Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniadau fesul ysgol academaidd

Dyma ein cyflwyniadau i'r unedau asesu fesul ysgol academaidd.

Pensaernïaeth

Rydym yn canolbwyntio ar sawl agwedd ar bensaernïaeth, o hyrwyddo amgylcheddau adeiledig cynaliadwy i leihau allyriadau carbon deuocsid.

Biowyddorau

Mae ein hymchwil yn cynnwys biowyddorau moleciwlaidd, niwrowyddoniaeth, organebau a'r amgylchedd, a pathoffisioleg ac atgyweirio.

Busnes

Mae ein gwaith ymchwil pwrpasol, yn y byd go iawn ac sy’n arwain yn rhyngwladol, ym maes y gwyddorau cymdeithasol, yn ganolog i’r gwaith o gyflawni ein dyheadau Gwerth Cyhoeddus.

Cemeg

Mae ein hymchwilwyr sy’n enwog yn rhyngwladol yn gweithio i gael hyd i atebion i heriau byd-eang o bwys ac mae'n partneriaethau strategol yn fodd i ni gyfrannu at dwf economaidd cenedlaethol, a chyflawni effaith fyd-eang.

Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Mae gennym gymuned ymchwil talentog sy’n cyflwyno ymchwil ysbrydoledig sydd ar y blaen ym maes arloesedd technolegol ac yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i’r sector cyfrifiadureg sy’n datblygu’n gyflym.

Deintyddiaeth

Yr unig ysgol deintyddiaeth yng Nghymru, sy’n cynnig arweiniad unigryw a phwysig ym meysydd ymchwil ddeintyddol, addysgu a gofal i gleifion.

Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd

Mae ymchwil yn canolbwyntio ar themâu'r ddaear solet, yr hinsawdd a bywyd, a gwyddor a pholisi amgylcheddol.

Peirianneg

Rydym yn cynnal ymchwil mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys cynaliadwyedd, mecaneg, ynni a diogelwch.

Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

Mae ein hymchwil yn cwmpasu pedair disgyblaeth – Llenyddiaeth Saesneg, Iaith a Chyfathrebu, Athroniaeth ac Ysgrifennu Creadigol. Rydym wedi ymrwymo i feddwl yn greadigol, sicrhau manwl gywirdeb a bod yn drawsddisgyblaethol.

Daearyddiaeth a Chynllunio

Mae ein hymchwil yn mynd i'r afael â'r heriau mawr rydyn ni’n eu hwynebu ar hyn o bryd gan gynnwys datblygu polisïau, trafodaethau cyhoeddus, ac arferion arloesol ym meysydd daearyddiaeth a chynllunio.

Gwyddorau Gofal Iechyd

Mae ein hymchwil yn gwella, yn dylanwadu ac yn llywio gofal iechyd ledled Cymru a thu hwnt, gan roi cleifion a theuluoedd wrth wraidd ein hymchwil.

Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Mae ein hymchwilwyr yn archwilio ac yn rhannu eu hangerdd am gymdeithasau a chredoau crefyddol y gorffennol, o'r cyfnod cynhanes hyd heddiw.

Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

Mae ein hymchwil yn cwmpasu newyddiaduraeth a democratiaeth, goblygiadau technolegau sy'n datblygu, ac arloesedd yn y diwydiant creadigol.

Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae cyd-destun ein hymchwil ryngddisgyblaethol yn caniatáu i'n staff a'n myfyrwyr gydweithio'n helaeth, cynhyrchu ymchwil amrywiol ac effeithiol, a chyfrannu at drafodaethau cyfoes o bwys.

Mathemateg

Mae gan bob maes ymchwil yn ein hysgol grŵp ymchwil hynod weithgar, sy'n cydweithio ag ymchwilwyr academaidd blaenllaw ledled y byd.

Meddygaeth

Mae ymchwil yn amrywiol o ymchwilio labordy i ymarfer clinigol, mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.

Ieithoedd Modern

Rydym ni'n gweithio gyda llunwyr polisïau, cyrff anllywodraethol, ysgolion, a sector y celfyddydau a threftadaeth i gyd-greu ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Cerddoriaeth

Mae ein hymchwil yn dylanwadu ar arferion creadigol, yn llywio trafodaethau cyhoeddus, ac yn arwain trafodaethau ym maes disgyblaeth cerddoriaeth.

Optometreg a Gwyddorau’r Golwg

Ein hysgol ni sydd â'r unig adran hyfforddiant optometreg yng Nghymru, ac rydym yn un o'r rhai mwyaf yn y DU.

Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol

Mae ein hymchwil yn cwmpasu llawer o feysydd, o anhwylderau anadlol i faterion yn ymwneud â dyrannu adnoddau meddygaeth.

Ffiseg a Seryddiaeth

Mae gennym rôl flaenllaw mewn prosiectau cydweithredol rhyngwladol o bwys ac rydym yn gwneud darganfyddiadau cyffrous sy'n ein rhoi ar flaen y gad o ran ymchwil ym maes ffiseg a seryddiaeth.

Seicoleg

Mae ein hymchwil yn mynd i'r afael â phynciau sy'n amrywio o wybyddiaeth a seicopatholeg i iechyd, lles ac ymddygiad cynaliadwy.

Y Gwyddorau Cymdeithasol

Mae ein hymchwil sy'n seiliedig ar wybodaeth ddamcaniaethol gyda ffocws ar bolisïau clir, yn rhoi pwyslais ar sicrhau effaith gymdeithasol yn y byd go iawn.

Y Gymraeg

Mae ein hymchwil mewn llenyddiaeth, ieithyddiaeth, a chynllunio a pholisi iaith, yn sicrhau newid ymarferol, diwylliannol a deddfwriaethol cadarnhaol i gymunedau yng Nghymru a thu hwnt.