Ewch i’r prif gynnwys

UA 13 Pensaernïaeth, Yr Amgylchedd Adeiledig a Chynllunio

A ninnau’n ganolfan ragorol sydd gyda’r gorau yn y byd ym maes pensaernïaeth a’r amgylchedd adeiledig, mae ein hymchwil amrywiol yn bedwerydd yn y DU, gyda GPA cyffredinol o 3.53.

Rydym wedi ennill y sgôr uchaf posibl am ein hamgylchedd ymchwil, ac aseswyd bod 100% ohono yn helpu i gynhyrchu ymchwil o’r radd flaenaf. Yn ogystal, fe aseswyd bod 100% o’n hastudiaethau achos o effaith, a 93% o’n hallbynnau, yn rhai sydd gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.

Rydym wedi ymrwymo i feithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd% 4 seren% 3 seren% 2 seren% 1 seren% Diddosbarth
Cyfanswm 58.038.03.01.00.0
Allbynnau43.749.35.61.40.0
Effaith66.733.30.00.00.0
Amgylchedd100.00.00.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Mae gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru draddodiad o gryfderau ymchwil ym maes ynni, yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Fodd bynnag, mae ei sylfaen ymchwil wedi cael ei amrywiaethu’n sylweddol ers 2014. Mae Grwpiau Ymchwil ac Ysgoloriaethau newydd wedi’u creu, yn ymwneud â 6 phrif faes arbenigedd: Dulliau Cyfrifiadurol ym maes Pensaernïaeth, Ynni, Yr Amgylchedd a Phobl; Ymarfer Dylunio, Deunyddiau a Chreu; Treftadaeth a Chadwraeth; Hanes a Theori; a Threfolaeth.

Mae’r amrywiaethu hwn yn adlewyrchu twf ehangach yr ysgol ers 2014, o ran niferoedd myfyrwyr, sydd wedi codi’n sylweddol ers 2014-2015, a niferoedd staff sy’n weithgar ym maes ymchwil sydd hefyd wedi cynyddu.

Dros y cyfnod, mae £17.3miliwn o fuddsoddiad gan Brifysgol Caerdydd i gefnogi ein cynlluniau twf wedi’i sicrhau. Fe sicrhawyd hyn drwy achos busnes o’r enw ‘Dylunio ac Addysg Wybodus drwy Ymchwil yn yr Amgylchedd Adeiledig (WIDER-BE), a gymeradwywyd gan y Brifysgol yn 2017. Mae'r buddsoddiad yn adlewyrchu cydnabyddiaeth y Brifysgol o rôl allweddol yr Ysgol yn y gwaith o gynhyrchu ymchwil ac arloesedd yng Nghaerdydd.

Prif ffocws y buddsoddiad oedd adnewyddu Adeilad Bute, adeilad Rhestredig Gradd II sydd wedi bod yn gartref i'r Ysgol am y 100 mlynedd diwethaf. Mae hyn wedi creu stiwdios sy’n fwy eu maint, sy’n fwy golau ac sydd â mwy o hyblygrwydd iddynt. Mae cyfleusterau’r gweithdai wedi’u hehangu gyda gweithdy pren a metel mwy ei faint, a chyfleusterau saernïo digidol sy’n cwmpasu’r technolegau torri laser diweddaraf, argraffu 3D a CNC (Rheoli Rhifol Cyfrifiadurol), a braich robotig; mae’r rhain yn gyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer. Mae Lab Byw newydd wedi'i gynllunio er mwyn gwneud ymchwil rhyngddisgyblaethol yr Ysgol, a’r effaith mae’r ymchwil honno’n ei chael, yn fwy gweladwy. Mae gwell swyddfeydd ar gyfer staff, a mannau cyfarfod gwell i helpu i feithrin ymchwil gydweithredol, rhyngddisgyblaethol, wedi’u creu.

Ers REF 2014, rydyn ni wedi parhau i gynnal rhaglenni ymchwil hirsefydlog sy’n cael cryn effaith, gan ennill 88 o ddyfarniadau ymchwil, ac mae’r rhain wedi arwain at dwf o 23% yn ein hincwm.

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Mae ein Grwpiau Ymchwil ac Ysgoloriaethau yn ffurfio amgylchedd cynhwysol i gynhyrchu gwybodaeth, ysgogi trafodaeth a chreu effaith.

Rhoi sylw i dlodi tanwydd

Mae ein hymchwilwyr wedi datblygu adnodd newydd sy'n nodi'r aelwydydd sydd fwyaf angen cymorth i gynhesu eu cartrefi.

infra-red view of building suggesting heat loss

Ymchwil yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Explore the cutting edge research at the Welsh School of Architecture.

Solcer House

Effaith

Our impact is achieved by in-house teamwork and collaborations with government, industry and NGOs.