Anrhydeddau a gwobrau
Mae llwyddiant ein hymchwil nid yn unig yn cael ei adnabod trwy ei effaith byd-eang, ond yn yr anrhydeddau a'r gwobrau mae ein hymchwilwyr wedi eu hennill.
Rydym yn falch bod gennym ddau enillydd Gwobr Nobel ymhlith ein haelodau staff. Mae ein hymchwilwyr wedi derbyn cymrodoriaethau gan nifer o sefydliadau uchel eu parch mewn cydnabyddiaeth o'u harloesedd a'u darganfyddiadau.
Dyfarnwyd nifer o Wobrau Pen-blwydd y Frenhines i’n timau ymchwil ar gyfer gwaith o ragoriaeth arbennig.
Rydym yn aelod o Athena Swan, sy'n cydnabod ein hymroddiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth.