Cysylltiadau ymchwil strategol
Mae datblygu cysylltiadau gyda chyrff academaidd eraill, diwydiant a'r llywodraeth yn hanfodol i ni wireddu ein huchelgais ymchwil.
Mae'r cysylltiadau hyn yn caniatáu i ni gyfuno arbenigedd ategol, cynyddu ein gallu ymchwil a'n helpu ni i ddefnyddio syniadau gwreiddiol i greu effaith yn y byd real. Maen nhw hefyd yn cynnig cyfleoedd cyffrous ar draws sefydliadau a ffrydiau cyllid amgen i academyddion.
Grŵp Russell
![Russell Group logo -16:9 Russell Group logo](https://www.cardiff.ac.uk/__data/assets/image/0013/31081/logoblack.png)
Rydym yn rhan o Grŵp Russell, sy'n cynrychioli 24 o brif brifysgolion ymchwil y DU.
Yn 2012/13, roedd prifysgolion Grŵp Russell yn cyfrif am 74% (dros £3.5 biliwn) o grantiau ymchwil ac incwm contract prifysgolion y DU a 75% (dros £1.1 biliwn) o gyfanswm yr incwm gan y Cynghorau Ymchwil.
GW4
![GW4 logo - 16:9 GW4 logo](https://www.cardiff.ac.uk/__data/assets/image/0014/31082/gw4_logo_navy-1.png)
Rydym ni'n aelod o GW4, sy'n dod â phedair prif brifysgol ymchwil De Orllewin Lloegr a Chymru at ei gilydd.
Gyda throsiant cyfunol sydd dros £1 biliwn, mae graddfa pŵer ymchwil GW4 yn sylweddol.
Llywodraeth Cymru
![Welsh Government logo - 16:9 Welsh Government logo](https://www.cardiff.ac.uk/__data/assets/image/0015/31083/welsh-government-16-9.jpg)
Mae gennym ni gyswllt agos â Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys bod yn rhan o raglen Sêr Cymru. O fewn y rhaglen hon, ni sy'n arwain Rhwydwaith Ymchwil Gwyddorau Bywyd Cymru.
Nod y rhwydwaith yw datblygu gwyddoniaeth sy'n arwain at driniaethau newydd mewn meysydd o angen meddygol sydd heb eu diwallu. Rydym ni hefyd yn ymwneud â gweithgareddau'n gysylltiedig â'r rhaglen Cydgyfeiriant newydd a gyllidir gan yr UE.
Prifysgolion Cymru
![Universities Wales logo 16:9 - (small) Universities Wales logo 16:9 - (small)](https://www.cardiff.ac.uk/__data/assets/image/0020/31088/HEW-Rebrand-logo-RGB.jpg)
Rydym ni'n cydweithio'n agos gydag Prifysgolion Cymru sy'n cynrychioli buddiannau prifysgolion yng Nghymru. Mae hefyd yn Gyngor Cenedlaethol i Brifysgolion y DU.
Academia Europaea
![The logo for Academia Europaea](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/304389/academia-europaea-logo.jpg?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Mae Hyb Gwybodaeth Academia Europaea a leolir ym Mhrifysgol Caerdydd yn un o saith a gynhelir ledled Ewrop.
Nod yr Hyb yw cyfeirio at ragoriaeth academaidd ledled y DU a Gweriniaeth Iwerddon ac annog cydweithredu ar draws yr Academi. Mae hefyd yn chwarae rhan fawr wrth ddarparu tystiolaeth wyddonol ar gyfer llunio polisïau yn Ewrop, yn ogystal â hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol mewn ymchwil ac arloesedd.
Mae ein hacademyddion ar gael ar gyfer ymgynghoriaeth, prosiectau cydweithredol a mwy.