Ewch i’r prif gynnwys

UA 7 Systemau’r Ddaear a’r Gwyddorau Amgylcheddol

Gan gyflawni sgôr cyffredinol o 3.57, mae ein huned yn helpu i lunio’r dirwedd ymchwil, gan fynd i’r afael â rhai o’r heriau byd-eang mwyaf arwyddocaol ym maes Gwyddorau’r Ddaear a Gwyddorau Amgylcheddol. Nodwedd arbennig ar yr uned yw bod 100% o’n cyflwyniad ymchwil yn cael ei ystyried gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol, ac mae 70% o’n hallbynnau’n cael eu hystyried yn rhai sy’n arwain y byd, sy’n ein gosod yn 2il yn y DU.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd% 4 seren% 3 seren% 2 seren% 1 seren% Diddosbarth
Cyfanswm57.043.00.00.00.0
Allbynnau69.830.20.00.00.0
Effaith37.562.50.00.00.0
Amgylchedd37.562.50.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Mae Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd yn gofyn cwestiynau ymchwil sylfaenol a chymhwysol ar draws ehangder Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd a hyn sy’n ein cadw ar flaen y gad yn y gymuned ymchwil fyd-eang.

Ers REF 2014 ein nod yw cryfhau rhagoriaeth ein hymchwil ac ehangder ein heffaith tra'n caniatáu i staff ehangu eu gorwelion eu hunain. Ymhlith rhai o’n datblygiadau y mae:

  • Strwythur ymchwil newydd drwy ddatblygu tair Canolfan Ymchwil newydd, a 10 grŵp ymchwil cysylltiedig, gan integreiddio 14 cyfadran newydd
  • Mentrau lles gwell ac ennill gwobr efydd Athena SWAN
  • Mwy o gymorth i fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig a mwy na 75 o fyfyrwyr PhD sy'n graddio
  • Uwchraddio cyfleusterau dadansoddol yn sylweddol gan gynnwys labordy Sbectromedr Màs Plasma wedi’i gyplu’n anwythol gan Amlgasglydd (MC-ICP-MS) newydd a'r ystafell ddelweddu 3D
  • Partneriaethau strategol newydd gyda sefydliadau allanol megis Arolwg Daearegol Prydain (BGS) Cymru, Prifysgol Bremen a Phrifysgol Campinas
  • Gwell ymgysylltu a chydweithio rhyngddisgyblaethol, gan gynnwys arweinyddiaeth mewn dau sefydliad ymchwil yn y Brifysgol

Rydyn ni wedi cynyddu cyfanswm y cyllid a ddyfarnwyd i £17 miliwn ers REF 2014 ac wedi manteisio ar y gwaith o adnewyddu labordai a phrynu offer.

Mae’r rhain yn cynnwys sefydlu ‘Labordy Daear Prifysgol Caerdydd ar gyfer Elfennau Hybrin a Chemeg Isotopau (CELTIC)’. Mae offer arbenigol yno ar gyfer dadansoddi isotopau, sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer amrywiaeth eang, o brosiectau ymchwil am newid hinsawdd i sut mae planedau wedi’u ffurfio. Rydym hefyd wedi adnewyddu ein cyfleuster microbaladr electron o'r radd flaenaf a labordy elfennau hybrin 'ELEMENT' sydd wedi bod yn sail i ddulliau newydd o astudio petroleg ac adnoddau mwynol.

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Mae ein canolfannau a’n grwpiau ymchwil yn ymchwilio i brosesau naturiol sy’n siapio’r byd o’n cwmpas wrth i ni weithio i fynd i’r afael â heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas, yr economi, a’r amgylchedd.

Diogelu cymunedau a gwarchod amgylcheddau

Gan weithio ochr yn ochr â chwmnïau mwyngloddio ledled y byd, mae'r Athro Wolfgang Maier wedi helpu i atal adleoli cymunedau lleol, ac mae hefyd wedi helpu i ddiogelu tir sy'n ddiwylliannol sensitif, ac wedi sicrhau arbedion cost enfawr ar yr un pryd.

Pools

Ymchwil

Dysgwch sut mae ein hymchwil yn mynd i’r afael â rhai o’r meysydd pwysicaf yng Ngwyddorau’r Ddaear a’r Môr.

A disused quarry

Effaith ymchwil Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd

Mae ein gwaith ymchwil yn mynd i'r afael â heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas, yr economi a'r amgylchedd.