Yr Ysgol Meddygaeth
Mae’r Ysgol Meddygaeth yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.
Rydym yn cyfuno addysg gofal iechyd a gofal cleifion blaengar ag ymchwil o'r radd flaenaf a chyfleusterau addysgu nodedig i’ch helpu i fod y meddyg gorau y gallwch chi fod. Ond peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig - cewch ragor o wybodaeth gan ein myfyrwyr presennol am sut brofiad yw astudio yma.