Ewch i’r prif gynnwys

Mae ein hymchwilwyr wedi datblygu adnodd newydd sy’n nodi’r aelwydydd sydd fwyaf angen cymorth i gynhesu eu cartrefi.

A group of school children

Cyflwyno ffiseg i bawb

Mae ein hymchwil wedi gwneud gwahaniaeth enfawr o ran gwneud pobl yn fwy ymwybodol o seryddiaeth, ac wedi helpu i drawsnewid, y ffordd yr addysgir y pwnc, a’r ffordd mae’r cyhoedd yn meddwl amdano.

Gwella effeithiolrwydd cadachau (wipes) gwrthficrobaidd mewn lleoliadau gofal iechyd

Mae ymchwil yr Athro Jean-Yves Maillard i effeithiolrwydd cadachau gwrthficrobaidd wedi arwain at well mesurau rheoli heintiau, wedi arwain at safon ryngwladol newydd ar gyfer profi cadachau gwrth-facterol wedi'u gwlychu ymlaen llaw ac wedi arwain at dwf masnachol sylweddol i weithgynhyrchwr blaenllaw cynhyrchion glanhau gwrth-bacteriol.

getty more people

Cynyddu nifer y cyflogwyr sy’n talu cyflog byw ledled y DU

Mae ymchwil gan academyddion yn Ysgol Busnes Caerdydd wedi arwain at wella amodau gweithio miloedd o bobl.

Sefydlu safonau gofal byd-eang newydd ar gyfer cleifion sy’n dioddef o ganser y prostad

Chwaraeodd ein hymchwilwyr rolau blaenllaw mewn treialon clinigol mawr, a wellodd sut y caiff canser y prostad ei drin yn ogystal â dylanwadu ar y ffordd y mae oncolegwyr yn monitro eu cleifion ac yn defnyddio llawdriniaethau, radiotherapi, a therapi hormonau.

Gwella democratiaeth yng Nghymru

Mae gwaith ein hacademyddion ar ddiwygio'r Senedd, ei hetholfraint a'i system etholiadol wedi arwain at y bleidlais ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed, gan osod y seiliau ar gyfer rhagor o  ddiwygiadau sylweddol o ran maint y Senedd a’i threfniadau etholiadol.

Gwneud y gorau o fanteision ffermydd gwynt y DU

Mae ein hymchwil yn helpu i foderneiddio trosglwyddo ynni ledled y DU ac Ewrop ac yn ein gwthio tuag at y targed o allyriadau carbon sero net.

getty stock

Beth yw camfanteisio’n rhywiol ar blant

Mae ymchwil arloesol Dr Sophie Hallett wedi gwneud barn pobl ifanc yn rhan annatod o benderfyniadau ynghylch eu gofal.

Arloesi ffyrdd newydd o fynd i'r afael â halogiad bacteriol

Mae ein hymchwil wedi helpu i leihau'r risg o halogiad mewn diwydiant, a hynny ar raddfa fyd-eang.

Diogelu cymunedau a gwarchod amgylcheddau

Gan weithio ochr yn ochr â chwmnïau mwyngloddio ledled y byd, mae'r Athro Wolfgang Maier wedi helpu i atal adleoli cymunedau lleol, ac mae hefyd wedi helpu i ddiogelu tir sy'n ddiwylliannol sensitif, ac wedi sicrhau arbedion cost enfawr ar yr un pryd.

Carmen Georges Bizet

Trawsnewid perfformiadau o ‘Carmen’ ar lwyfannau’r byd

Mae ymchwil yr Athro Clair Rowden wedi creu ffyrdd newydd o feddwl am un o'r operâu a berfformir amlaf ledled y byd, Carmen.

Ffordd fwy ecogyfeillgar o weithgynhyrchu Perspex®

Trwy ein hymchwil, darganfyddom broses cost-effeithiol ar gyfer creu Perspex® yn fyd-eang. Gallai’r broses hon gael ei defnyddio ar raddfa, gan gynnig manteision economaidd ac amgylcheddol.

Cryfhau hawliau a chyfranogiad o dan gyfraith galluedd meddyliol

Roedd gwaith Dr Lucy Series a’i chydweithwyr ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn gyfrifol am atgyfnerthu hawliau a chyfranogiad pobl y gellir ystyried nad oes ganddynt alluedd i wneud neu gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu bywydau.

Visualisation of a data strand

Canfod DNA ymosodiadau seibr

Mae cydweithrediad rhwng yr Athro Pete Burnap ac Airbus wedi arwain at ffordd hollol newydd o ganfod ac atal meddalwedd maleisus.

stock shot camera

Adroddiadau gohebwyr ar ddatganoli: rhoi cyngor

Mae ein hacademyddion yn helpu newyddiadurwyr i wneud synnwyr o'r gwahanol reolau COVID-19 sydd mewn grym ledled y DU.

Gwella cyfathrebu â phobl sydd â dementia

Mae gwaith yr Athro Alison Wray ar sut mae effaith gymdeithasol ac emosiynol dementia yn effeithio ar gyfathrebu yn helpu pobl â dementia, eu teuluoedd a gofalwyr proffesiynol i ymdopi â'r heriau o ran cyfathrebu y maen nhw’n eu hwynebu.

Cadw treftadaeth fetel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Mae ein hymchwil wedi llywio'r penderfyniadau i warchod ein treftadaeth fetel, o ystorfeydd archeolegol sy'n cynnwys miliynau o arteffactau sy'n olrhain hanes dynol i longau eiconig gan gynnwys y Mary Rose, SS Great Britain Brunel a’r Armada Sbaenaidd.

Deall seicosis ôl-enedigol

Mae mamau sydd mewn perygl o ddatblygu'r anhwylder seiciatrig difrifol hwn yn cael eu cefnogi'n well oherwydd gwaith yr Athro Ian Jones a'i dîm.

stock shot muslims praying

Rhoi gwybod i Fwslimiaid am roi organau

Mae Dr Mansur Ali yn helpu cyd-Fwslimiaid i archwilio agwedd eu ffydd at y gweithdrefnau achub bywyd hyn.

families leave Paris

Edrych eto ar y ffordd mae pobl yn cofio’r Ail Ryfel Byd yn Ffrainc

Mae profiadau pobl unigol yn ganolog i ddealltwriaeth newydd o'r cyfnod hollbwysig hwn mewn hanes.

Image shows stylised image of a brain cell

Gwella cyfleoedd i bobl â chlefyd Huntington drwy ffisiotherapi

Mae ein hymchwil yn grymuso pobl â chlefyd Huntington i wneud ymarfer corff a chael ffisiotherapi i helpu i reoli eu symptomau.

Trawsnewid perthnasoedd ac addysg rhyw

Mae gwaith yr Athro EJ Renold wedi sicrhau bod barn pobl ifanc yn ganolog i ddeddfwriaeth a pholisïau newydd.

Ambulance

Saving lives with maths

Mae modelu mathemategol arloesol yn sicrhau gwell deilliannau canser, amseroedd ymateb cynt gan y gwasanaeth ambiwlans a gwasanaeth cyswllt GIG newydd.

aerial view of Cardiff showing teh castle and stadium and environs

Diwygio deddfwriaeth digartrefedd yng Nghymru

Arweiniodd ymchwil Dr Pete Mackie i ddeddfwriaeth digartrefedd Cymru at Ddeddf Tai (Cymru) 2014, ac mae wedi llywio dadleuon polisi yn yr Alban, Canada ac Awstralia.

A firefighter carrying equipment walks away from a fire engine toward a building.

Gwella’r broses o wneud penderfyniadau yn y gwasanaethau brys

Mae ein hymchwil arloesol wedi gwella sut mae’r gwasanaethau brys yn meddwl, yn ymddwyn ac yn ymateb mewn sefyllfaoedd brys.

Astudiaethau achos cynt

Gallwch weld ein hastudiaethau achos o flynyddoedd blaenorol.