Ewch i’r prif gynnwys

Gwybodaeth am y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF)

Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r system a ddefnyddir yn y DU i asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.

Fe'i cynhelir bob ryw 6-7 mlynedd er mwyn:

  • asesu ansawdd ymchwil ar draws sefydliadau addysg uwch y DU
  • dangos ansawdd ac allbwn ymchwil ar lwyfan domestig a byd-eang
  • dangos yr effaith y mae ymchwil yn ei chael ar y byd academaidd a’n cymdeithas, yn ogystal ag amlygu ei manteision yn y byd go iawn.

Mae’r 4 corff sy’n cyllido addysg uwch yn y DU yn defnyddio’r REF fel sail ar gyfer dyrannu tua £2 biliwn o gyllid ymchwil y flwyddyn. Mae’r ymarfer yn cael ei gynnal mewn modd hynod drylwyr fel bod atebolrwydd am fuddsoddiad cyhoeddus mewn ymchwil, ac er mwyn dangos ei manteision a'i heffaith.

Fe wnaeth REF 2021 asesu ansawdd ymchwil ym mhrifysgolion y DU a gymerodd ran, ym mhob disgyblaeth.

Proffil cyffredinol o ansawdd: diffiniadau o'r lefelau serennog

CanlyniadDiffiniad
Pedair seren Ar flaen y gad o ran gwreiddioldeb, pwysigrwydd a thrylwyredd.
Tair seren Ar lefel ryngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd ond sydd ychydig yn is na’r safonau rhagoriaeth uchaf.
Dwy seren Cydnabyddiaeth ryngwladol o ran gwreiddioldeb, pwysigrwydd a thrylwyredd.
Un seren Cydnabyddiaeth genedlaethol o ran gwreiddioldeb, pwysigrwydd a thrylwyredd.
Diddosbarth (UC) Is na safon gwaith a gydnabyddir yn genedlaethol. Neu waith nad yw'n bodloni'r diffiniad cyhoeddedig o ymchwil at ddibenion yr asesiad hwn.

Ewch i wefan REF am ragor o wybodaeth.