Ewch i’r prif gynnwys

UA 27 Iaith a Llenyddiaeth Saesneg

Mae ein hymchwil amlddisgyblaethol unigryw yn cwmpasu arbenigedd gan grwpiau megis Science Humanities ac Image Works.  Rydym wedi trawsnewid dealltwriaeth o ddarluniau hanesyddol, newid syniadaeth y cyhoedd am rywedd a milwriaeth, cynyddu defnydd dydd i ddydd o'r Gymraeg, gwella strategaethau cyfathrebu mewn gofal dementia, ac ehangu cynhwysiant cymdeithasol mewn arferion diwylliannol a sefydliadol.

Gan gyflawni GPA o 3.51, rydym ni wedi gwella ar ein cyflwyniad yn 2014 a bron â dyblu ein CALl a ddychwelwyd. Mae sgôr o 3.90 yn ein gosod yn 4ydd yn y DU am effaith ymchwil ac rydym ni'n 5ed am bŵer ymchwil, sy'n arwydd o raddfa ac ansawdd ein cyflwyniad.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd% 4 seren% 3 seren% 2 seren% 1 seren% Diddosbarth
Cyfanswm59.033.08.00.00.0
Allbynnau40.146.313.60.00.0
Effaith90.010.00.00.00.0
Amgylchedd80.020.00.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Mae’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaethyn uned aml-ddisgyblaeth sy’n rhoi pwyslais ar feddwl yn greadigol, manwl gywirdeb beirniadol, a chwilfrydedd deallusol.

Mae ein gwaith, sy’n ymwneud â phedair disgyblaeth — Llenyddiaeth Saesneg, Ysgrifennu Creadigol, Iaith a Chyfathrebu, ac Athroniaeth — yn adeiladu ar ethos o gydweithio.

Ers REF 2014, mae cynwysoldeb a chynaliadwyedd wedi bod yn brif flaenoriaethau yn ein strategaeth ymchwil, ac mae wedi helpu twf o ran staff academaidd ac incwm grant (cynnydd o 114%).

Mae datblygiadau allweddol pellach yn cynnwys:

  • gwella'r strwythurau cymorth ar gyfer myfyrwyr doethurol, ymchwilwyr ôl-ddoethurol a staff wrth bob cam o’u gyrfa
  • sbarduno cyllid (sefydliadol ac allanol) i alluogi staff i ddarparu rhaglenni ymchwil ac effaith sy’n cael mwy o effaith, gan weithio gyda nifer cynyddol o bartneriaid strategol a rhanddeiliaid
  • creu cyfleoedd i staff ddatblygu agendâu ymchwil newydd mewn partneriaeth â chydweithwyr o fewn yr Uned, a thu allan iddi, yn y DU ac yn rhyngwladol
  • gwella rolau arwain yn y dyniaethau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn perthynas â meysydd ymchwil penodol a chryfder effaith, megis diwylliannau digidol a gweledol, dyniaethau meddygol/gwyddoniaeth, a gallu'r dyniaethau i fynd i'r afael â chymdeithas ôl-wirionedd ac argyfyngau geo-wleidyddol

Mae cydweithio’n barhaus â Chasgliadau Arbennig ac Archifau'r Brifysgol wedi cynorthwyo ein hymchwil, ein gweithgareddau effaith a’n haddysgu ôl-raddedig. Yr archif oedd y lleoliad ar gyfer modiwlau MA, cynhadledd flynyddol i fyfyrwyr, a'n seminar ymchwil Rhamantaidd. Roedd Casgliadau Arbennig yn gydweithiwr pwysig mewn astudiaethau gweledol a darlunio, megis adnoddau digidol Fictoraidd.

Mae ein hymchwil wedi elwa ar gyfleusterau ehangach y brifysgol hefyd gan gynnwys Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC).

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Ein nod yw sicrhau bod ein hymchwil o fewn cyrraedd cynulleidfaoedd allanol amrywiol, ac rydym yn cynllunio gweithgareddau ymgysylltu sy’n ceisio gwella ei chyrhaeddiad a’i heffeithiolrwydd er mwyn cyfoethogi cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.

Gwella cyfathrebu â phobl sydd â dementia

Mae gwaith yr Athro Alison Wray ar sut mae effaith gymdeithasol ac emosiynol dementia yn effeithio ar gyfathrebu yn helpu pobl â dementia, eu teuluoedd a gofalwyr proffesiynol i ymdopi â'r heriau o ran cyfathrebu y maen nhw’n eu hwynebu.

Pile of books

Ymchwil

Rydym yn arbenigo mewn ymdrin ag iaith, testun, diwylliannau a hunaniaethau mewn ffordd arbennig a chyflenwol.

Illustration by Eleanor Vere Boyle

Effaith ymchwil yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

Rydym yn cymhwyso ein hymchwil i heriau pwysig sy’n gwneud gwahaniaeth mewn meysydd amrywiol y tu hwnt i’r Ysgol.