 75% yn cael ei ystyried yn eithriadol o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd. Ystyrir bod 90% o'n hamgylchedd ymchwil yn ffafriol i gynhyrchu ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n rhagorol yn rhyngwladol.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd 4 seren 3 seren 2 seren 1 serenDiddosbarth
Cyfanswm42.034.021.03.00.0
Allbynnau32.630.232.54.70.0
Effaith75.025.00.00.00.0
Amgylchedd27.562.510.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Yr Ysgol Cerddoriaeth yw un o’r adrannau cerddoriaeth mwyaf ym mhrifysgolion y DU. Mae’n cynnal ei henw da rhyngwladol ac yn gwneud cyfraniad nodedig i’r ddisgyblaeth drwy annog cyfnewid deallusol ar draws is-ddisgyblaethau cyfansoddi, perfformio, ethnogerddoleg, cerddoleg, astudiaethau cerddoriaeth boblogaidd a ffilm.

Rydym yn gwneud cyfraniad hanfodol i’r ddisgyblaeth yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol trwy ein prif feysydd ymchwil, ac mae gennym gryfderau ychwanegol ym meysydd astudiaethau ffilm, cerddoriaeth boblogaidd ac estheteg. Mae gennym gymuned ymchwil amrywiol a bywiog sy'n llywio dadleuon cyhoeddus ac ysgolheigaidd.

Mae ein cyfleusterau’n cynnwys: neuadd gyngerdd 250 sedd, gydag organ, pianos mawreddog Bösendorfer a Steinway, cyfleusterau recordio o safon broffesiynol, system glyweledol a ddiweddarwyd yn 2019, 3 darlithfa a phedair stiwdio electroacwstig (gan gynnwys prif stiwdio recordio’n sydd ag offer llawn o safon y diwydiant ac ystafell gysylltiedig ar gyfer recordio amldrac a Goruchwyliwr Technegol pwrpasol), 26 ystafell ymarfer, 3 ystafell ensemble, ac ystafell Mac gyda'r meddalwedd Sibelius ddiweddaraf.

Yn ystod cyfnod y REF cawsom £325,000 gan gyllidwyr academaidd a £155,000 o ffynonellau eraill megis sefydliadau ac ymddiriedolaethau cerddorol a diwylliannol.

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Rydym yn dathlu amrywiaeth greadigol a deallusol trwy arbenigeddau ymchwil eang ond rhyng-gysylltiedig sydd â chyrhaeddiad y tu hwnt i'r byd academaidd.

Carmen Georges Bizet

Trawsnewid perfformiadau o ‘Carmen’ ar lwyfannau’r byd

Mae ymchwil yr Athro Clair Rowden wedi creu ffyrdd newydd o feddwl am un o'r operâu a berfformir amlaf ledled y byd, Carmen.

Sheet music

Ymchwil yn yr Ysgol Cerddoriaeth

Rydym yn ganolfan uchelgeisiol sydd wedi ymrwymo i wneud gwaith ymchwil, cyfansoddi a pherfformio.

125 Anniversary concert

Effaith ymchwil yr Ysgol Cerddoriaeth

Rydym wedi ymrwymo i gyfathrebu ein hymchwil y tu hwnt i'r byd academaidd ac i ddylanwadu ar ymarfer creadigol.