Ewch i’r prif gynnwys

Unedau asesu

Rydym wedi cyflwyno i 23 o'r 34 uned asesu, gan adlewyrchu ein hymchwil arloesol a rhyngddisgyblaethol.

UA 1 Meddygaeth Glinigol

Gan fynd i'r afael â heriau iechyd allweddol sy'n effeithio ar gymdeithas, rydym wedi creu amgylchedd ymchwil cynaliadwy a chynhwysol i harneisio ymchwil darganfod ar gyfer arloesi clinigol yn y dyfodol.

UA 3 Proffesiynau Iechyd Perthynol, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth

Mae gan ein hymchwil y ffocws cyffredin tuag at fod o fudd i iechyd a lles dynol.

UA 4 Seicoleg, Seiciatreg a’r Niwrowyddorau

Mae ein hymchwil yn cynnwys deall natur a thriniaeth ystod eang o anhwylderau seiciatrig, niwroddatblygiadol a niwrolegol.

UA 5 Gwyddorau Biolegol

Ein nod yw deall a manteisio ar fecanweithiau biolegol sylfaenol i ddarparu'r wybodaeth a'r technolegau ymchwil i gefnogi poblogaeth sy'n tyfu'n iach mewn byd cynaliadwy.

UA 7 Systemau’r Ddaear a’r Gwyddorau Amgylcheddol

O dectoneg a daeareg adnoddau i ragfynegi peryglon a pholisi newid yn yr hinsawdd, rydym yn mynd i'r afael â rhai o'r problemau canolog sy'n wynebu'r ddynoliaeth heddiw.

UA 8 Cemeg

Rydym wedi ymrwymo i ethos o ymchwil rhyngddisgyblaethol drylwyr yn y gwyddorau cemegol, wedi'i ategu gan gyfleusterau a seilwaith ymchwil rhagorol.

UA 9 Ffiseg

Rydym yn adran ymchwil flaenllaw sy'n canolbwyntio ar greu dealltwriaeth sylfaenol newydd ac effaith ar sbectrwm eang o brosesau ffisegol sy'n llywodraethu natur.

UA 10 Gwyddorau Mathemategol

Mae ein hymchwil yn datblygu gwybodaeth fathemategol sylfaenol, yn hwyluso'r broses o gymhwyso gwyddorau mathemategol mewn disgyblaethau eraill, ac yn darparu budd cymdeithasol.

UA 11 Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Rydym yn ymgymryd ag ymchwil sylfaenol sy'n mynd i'r afael â heriau'r byd go iawn er mwyn cael effaith gadarnhaol ar fywyd cymdeithas a bywydau pobl o ddydd i ddydd.

UA 12 Peirianneg

Mae ein hamgylchedd ymchwil bywiog wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o effaith ein hymchwil wrth i ni weithio i ddatrys heriau a nodwyd gan y diwydiant.

UA 13 Pensaernïaeth, Yr Amgylchedd Adeiledig a Chynllunio

Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â chymunedau lleol a rhyngwladol, diwydiannau creadigol a chymunedau polisi i greu effaith drwy ymchwil drylwyr.

UA 14 Daearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar gynllunio, llywodraethu a chynaliadwyedd dinasoedd, rhanbarthau a mannau gwledig.

UA 15 Archaeoleg

Mae gennym enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth yn y gwyddorau archeolegol ac mewn ymchwil maes, cadwraeth, arferion treftadaeth ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

UA 17 Astudiaethau Busnes a Rheolaeth

Yn ganolfan ryngwladol flaenllaw ar gyfer ymchwil mewn ymchwil Busnes a Rheolaeth, cawn ein harwain gan ethos cyfannol o Werth Cyhoeddus.

UA 18 Y Gyfraith

Mae ein hymchwil yn cael ei sbarduno gan gwestiynau trawswladol sy'n ymwneud cyfiawnder byd-eang a llywodraethu aml-lefel, cynaliadwyedd amgylcheddol, iechyd a lles, hawliau dynol, cyfiawnder cymdeithasol, troseddu a diogelwch.

UA 19 Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol

Mae ein hymchwil ar flaen y gad o ran gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol ac mae ein hymchwilwyr yn ymwneud â pholisi ac ymarfer cenedlaethol a rhyngwladol.

UA 21 Cymdeithaseg

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar bum thema eang: anghydraddoldebau, rhaniadau ac amrywiaeth, diwylliant, rhyngweithio a bywyd bob dydd; trosedd, diogelwch a chyfiawnder; gwyddoniaeth, technoleg a risg; ac addysg, sgiliau a'r farchnad lafur.

UA 23 Addysg

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar les, dysgu ac addysgeg plant a phobl ifanc o'r blynyddoedd cynnar i addysg broffesiynol, a marchnadoedd addysg, sgiliau a llafur.

UA 26 Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth

Mae ein hymchwilwyr yn rhannu diddordeb nodedig mewn dulliau rhyngddisgyblaethol a thrawswladol o ymdrin â diwylliannau llenyddol a gweledol, cyfieithu, treftadaeth a sosioieithyddiaeth.

UA 27 Iaith a Llenyddiaeth Saesneg

Mae ein cryfderau ymchwil yn cyd-fynd â'n nod i roi arweinyddiaeth ryngwladol ym maes ymchwil drawsddisgyblaethol gan ganolbwyntio ar yr amrywiaeth sy'n hynodi gwerth y dyniaethau.

UA 28 Hanes

Rydym yn ymchwilio i, ac yn rhannu angerdd am gymdeithasau a chredoau crefyddol y gorffennol, o'r cyfnod cynhanes hyd heddiw, mewn ffordd sy'n effeithio ar academia, addysgwyr, sefydliadau treftadaeth, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, llunwyr polisi'r llywodraeth, a'r cyhoedd.

UA 33 Astudiaethau Cerddoriaeth, Drama, Dawns, Celfyddydau Perfformio, Ffilm a Sgrîn

Mae gennym gryfderau ymchwil mewn cyfansoddiad, perfformiad a cherddoriaeth, gan gynnwys ethnomusicoleg, dadansoddi diwylliannol-hanesyddol a cherddoriaeth boblogaidd.

UA 34 Cyfathrebu, Diwylliannol ac Astudiaethau'r Cyfryngau, Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth

Mae ein gwaith yn dadansoddi polisi’r cyfryngau, cynrychiolaethau ac arferion, gyda ffocws ar heriau cyfredol. Mae'n cwmpasu ymchwil sy'n edrych ar newyddiaduraeth a democratiaeth, goblygiadau technolegau sy'n datblygu, ac arloesedd yn y diwydiant creadigol.