Ewch i’r prif gynnwys

UA 18 Y Gyfraith

Mae ein hymchwil yn pwysleisio cydweithio rhyngddisgyblaethol ac ymgysylltiad dinesig a pholisi cryf. Mae hyn drwy ein cyfraniadau i drafodaethau cyfoes pwysig megis cyfiawnder byd-eang a llywodraethu aml-lefel, cynaliadwyedd amgylcheddol, iechyd a lles, hawliau dynol, cyfiawnder cymdeithasol, troseddu a diogelwch. Rydym yn Ysgol y Gyfraith flaenllaw ar gyfer astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol a'r gyfraith mewn cyd-destun.

Rydym ni'n 15fed yn y DU, gyda GPA cyffredinol o 3.34. Gyda sgôr o 3.75, gosodwyd ein hamgylchedd ymchwil rhagorol yn 5ed. Mae’r ffaith ein bod yn y 6ed safle am effaith ein hymchwil yn adlewyrchiad o effaith gyfunol a phwysigrwydd cymdeithasol ehangach ein gwaith.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd % 4 seren % 3 seren % 2 seren % 1 seren% Diddosbarth
Overall 53.030.015.02.00.0
Outputs 33.637.326.42.70.0
Impact 87.512.50.00.00.0
Environment75.025.00.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Fe sefydlwyd Ysgol y Gyfraith, Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn 2014, gyda'r nod o wella cyfleoedd ar gyfer ymchwil ryngddisgyblaethol, trwy uno adran y Gyfraith â Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae adran y Gyfraith yn rhan o’n cyflwyniad ar gyfer UA18.

Mae gennym enw da am ymchwil gymdeithasol-gyfreithiol. Yn ystod y cyfnod REF hwn fe wnaethom greu Canolfan y Gyfraith a Chymdeithas. Fe’i hadeiladwyd ar sylfaen Cyfnodolyn y Gyfraith a Chymdeithas a sefydlwyd yn yr ysgol ym 1974.

Rydym yn cael ein hysgogi gan ymrwymiad i ymgysylltu â’r cyhoedd d a gwasanaeth cyhoeddus. Rydym yn gweithio gyda llywodraethau datganoledig a chenedlaethol, sefydliadau cymdeithas sifil (er enghraifft yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur; Amnest Rhyngwladol) a chyrff rhyngwladol (er enghraifft, yr UE; y Cenhedloedd Unedig; Cynhadledd Hague ar Gyfraith Ryngwladol Breifat).

Rydym yn rhannu ein harbenigedd â'r gymuned ehangach, ac yn dylanwadu ar brosesau barnwrol, deddfwriaethol a pholisïau, yn ogystal â galluogi grwpiau defnyddwyr i ddatblygu eu nodau yn well.

Fe wnaeth ein hymchwilwyr sicrhau cyllid allanol gwerth £3.66m o nifer o ffynonellau gan gynnwys y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, Ymddiriedolaeth Nuffield, Wellcome a'r Academi Brydeinig.

Ein nod yw cynnig yr adnoddau a’r gefnogaeth er mwyn i bawb allu cynhyrchu ymchwil ragorol a chyfrannu at wella'r gyfraith, deilliannau polisïau, a chymdeithas.

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Rydym yn cael ein llywio gan gwestiynau trawswladol sy'n effeithio arnom i gyd megis llywodraethu byd-eang a chenedlaethol, cynaliadwyedd amgylcheddol, cyfiawnder byd-eang, rheoleiddio masnachol, cysylltiadau cyfreithiol rhyngwladol, ac ôl-wladoli.

Cryfhau hawliau a chyfranogiad o dan gyfraith galluedd meddyliol

Roedd gwaith Dr Lucy Series a’i chydweithwyr ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn gyfrifol am atgyfnerthu hawliau a chyfranogiad pobl y gellir ystyried nad oes ganddynt alluedd i wneud neu gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu bywydau.

Ymchwil yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Cynnal ymchwil ddeinamig sy'n edrych at y dyfodol mewn amgylchedd gwirioneddol ryngddisgyblaethol. Dysgu gydag academyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol, wedi'u hymgorffori yn y Cenhedloedd Unedig, NATO, G7 a Llywodraeth Cymru.

Effaith ymchwil Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae ein hymchwilwyr yn rhan o rwydweithiau'r DU, Ewrop a'r byd ac yn weithgar mewn nifer o gymdeithasau proffesiynol allweddol.