Ewch i’r prif gynnwys

UA 19 Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol

Mae ein hymchwil yn ymgysylltu â gwead polisi ac ymarfer cenedlaethol a rhyngwladol gyda chryfderau craidd mewn gwleidyddiaeth, datganoli, hanes syniadaeth wleidyddol a chysylltiadau rhyngwladol.  Mae ein harbenigedd yn amrywio o ymgorffori cloddio gwely dwfn y môr ym mholisi Economi Las Affrica, i faterion gwleidyddol cenedlaethol datganoledig, megis ail-lunio etholfraint, maint a system etholiadol Senedd Cymru.

Cawsom y sgôr uchaf posibl o 4.0 ar gyfer ein heffaith ymchwil. Un o nodweddion allweddol yr uned hon yw bod 100% o'n hamgylchedd ymchwil yn ffafriol i gynhyrchu ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n rhagorol yn rhyngwladol. Ystyrir bod dros 80% o'n cyflwyniad yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol o ran gwreiddioldeb ac arwyddocâd.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd % 4 seren % 3 seren % 2 seren % 1 seren% Diddosbarth
Cyfanswm38.044.017.01.00.0
Allbynnau19.050.627.92.50.0
Effaith100.00.00.00.00.0
Amgylchedd12.587.50.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Mae ymchwilwyr Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol yn ymwneud â pholisïau ac arferion cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae’r adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi’i thrawsnewid ers REF2014, ar ôl iddi uno ag Ysgol y Gyfraith. Fe sefydlwyd Ysgol y Gyfraith, Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn 2014, gyda'r nod o wella cyfleoedd ar gyfer ymchwil ryngddisgyblaethol. Mae'r Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn rhan o’n cyflwyniad ar gyfer UA19.

Mae ein hymchwil ar flaen y gad o ran gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol. Mae ei chryfderau ym meysydd diogelwch rhyngwladol ac astudiaethau strategol, gwleidyddiaeth Cymru, Prydain ac Ewrop, (gan gynnwys llywodraethu datganoledig ac aml-lefel), syniadau gwleidyddol, ôl-drefedigaethedd a damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, cysylltiadau rhyngwladol ffeministaidd, gwleidyddiaeth amgylcheddol fyd-eang, hanes y Rhyfel Oer, a'r berthynas rhwng cyfraith ryngwladol a chysylltiadau rhyngwladol.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â llunwyr polisïau, yn genedlaethol ac yn fyd-eang, er mwyn cael effaith er gwell ar yr agenda ymchwil. Mae galw mawr am ein harbenigedd gan lunwyr polisïau ym mhrifddinasoedd datganoledig Caerdydd, Caeredin, a Belfast, yn ogystal ag yn Whitehall, San Steffan, a sefydliadau Ewropeaidd. Rydym yn aml yn cael ceisiadau i gyfrannu tystiolaeth arbenigol ar lefelau Cymru a’r DU. Rydym wedi meithrin partneriaethau gyda sefydliadau rhyngwladol, fel NATO a’r Cenhedloedd Unedig.

Fe wnaethom ehangu’r adran yn 2016 ac rydym wedi gweithio’n galed i arallgyfeirio ein cymuned ymchwil.

Mae ein hehangiad strategol wedi ein galluogi i fwy na dyblu ein hincwm grant ymchwil o £904,265 yn REF2014, i £1,904,469 yn REF2021.

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Mae ein hymchwil wedi’i grwpio’n glystyrau cydberthynol a chyflenwol sy’n cynnwys academyddion sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol ac sydd wedi’u hymgorffori mewn rhwydweithiau yn y DU, yn Ewrop ac yn fyd-eang.

Welsh flag

Gwella democratiaeth yng Nghymru

Mae gwaith ein hacademyddion ar ddiwygio'r Senedd, ei hetholfraint a'i system etholiadol wedi arwain at y bleidlais ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed, gan osod y seiliau ar gyfer rhagor o  ddiwygiadau sylweddol o ran maint y Senedd a’i threfniadau etholiadol.

Ymchwil yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Cynnal ymchwil ddeinamig sy'n edrych at y dyfodol mewn amgylchedd gwirioneddol ryngddisgyblaethol. Dysgu gydag academyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol, wedi'u hymgorffori yn y Cenhedloedd Unedig, NATO, G7 a Llywodraeth Cymru.

Effaith ymchwil Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae ein hymchwilwyr yn rhan o rwydweithiau'r DU, Ewrop a'r byd ac yn weithgar mewn nifer o gymdeithasau proffesiynol allweddol.