Ewch i’r prif gynnwys

UA 4 Seicoleg, Seiciatreg a’r Niwrowyddorau

Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar draws maes eang seicoleg, seiciatreg a niwrowydoniaeth er mwyn mynd i’r afael â heriau o bwys sy’n wynebu cymdeithas a’r amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys newid y ddeddfwriaeth yn y DU sy’n ceisio lleihau gwastraff plastig untro drwy godi tâl ar y rhai sy’n defnyddio plastig o’r fath, cyflwyno gwasanaeth cenedlaethol newydd i gefnogi mabwysiadu brodyr a chwiorydd a phlant mewn gofal sy’n anodd eu lleoli, yn ogystal â newid canllawiau i wasanaethau brys y DU.

Mae ein canlyniadau yn y REF wedi cadarnhau ein lle fel canolfan rhagoriaeth ymchwil sy’n arwain y byd. Cawsom ein rhoi yn y 7fed safle (allan o 95) yn y DU drwy sicrhau sgôr Cyfartaledd Pwynt Gradd o 3.55. Ystyriwyd bod 95% o’n hymchwil naill ai’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Rhoddwyd y sgôr uchaf bosibl i ni (4.0) ar gyfer ein hamgylchedd ymchwil.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd 4 seren (%) 3 seren (%) 2 seren (%) 1 seren (%)Diddosbarth (%)
Cyffredinol 60.035.05.00.00.0
Allbynnau 43.348.28.10.40.0
Effaith 77.822.20.00.00.0
Diwylliant100.00000

Diwylliant ein hymchwil

Mae ein hymchwil yn cynnwys gwyddoniaeth ymddygiad dynol ac anifeiliaid, fel sylfaen i ddeall natur a thriniaeth ystod eang o anhwylderau seiciatrig, niwroddatblygiadol a niwrolegol.

Mae gennym 7 thema ymchwil: seicoleg gymdeithasol ac amgylcheddol, seicoleg iechyd a datblygiadol, seiciatreg ddatblygiadol, seicosis ac anhwylderau affeithiol mawr, anhwylderau niwroddirywiol, gwyddoniaeth wybyddol, a niwrowyddoniaeth. Mae'r themâu hyn yn cael effaith gymdeithasol, feddygol ac economaidd.

Mae ein hymchwil a'n heffaith yn cael eu gyrru gan bobl sy'n gweithio mewn diwylliant bywiog a chefnogol. Mae seilwaith a chyfleusterau o'r radd flaenaf ar gael ar ein cyfer sy'n galluogi cydweithio rhyngddisgyblaethol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ar raddfa eang.

Ers REF 2014, rydym wedi cynyddu ein gallu, ein cynaliadwyedd a'n bywiogrwydd drwy benodi staff addysgu ac ymchwil ar gyfer swyddi penagored a strategol, cymrodoriaethau a ariennir yn allanol, dyfarniadau hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig, ymchwil ryngddisgyblaethol a throsi gwell ar draws ein 7 thema yn ogystal â chael gwerth £119.7miliwn o ddyfarniadau.

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Mae UoA 4 yn cynnwys yr Ysgol Meddygaeth a'r Ysgol Seicoleg, y ddwy ohonynt yn mwynhau diwylliant ymchwil bywiog a chefnogol gyda'r ymchwil o'r ddwy ysgol yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.

A firefighter carrying equipment walks away from a fire engine toward a building.

Gwella’r broses o wneud penderfyniadau yn y gwasanaethau brys

Mae ein hymchwil arloesol wedi gwella sut mae’r gwasanaethau brys yn meddwl, yn ymddwyn ac yn ymateb mewn sefyllfaoedd brys.

Laboratory Research

Ymchwil yn yr Ysgol Meddygaeth

Caiff ein hymchwil meddygol ei sbarduno gan greadigrwydd a chwilfrydedd.

Impact

Effaith ymchwil yr Ysgol Meddygaeth

Gallwch weld sut mae ein hymchwil meddygol a’n harloesi clinigol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Psychology research image

Ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg

Mae ein gwaith ymchwil sy’n flaenllaw yn rhyngwladol yn datblygu gwybodaeth ac yn gwella ansawdd bywyd trwy lywio polisi cyhoeddus a chanlyniadau i iechyd.

Fire

Effaith ymchwil yr Ysgol Seicoleg

Mae ein gwaith ymchwil sy’n flaenllaw yn rhyngwladol ar draws y ddisgyblaeth yn datblygu gwybodaeth sylfaenol ac yn gwella ansawdd bywydau trwy lunio polisi cyhoeddus a chanlyniadau i iechyd.