Ewch i’r prif gynnwys

UA 11 Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Gan gyflawni sgôr cyffredinol o 3.41, mae canran ein cyflwyniad cyffredinol sydd wedi’i asesu fel ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol, wedi cynyddu i 96%.

Mae ein hymrwymiad i weithio gyda diwydiant a phartneriaid eraill i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith yr aseswyd bod 100% o effaith ein hymchwil yn eithriadol neu'n hynod arwyddocaol.  Yn ogystal â chynyddu ein cyfartaledd pwynt gradd (GPA) ar gyfer pob maes, mae ein pŵerymchwil (dangosydd o raddfa ac ansawdd ein cyflwyniad) wedi treblu ers REF 2014.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd% 4 seren% 3 seren% 2 seren% 1 seren% Diddosbarth
Cyfanswm45.051.04.00.00.0
Allbynnau42.151.86.10.00.0
Effaith62.537.50.00.00.0
Amgylchedd25.075.00.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Mae ein hymchwil wedi ei threfnu’n dri grŵp blaenoriaeth: Deallusrwydd artiffisial a dadansoddeg data; Seiberddiogelwch, preifatrwydd a chyfrifiadura sy'n canolbwyntio ar bobl; Cyfrifiadura gweledol.

Ers REF 2014 mae cyd-destun ymchwil yr Ysgol wedi newid yn llwyr a bellach mae'r Ysgol bron wedi dyblu o ran maint. Rydyn ni wedi symud i adeilad pwrpasol newydd gwerth £39 miliwn ar y cyd â'r Ysgol Mathemateg o'r enw Abacws,  i hwyluso’r broses o ryngweithio rhwng disgyblaethau a rhoi rhyddid newydd i'n grwpiau ymchwil ddatblygu diwylliant ymchwil a meithrin hunaniaeth.

Mae ein hethos o greu partneriaethau rhyngddisgyblaethol wedi arwain at arwain ac ymgysylltu â phum canolfan ymchwil prifysgol sy'n cwmpasu Gwyddor Data, Seiberddiogelwch, Deallusrwydd Artiffisial, Troseddu a Diogelwch, a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Rydyn ni wedi datblygu sawl perthynas strategol gref â chwmnïau megis Airbus, IBM, SYG a Phrifysgol Tsinghua sydd wedi helpu i lunio agweddau ar ein hagenda ymchwil, gan arwain at fwy na £2 filiwn o gyllid, ac mae hyn wedi creu effaith ryngwladol sydd wedi cyrraedd yr Unol Daleithiau a Tsieina.

Mae'r gweithgarwch hwn wedi cryfhau ein henw da a'n dylanwad, a phenodwyd ein harbenigwyr i rolau arwain, er enghraifft ar gyfer rhaglen y Gynghrair Technoleg Ryngwladol ym maes Dadansoddeg Wedi’i Dosrannu a Gwyddoniaeth Gwybodaeth (DAIS ITA), Cymdeithas Deallusrwydd Artiffisial Ewrop ac Uwchgyfrifiadura Cymru.

Mae ein hincwm ymchwil wedi parhau i dyfu yn ystod y cyfnod REF sef cyfanswm o £15 miliwn, gan gynnwys  51 o grantiau Cyngor Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), 24 o grantiau a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd (UE) a 26 gan fyd diwydiant.

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Darganfyddwch sut mae ein meysydd blaenoriaeth yn canolbwyntio ar dueddiadau sy'n dod i'r amlwg yn ein disgyblaeth sy'n esblygu'n gyflym i gynnal ymchwil effeithiol sy'n edrych ar broblemau'r byd go iawn sy'n arwain at ganlyniadau cadarnhaol i unigolion, cymunedau a chymdeithas yn gyffredinol.

Visualisation of a data strand

Canfod DNA ymosodiadau seibr

Mae cydweithrediad rhwng yr Athro Pete Burnap ac Airbus wedi arwain at ffordd hollol newydd o ganfod ac atal meddalwedd maleisus.

Abacws Research Homepage

Ymchwil

Gwybodaeth am ein hymchwil o'r radd flaenaf mewn systemau cymhleth, peirianneg data a gwybodaeth a chyfrifiadura gweledol.

Effaith

Our work has an impact across numerous multidisciplinary areas.