Ewch i’r prif gynnwys

UA 17 Astudiaethau Busnes a Rheolaeth

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn un o ddwy ysgol fusnes yn unig yn y DU sydd wedi cynnal y sgôr uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil. Mae'r canlyniad hwn yn adlewyrchu ein diwylliant colegol, cynhwysol a chyfranogol, a'n hethos Gwerth Cyhoeddus, lle mae ymchwilwyr yn cyfrannu ymchwil trylwyr, meddylgar ac ymgysylltiol sy'n cael effaith ar eu disgyblaethau a'r gymdeithas ehangach.

Ar gyfer REF 2021, cyflwynom ni 100 o ymchwilwyr ychwanegol o'i gymharu â 2014. O'i gyfuno â GPA chwartel uchaf, mae hyn yn ein gosod yn 2il o blith 108 o Ysgolion Busnes yn y DU am Bŵer Ymchwil (arwydd o raddfa ac ansawdd ein cyflwyniad).

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hyn.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd % 4 seren % 3 seren % 2 seren % 1 seren % Diddosbarth
Cyfanswm45.044.010.01.00.0
Allbynnau29.052.018.10.90.0
Effaith50.050.00.00.00.0
Amgylchedd100.00.00.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn ganolfan ryngwladol flaenllaw ar gyfer ymchwil ym maes ymchwil Busnes a Rheolaeth, ac ethos Gwerth Cyhoeddus cyfannol sy’n ei harwain. Mae hyn yn golygu cyd-greu addysg ac ymchwil ryngddisgyblaethol o safon uchel sy'n rhoi gwerth cymdeithasol ac economaidd. Mae ein hymchwil feirniadol ac ymgysylltiol, sy’n seiliedig ar ddamcaniaethau, yn hollbwysig er mwyn cyflawni'r dyheadau hyn o ran Gwerth Cyhoeddus. Mae cyfres gyfoethog ac amrywiol o allbynnau ymchwil ac astudiaethau achos o effaith yn adlewyrchu ein Prif Heriau – swyddi o safon, economïau teg a chynaliadwy, sefydliadau'r dyfodol, llywodraethu da ac arloesedd cyfrifol.

Rydym yn annog diwylliant ymchwil colegol, cynhwysol a chyfranogol, lle mae myfyrwyr yr Ysgol yn ogystal â myfyrwyr doethurol yn cyfrannu i’w disgyblaethau a chymdeithas. Mae ein gwerthoedd yn adlewyrchu egwyddorion ymchwil pwysig - cyd-greu gwybodaeth, datblygu cysylltiadau rhyngddisgyblaethol, cynnal diwylliant o gydweithio, ac ymgysylltu cynhwysol - sy'n sail i'n gweithgareddau ymchwil.

Ers REF 2014, mae ein hymchwil wedi cael hwb yn sgîl cynnydd o 44% mewn cyllid ymchwil a'n cynrychiolaeth ar y cyd ar fyrddau UKRI, cyrff cynghori, cymdeithasau dysgedig, a bron i 100 o fyrddau golygyddol. Mae ein partneriaethau ymchwil wedi cryfhau hefyd, gan gynnwys gweithio gyda phartneriaid strategol Xiamen, Melbourne a Politecnico di Milano a sefydliadau megis Cyngres yr Undebau Llafur, Sefydliad Llafur Rhyngwladol, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Anti-Slavery International a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Blaenoriaethau hirsefydlog yr Ysgol yw cynnal ein diwylliant ymchwil deinamig, cynhwysol a cholegol, ochr yn ochr â gwneud cynnydd yn erbyn themâu ein Her Fawr. Byddwn hefyd yn parhau i ymarfer dull cyfrifol a moesegol dan arweiniad ein hymchwil ein hunain, ac ymchwil eraill.

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Mae ein cymuned ymchwil gref a chynaliadwy yn gwneud cyfraniadau nodedig a phwysig er budd cymdeithas.

Speaker talking to audience

Ymchwil yn Ysgol Busnes Caerdydd

Rydym yn cyd-greu ymchwil flaengar sydd ar flaen y gad er mwyn helpu i fynd i’r afael â heriau byd-eang ym meysydd gwaith, arloesedd, economïau a sefydliadau.

Women working in front of whiteboard

Effaith ymchwil Ysgol Busnes Caerdydd

Rydym yn canolbwyntio ar wneud y mwyaf o effaith ein hymchwil er budd ystod helaeth o randdeiliaid, ac yn bwysicach na dim, cymdeithas yn ei gyfanrwydd.